Datblygu Cymunedol Drwy Fentro’n Gymdeithasol

Mae’r fideo hwn yn amlygu’r cydweithio rhwng Addysg Oedolion Cymru, Cwmni Bro Ffestiniog, a Raymond Williams Foundation. Gyda’i gilydd, maent wedi bod yn cynnal trafodaethau am y dyfodol berthynas rhwng Datblygu Cymunedol ac Addysg Oedolion yng Nghymru.
Beach of Dreams

Ar hyn o bryd mae TAPE yn rhan o brosiect cyffrous o’r enw Beach of Dreams; Rydym yn rhan o rwydwaith o seflydliadau, artistiaid a chymunedau mewn cenhadaeth gyffredin i archwilio ac ymateb i’r heriau hinsawdd enbyd sy’n wynebu rhanbarthau arfordirol y DU.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Jason Singh, artist, bîtbocsiwr natur, cynhyrchydd, DJ, curadur, hwylusydd a pherfformiwr. Mae wedi gweithio gyda phobl fel y BBC, Tate Britain, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai!
Bydd TAPE Sound yn gweithio ochr yn ochr â Jason i gipio sain o wahanol ffynonellau ym Mae Colwyn a’r ardaloedd cyfagos i’w defnyddio fel rhan o brofiad sonig trochi. Bydd hefyd yn ceisio dal straeon a safbwyntiau o’r gymuned leol.
Mae TAPE yn falch o fod yn rhan o’r dathliad arfordirol hwn ochr yn ochr ag artistiaid a gomisiynwyd a chymunedau lleol ledled y DU!
Lumiere Project

Mae prosiect Lumiere yn rhan o Wyl y Goleuni mewn cydweithrediad a Chyngor Tref Bae Colwyn, Creu Conwy ac ystod o bartneriaid eraill. Mae TAPE yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys ein clwb cyfryngau rheolaidd a chlwb celf, i greu gosodiadau a fydd yn cael eu gosod mewn ffenestri siopau ym Mae Colwyn a’u goleuo. Cysylltwch â ni i ddysgu sut y gallwch chi gymryd rhan, neu ymunwch â ni ar yr 28ain o Dachwedd ar gyfer datgeliad mawr y gosodiadau!
Ela: Cynrychioli plant Bethesda
Ar yr un pryd ag yr oedd y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn cael eu cynnal yn 2022-23, roedd ein rhaglen addysg yn cynnwys:
*Sesiynau am newid hinsawdd;
*Ymweliadau ag atebion hinsawdd lleol;
*Cynulliadau i blant a phobl ifanc;
*Cyflwyniadau gan y plant a phobl ifanc i’r gwasanaethau cymunedol; a
*Sesiynau gweithredu ymarferol.
Dyma Ela o Ddyffryn Ogwen yn rhannu sut brofiad oedd bod yn rhan o gynulliadau hinsawdd yr ysgolion, a sut oedd y profiad o gynrychioli plant Bethesda o flaen yr oedolion, a sut oedd hi i ffeindio rhai o’u syniadau wedi’u hychwanegu i’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol.
Rydym nawr yn dechrau rolio ein cynnig addysg ar gyfer Cam Gweithredu Cymunedol GwyrddNi – sy’n golygu y bydd ysgolion yn cael cymryd rhan mewn prosiectau penodol a gweithredu – cadwch olwg am fwy o fanylion!
www.gwyrddni.cymru
Da i’r waled a’r blaned: Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Bro Ffestiniog

Dydd Sadwrn, yr 20fed o Orffennaf – cynhaliwyd Cyfnewidfa Gwisg Ysgol ym Mlaenau Ffestiniog.
Cyfle i deuleuoedd dod draw am banad, gadael i’w plant chwarae ar y byrddau crefft a chael peintio eu gwynebau, tra’n edrych drwy’r 100kg neu fwy o wisgoedd ysgol cafodd eu rhoddi dros yr wythnosau diwethaf.
Marchnad Lleu – Hybu Tyfwyr a Chrewyr Lleol yn Nyffryn Nantlle

Dechreuwyd Marchnad Lleu o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu doniau a’u cynigion.
Cymdeithasu Gyda’r Mentrau Gymdeithasol: Opra Cymru
Ymunwch â ni ar y rhifyn arbennig hwn o’n podlediad wrth i ni ddathlu carreg filltir : pen-blwydd Opra Cymru yn 15 oed! Ers degawd a hanner, mae Opra Cymru wedi bod yn perfformio gan ddod â thraddodiadau cyfoethog, melodaidd Cymru yn fyw gydag angerdd a chreadigrwydd bod rheini yn operau enwog neu rhai wedi cyfansoddi o’r newydd. Yn y bennod hon, byddwn yn mynd ar daith hiraethus drwy hanes Opra Cymru gyda cyfarwyddwr y cwmni Patrick Young, gan ailymweld â rhai o’u perfformiadau mwyaf cofiadwy . Byddwn hefyd yn plymio i mewn i’r prosiectau cyffrous sydd ar y gorwel, o gynyrchiadau newydd arloesol i allgymorth cymunedol sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. P’un mai ffan ers tro neu’n newydd i fyd yr opra Gymraeg, mae’r podlediad hwn yn siŵr o swyno ac ysbrydoli. Gwrandewch i glywed straeon y tu ôl i’r llenni, a chipolwg ar yr hyn sydd nesaf i Opra Cymru wrth iddynt barhau i swyno cynulleidfaoedd ar draws Gymru a thu hwnt. Ymunwch â ni i ddathlu hud Opra Cymru—15 mlynedd a chyfri!
Cysylltu/Connecting Dyffryn Peris: Gwennan
Dyma Gwennan, a oedd yn rhan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris, yn sôn am ei phrofiad ac am ei chyffro am y syniad o Bartneriaeth Dyffryn Peris.
Ers i ni ffilmio hyn, mae pethau wedi bod yn symud! Mae nifer o fudiadau ac unigolion yn parhau gyda’r gwaith o sefydlu Partneriaeth Dyffryn Peris. Bydd yn rwydwaith datblygu cymunedol fydd yn dod a chefnogaeth ymarferol, arbenigedd lleol, adnoddau, prosiectau a digwyddiadau ychwanegol i’r fro.
Mae croeso cynnes i drigolion yr ardal i