Un Noson Olaf – Betsan Ceiriog
Ymunwch gyda Naomi a Dion ac ein gwestai arbennig – Betsan Ceiriog draw yn yr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023
CYNGERDD LANSIO ORGAN SOAR | SOAR ORGAN LAUNCH CONCERT

Mae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein trysoMae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein tryso#donnaedwardsr cymunedol. Byddwn […]
Swyddog Beics Antur x 2

Dyddiad cau: 31 Awst 2023
Cyfrannu/Donate

Sefydlwyd y clwb + yn 2017 i ymateb i’r angen o fewn cymuned LGBTQ+.
Cyfrannwch yma
Gwirfoddoli/Volunteer

Cysylltwch i fod yn aelod neu i wirfoddoli!
Mwy am y Clwb LHDTC+ yma
Eisteddfod Genedlaethol 2023

Rydym wedi cael wythnos gwerth chweil yn yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn wythnos lawn cymdeithasu, hwyl a chwerthin. Diolch i bob person sydd wedi ein cefnogi drwy roddion.
Mae wedi galluogi i ni fynd i’r eisteddfod eleni. Rydym yn diolch i chi o waelod ein calonnau am y profiad bythgofiadwy hwn.
Cymuned ar-lein Egin | Egin Online Community

Un o’n nodau ydy adeiladu cymuned ar draws Cymru – grwpiau lleol sy’n cysylltu â’i gilydd i rannu eu gweledigaethau, eu syniadau a’r gwersi mae nhw wedi eu dysgu ar hyd y ffordd.
Fel rhan o’r Gymuned Ar-Lein, cewch ddysgu mwy am brosiectau eich gilydd, cael eich hysbrydoli gan ddarganfod beth arall sy’n digwydd o gwmpas Cymru, trafod problemau ac atebion, a chwrdd â phobl yn eich ardal. Bydd Cymuned Ar-lein Egin hefyd yn caniatáu ichi rannu’ch lluniau a’ch fideos, creu digwyddiadau a gwahodd eraill, darganfod pa brosiectau a sefydliadau sy’n digwydd o’ch cwmpas, a dechrau trafodaethau newydd am bynciau sy’n agos at eich calon.
Hyd yn oed os nad ydych yn cael eich cefnogi gan y rhaglen Egin, gallwch wneud cais i ymuno â’r Gymuned Ar-lein Egin a chymryd rhan mewn trafodaethau trwy glicio yma a gofyn am ymuno – cewch eich derbyn os ydych yng Nghymru neu’n agos, ac os ydy eich gwaith neu ddiddordebau yn cyd-fynd â newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae’r platfform ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Community Engagement | Amgysylltu-ar-gymuned
Mae cynulleidfaoedd a chymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Yn y ffilm hon, mae Gemma Hicks, Uwch Gynhyrchydd Ymgysylltu a’r Gymuned, a Ffion Wyn Morris, Cynhyrchydd Ymgysylltu a’r Gymuned yn cyflwyno’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’n cymunedau.
Ymunwch â’r tim

5 x Swyddogion Cymunedoli
Cyflog £25,000 – £35,000
Antur Nantlle

Antur Nantlle yw’r cwmni cymunedol sy’n gweithio er lles ardal Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd, Gogledd Cymru
Capel Carmel
Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Ein nod yw adnewydduo’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy, a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan.
Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgwâr Plas Carmel. Ein gweledigaeth yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a’u pasio nhw ymlaen i’r cenedlaethau ifanc, tra’n gwneud lle i rhai newydd. Yma, rydym yn pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda’n byd ni heddiw, a’r rheiny yn rhan annatod o fywydau’r trigolion lleol. O lwybrau’r Seintiau a’r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd â hud a chwedlau lleol. Ein gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth.
Clwb Cerdded

Teithiau cerdded wythnosol (os yw’r tywydd yn caniatau) yn yr ardal, gydag anhawster a phellter yn amrywio. I weld y rhaglen ddiweddaraf, gweler y poster yn Ty’n Llan, ar ein tudalen Facebook neu cysylltwch â Meinir Williams ar 07717 488177. Mae’r teithiau fel arfer yn cychwyn yn Ty’n Llan a naill ai’n cwblhau cylchdaith oddi yno, neu gyrru pellter byr i’r man cychwyn, lle bynnag fo hynny! Esgidiau a dillad addas yn hanfodol – croeso i bawb!
Dydd Gwener | 9:30-11:00
Clwb Cinio Pobl Hŷn

Bydd ein clwb cinio i bobl hŷn yn cychwyn ar Fedi 21 a chyn hir byddwn yn rhyddhau manylion am y fwydlen a sut i archebu ymlaen llaw. Hoffwn ddiolch i’n harianwyr Mantell Gwynedd a Sefydliad Cymunedol Cymru am y grantiau sydd yn ein galluogi ni i gynnig pryd 2 gwrs am bris gostyngedig i bobl oedran 60+.
Dydd Mercher | 12:00 – 14:30
Ymarfer Corff Cadair (Neu Sefyll)

Dewch i gadw’n ystwyth mewn partneriaeth a Dawns i Bawb. £2 y sesiwn, gan gynnwys paned ar y diwedd. Addas i bob oed a gallu. Llefydd cyfyngedig i 12 person felly rhaid archebu ymlaen llaw. Cysylltwch â post@dawnsibawb.org / 01286 685220 i gofrestru.
Dydd Mercher | 10:00 – 10:45
Lôn i Les

Dewch i ymuno â chriw hwyliog Lôn i Les. Cewch gyfle i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau ar draws Benrhyn Llŷn a chael y cyfle i gymdeithasu dros baned a chacen. Gall O Ddrws i Ddrws eich cludo i’r digwyddiad neu weithgaredd a mynd a chi adref.
Ydach chi’n adnabod rhywun fyddai’n hoffi ymuno gyda’r grŵp? Rhywun sydd heb fod allan es tro byd, rhywun sydd wyrach yn unig? Mae croeso cynnes a llond trol o hwyl i gael gyda chriw Lôn i Les. Mae ychydig o gymdeithas yn gwneud lles i bawb!
Cysylltwch â Lois am fwy o fanylion 07867 531 248 neu lois@oddrwsiddrws.cymru
Gwefryl

Car trydan i’w rannu gyda trigolion Llŷn ydy Gwefryl. Cofrestrwch â chlwb ceir O Ddrws I Ddrws er mwyn defnyddio ein Hyundai Kona neu ennill arian drwy rannu’ch car chi pan nad ydych yn ei ddefnyddio. O ddwy awr i ddau ddiwrnod, rhatach na prynu car eich hyn.
Eich car chi ddim ar gael am pa bynnag reswm? Defnyddiwch ein car ni!
wil@oddrwsiddrws.cymru
neu 07500 894 331
Rydym yn defnyddio Karshare i weinyddu’r gwasanaeth, byddwn yn eich cofrestru ar eu gwefan ac yn talu unrhyw flaendal. Bydd angen lawr-lwytho eu ap fydd hefyd yn oriad i’r car.
Gallwch gofrestru ar Karshare ar eich liwt eich hyn hefyd.
Sesiynau Jamio Blŵs | Informal Blues Jam Sessions
Dysgu a Mwynhau yn Gymraeg / Learn and Enjoy in Welsh
Stori Carrie
Dysgu a Mwynhau yn Gymraeg / Learn and Enjoy in Welsh
Stori Alex Bond
Un Dydd Ar y Tro gan Hunaniaith efo Leisa Mererid

Ymerferiadau llesiant meddyliol dyddiol i blant ysgol gynradd, gyda Leisa Mererid.
Trefnir gan Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd)
Gardd Bywyd Gwyllt Cymunedol Tanygrisiau

Mae prosiect cyffrous newydd yn dod i Danygrisiau…un lle gall y gymuned gyfan gymryd rhan i drawsnewid darn o dir segur ac sydd wedi gordyfu yn rhywle hardd, ymlaciol a gwych ar gyfer bywyd gwyllt! Dilynwch ni yma am ddiweddariadau a lluniau ar gynnydd!
Yr Amgylchedd

Mae ein gwaith amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl, ac felly mae’n amrywiol iawn! Dros Gaeaf, rydym yn gwneud llawer o waith yn rheoli’r rhywogaeth ymledol Rhododendron Ponticum. Yn ystod y Gwanwyn a’r Haf rydym yn canolbwyntio ar reoli lledaeniad Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) a Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed), yn enwedig ar hyd ein hafonydd. Mae’r planhigion estron hyn yn fygythiad ofnadwy i’n bywyd gwyllt brodorol, ac rydym yn rheoli’r rhywogaethau hyn mewn gwahanol ardaloedd i’w hatal rhag dod yn broblem rhy fawr.
Mae maes arall o’n gwaith amgylcheddol yn cynnwys plannu coed. Ein nod yma nid yn unig yw creu mwy o goetir yn y Fro, ond hefyd fel ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd. Rydym wedi plannu perllan gymunedol, yn ogystal â choed ffrwythau a dolydd blodau gwyllt yn yr holl ysgolion lleol, ac rydym yn bwriadu cychwyn meithrinfa goed i dyfu coed o darddiad lleol, y gellir eu dosbarthu wedyn i drigolion a phrosiectau eraill sydd eisiau eu plannu.
Rydym yn parhau i ddatblygu mannau gwyrdd a gerddi cymunedol ar draws yr ardal, ac wedi sefydlu sawl safle hynod lwyddiannus gyda phartneriaid gwahanol, o gymdeithasau tai i ysgolion!
Rydym yn gweithio gyda grwpiau ag unigolion o bob oed i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, llygredd, a sut i fwynhau a gofalu am natur. Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddarn o’r prosiectau cymunedol hyn, defnyddiwch y botwm ‘cysylltwch â ni’ isod i ddweud wrthym beth yr hoffech ei wneud!
Cysylltwch â ni
Pwy yw Antur Waunfawr
Ffilm fer am pwy yw Antur Waunfawr a beth maen nhw’n ei wneud.
Gig Daf Owain

Cerddoriaeth fyw am ddim gyda’r canwr Cymraeg Dafydd Owain. Perfformiad yn y prynhawn – amser i’w gadarnhau!
26/08
15:00
Buddsoddi / Investing
BUDDSODDI
Rydym yn gwerthfawrogi’r ffydd a’r ymddiriedaeth mae pobl wedi ei ddangos ers lansio’r ymgyrch i godi arian i droi breuddwyd o sefydlu llety mewn perchnogaeth cymunedol yn realiti.
Mae’r llety bellach wedi ei adnewyddu a phob llofft yn derbyn gwesteion. Serch hynny menter gymdeithasol yw Llety Arall ac rydym yn parhau i fod angen buddsoddiad i sicrhau bod hon yn fenter hir dymor fydd yn y pendraw yn troi’n fusnes nid er elw llewyrchus, all gyfrannu a rhoi’n ôl i gymuned Caernarfon.
Mae dal modd prynu cyfranddaliad £250 i fod â rhan yn y fenter. Golyga hyn bod gennych un bleidlais mewn cyfarfod cyffredinol; gallwch brynu mwy nag un cyfranddaliad ond un bleidlais fydd i bob aelod. Cysylltwch drwy ebost post@lletyarall.org neu ffoniwch 01286 662907.
Rydym wedi sôn o’r cychwyn ein bod yn awyddus i sicrhau bod pawb yn gallu bod yn rhan o’r fenter ac felly mae posib buddsoddi trwy archeb banc unai £10 y mis am 25 wythnos neu £25 am 10 wythnos.
Gwyliwch y ffilm a helpodd ni gyrraedd ein targed cychwynnol. Mae negeseuon yr un mor berthnasol heddiw.
Hanes Y Tŵr

Mae gan Bwllheli hanes cyfoethog a chymuned glos. Tyfodd y dref o amgylch y diwydiannau adeiladu llongau a physgota a’r chwarel gwenithfaen. Gyda phoblogaeth o tua 4,000 o bobl, mae’r dref yn cynnig traethau a tirwedd hardd, a diwylliant lleol bywiog. Mae’n croesawu llif cyson o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.
Adeiladwyd Y Tŵr yn 1875 ac mae’n sefyll mewn lleoliad canolog ac amlwg ar y stryd fawr. Bu’r adeilad unwaith yn ganolbwynt prysur – gwesty, bwyty, bar ac ystafell i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Crewyd atgofion a datblygwyd syniadau cyffrous yn yr adeilad hwn. Credwn y gallai Y Tŵr unwaith eto ddod yn ganolbwynt cymunedol bywiog a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r dref ac yn helpu i adfer y stryd fawr.
Llety Arall: Ein Stori
Ein Stori
Cymdeithas Budd Cymunedol yw ‘Llety Arall Cyf’, sy’n eiddo i’w haelodau.
Sefydlwyd Llety Arall yn 2018 yn fenter gymunedol gyda’r nod o ddatblygu llety o safon mewn hen adeilad gwag yng nghanol Caernarfon. Roeddem am gynnig profiad Cymreig a Chymraeg a’r nod heddiw, fel bryd hynny yw gweithredu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfeillgar, gan wneud yn fawr o fod yn rhan o economi lleol.
Yr hyn sy’n bwysig i ni…
- Iaith a diwylliant Cymru
- Amgylchedd a chynaladwyedd
- Economi leol
- Cymuned
Sgyrsiau GwyrddNi #1 – Tyfu Bwyd Cymunedol
Dyma’r gyntaf o Sgyrsiau GwyrddNi, y tro hwn yn canolbwyntio ar Dyfu Bwyd Cymunedol (Hyd 22).
Dyma becyn gwybodaeth am y panelwyr a’u mentrau amrywiol: YMA
Ynni Padarn Peris – Maldwyn Peris
Dyma gyflwyniad a roddwyd gan Maldwyn Peris yn ystod trydydd Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Peris.
Trawsgrifiad Cymraeg o’r sgwrs:https://bit.ly/MaldwynPerisCymraeg
Trawsgrifiad Saesneg o’r sgwrs: https://bit.ly/MaldwynPerisTranscript
Mae Maldwyn yn un o sylfaenwyr Ynni Padarn Peris ac yma mae’n trafod sefydlu’r fenter, a datblygiad y gwaith ers hynny. Am ragor o wybodaeth am Ynni Padarn Peris a manylion cyswllt cliciwch YMA
Sgwrs GwyrddNi #3 – Trafnidiaeth Gyhoeddus
Sgwrs am ddatblygiadau cymunedol, sirol, cenedlaethol ac ysbrydoliaeth ryngwladol ym maes trafnidiaeth. O lwybrau cerdded a beicio, i fentrau rhannu ceir, darpariaeth bysiau, gwelliannau trenau a chysylltiadau Ewropeaidd. Yng nghwmni:
Dr Victoria Winkler – Sefydliad Bevan ac Aelod o Fwrdd Traveline
Lee Robinson – Trafnidiaeth Cymru
Anglea Jones – Parc Ceneldaethol Eryri
Wil Parry – O Ddrws i Ddrws
Pecyn Gwybodaeth: YMA
Clwb Plant / Kids Club

Ein prosiect newydd ar gyfer 2021 wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru yw’r clwb plant sydd newydd ei ffurfio yn Antur Stiniog. Fe’i sefydlwyd yn y Parc Beicio i roi cyfle i blant lleol bro Ffestiniog ddefnyddio a mwynhau’r hyn y mae Antur Stiniog wedi’i greu ar y safle yma yn y parc beicio. Rhan fawr o hyn yw datblygu eu sgiliau beicio mewn amgylchedd dysgu diogel a strwythuredig a darparu sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel. Y nod yn y pen draw yw meithrin beiciwr mynydd lawr allt o’r ardal allai fod yn bencampwr y byd yn y dyfodol.
Fel Cwmni cymunedol lleol, mae hwn yn gyfle gwych i gynnig cyfle nid yn unig i bobl ifanc brofi a datblygu eu sgiliau beicio ond hefyd i greu cyfeillgarwch, herio eu hunain a magu hyder.
Ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Wrth ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn cefnogi ein gwaith ac yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ddiogelu ei dyfodol.
Fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn:
-
Derbyn yn Blwyddlyfr blynyddol
-
Derbyn ein cylchlythyr Y Cafn
-
Cael blaenoriaeth wrth archebu llety
-
Cael gwahoddiad i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
-
Rhan o’r gymuned o bobl sy’n caru Enlli
Gellir ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli drwy lenwi’r ffurflen isod, neu drwy lawrlwytho’r ffurflen, ei hargraffu a’i dychwelyd drwy’r post i’r cyfeiriad isod, neu ffoniwch 07904 265604 neu e-bostiwch post@enlli.org am fwy o wybodaeth.
Sylwer: ar gyfer ceisiadau aelodaeth ar-lein, rydym yn defnyddio rhaglen trydydd parti trwy LocalGiving. Bydd y taliad yn cael ei brosesu ganddynt hwy mewn ffenestr newydd yn eich porwr, a fydd yn gofyn am eich taliad.
Neu cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais.
Cyfrannu / Donate

Mae adeiladau Ynys Enlli yn rhan o gymeriad unigryw’r ynys. Maent yn gartrefi i gymuned yr ynys ac i’r nifer fawr o ymwelwyr sy’n aros ar yr ynys bob blwyddyn, gan werthfawrogi heddwch ac awyrgylch y fangre arbennig hon.
Mae’r adeiladau hanesyddol yn amrywio o adfeilion tŵr yr abaty o’r 13eg ganrif i ffermydd ystâd a adeiladwyd gan yr Arglwydd Niwbwrch yn y 19eg ganrif. Mae pob adeilad, gan gynnwys yr adeiladau fferm, yn cael eu gwarchod naill ai fel Heneb neu fel Adeilad Rhestredig (gradd 2). Mae rhestr hir o waith adnewyddu hanfodol, er enghraifft ffenestri sydd yn dirywio yn yr hinsawdd arforol, a thoeau sydd wedi sefyll am ddegawdau ac sydd angen eu hadfer gan eu bod wedi dechrau gollwng wrth i lechi symud yn ystod stormydd y gaeaf. Mae’r gost o gynnal a chadw’r hen adeiladau pwysig yn fwy nag incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth.
Gwirfoddoli yn Ynys Enlli

Mae gwirfoddoli yn gyfle i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth ar Ynys Enlli sy’n cynnal tir ac adeiladau’r ynys a gwarchod ei bywyd gwyllt a’i harddwch naturiol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ymweld ag aros ar yr ynys tu hwnt i’r tymor gwyliau, neu i gael treulio cyfnod hir ar yr ynys yn ystod y tymor. Am eich llety ar yr ynys, mae disgwyl i chi weithio hyd at 5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Ewch amdani, gwnewch gais heddiw!
Gwirfoddolwyr Cyn ag ar ôl y Tymor (Chwefror-Mawrth, Hydref)
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda’r tîm ar yr ynys o ganol Chwefror i ddiwedd Mawrth. Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu ail agor y tai yn barod at y tymor gwyliau. Mae yna lawer o waith glanhau, peintio a pharatoi i’w wneud yn yr wythnosau yma- felly croeso i chi ymuno am wythnos neu fwy. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda ni bob mis Hydref, ar ôl y tymor gwyliau orffen, er mwyn paratoi’r ynys at y Gaeaf.
Gwirfoddolwyr Hir Dymor (Ebrill-Medi)
Rydym yn edrych am wirfoddolwyr hir dymor i gynorthwyo yn ystod y tymor gwyliau. Mae tymor gwyliau Ynys Enlli yn rhedeg rhwng dechrau Ebrill a diwedd Medi, ag mi rydym yn edrych am unigolion neu gwpwl o ffrindiau/partneriaid i ymuno gyda’r tîm am 3-8 wythnos ar y tro. Mi fyddwch yn helpu gydag amryw o dasgau megis glanhau a thorri gwair.
Gwirfoddolwyr Crefftus (Chwefror-Hydref)
Os oes gennych chi sgiliau penodol yn un o’r pethau isod rydym â diddordeb arbennig mewn clywed gennych.
-
Gwaith Saer
-
Gwaith calch, pwyntio, plastro, rendro
-
Codi waliau cerrig sych
-
Gwaith toi
-
Sgiliau gwaith tai cyffredinol
Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio i wirfoddoli gyda ni, cwblhewch y ffurflen gais a anfonwch i’r e-bost/cyfeiriad post ar ddiwedd y ffurflen. Cysylltwch â bardseyenlli@gmail.com os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Llechi, Glo, Cefn Gwlad

Mae Sylfaen Cymunedol newydd ddathlu dwy flynedd o gydweithio gyda phrosiect Llechi, Glo, Cefn Gwlad, mudiad sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth gymunedol ymhlith pobl iau mewn naw ardal ledled Cymru.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Sefydliad Rank a’r Loteri Cymunedol.
Rôl Sylfaen ydi paratoi a darparu hyfforddiant theori, praxis, a sgiliau datblygu cymuned.
Sbarc – Mis Awst

SBARC – Roc Dydd Mawrth | 22.8.2023 | 10:00 – 16:00 Lleoliad: GALERI CAERNARFON Tocynnau: £5 Oedran: 12 – 18 oed Yn y gweithdy yma, bydd cerddorion amlwg y sin roc Gymraeg yn rhannu eu doethineb cerddorol efo chi. /// SBARC is back once again to bring the summer holidays to a close! In this […]
Aelodau Cymunedoli Cyf | Cymunedoli Cyf members

- Antur Aelhaearn
-
Antur Nantlle
-
Antur Stiniog cyf.
-
Antur Waunfawr
-
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Cwmni Bro Ffestiniog
-
Cwmni Nod Glas
-
Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)
- Galeri, Caernarfon
- GwyrddNi
-
Llety Arall
-
Menter Felinheli
-
Menter Iaith Gwynedd
-
Menter Ty’n Llan
-
Menter Y Plu
-
Menter Y Tŵr
-
O Ddrws i Ddrws
-
Partneriaeth Ogwen
- Y Pengwern
-
Plas Carmel
-
Seren
-
Sylfaen Cymunedol
-
Tafarn yr Heliwr
-
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
-
Ynni Cymunedol Cymru
-
Ynni Llŷn
-
Yr Orsaf
- Dref Werdd
Gŵyl Fedi 2023

Dydd Sadwrn 2 Medi
Bob Delyn a’r Ebillion / Maes Parcio / Traed Moch Môn
Am ddim
Rhaglen Cymunedoli (Eisteddfod 2023)
Beth ydi Cymunedoli Cyf?
Llyfryn Cymunedoli
Egin: Cefnogi cymunedau yng Nghymru i daclo newid hinsawdd
Mae Egin yn raglen sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd.
Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.
Gyda’r heriau niferus sy’n ein hwynebu nawr ac yn y degawdau nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n gallu dod at ei gilydd i siarad, cynllunio a chreu’r newidiadau y mae nhw eisiau eu gweld – i greu dyfodol sy’n deg, cynaliadwy, a sy’n gweithio i bawb.
Rydym yn gwybod y gallai hi fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a beth i’w wneud, a dyna pam yr ydym yn cysylltu grwpiau cymunedol gyda Mentoriaid Cymheiriaid. Mae nhw’n bobl sydd eisoes wedi gwneud prosiectau tebyg ac sy’n hapus i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’ch helpu i wneud y newidiadau rydych eisiau eu gweld.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau heb hanes blaenorol o weithio ar hinsawdd a chynaliadwyedd, neu sydd ddim yn siŵr o ble i ddechrau.
Mae Egin yn cael ei redeg gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) a bydd yn rhedeg tan 2029. Mae’n cael ei hariannu trwy Camau Cynaliadwy Cymru – Grant Mentora; mae’r grantiau yn cael eu gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’r arian yn dod o’r Cynllun Asedau Segur – sy’n rhoddi arian wedi ei adael heb ei gyffwrdd am fwy na 15 mlynedd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Gall grwpiau a gefnogir gan Egin dderbyn hyd at 3 diwrnod o Fentora Cyfoedion gan bobl sydd eisoes wedi gweithio ar brosiectau tebyg. Bydd mentoriaid yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau, creu cynllun gweithredu, a mesur effaith eich prosiect. Gall grwpiau a gefnogir hefyd gael archwiliad ynni ar adeilad cymunedol trwy ein partneriaid Asiantaeth Ynni Severn Wye, a gall unrhyw grŵp sydd wedi derbyn mentora fod yn gymwys i wneud cais am grant o hyd at £15,000 o grantiau Egin gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mwy o wybodaeth ar www.egin.org.uk
Fidio Gwesty Seren Video

Fidio byr yn arddangos Gwesty Seren, ein Gwesty 3 seren sydd yn cynnig gwyliau ysbaid i oedolion efo anableddau dysgu.
Gerddi ‘Stiniog Gardens

Fidio byr yn dangos Gerddi ‘Stiniog, sydd wedi ei leoli tu ol i Gwesty Seren.
Awen Bro – Gwyl Car Gwyllt 2023
Wel dyma ni cip olwg i chi o gwyl Car Gwyllt 2023 lle does ddim rhaid fod yn car, yn feic, yn tractor dim ond ychydig bach yn wyllt.
Prosiectau Seren Projects
Fidio llawn yn dangos Seren ar ei orau.
Yn hyrwyddo prosiectau Seren a’n unigholion.
Seren
Fidio byr yn dangos prosiectau Seren.
Plas Bodfa Projects

Prosiectau unigryw, cynhwysol, creadigol wedi eu gwreiddio yn Ynys Môn ac yn ymestyn ar draws Cymru a’r byd, yn cyfuno celf gyfoes ac adrodd storiâu gyda’r gwyddorau a chysylltiad gyda holl elfennau ein hamgylchedd.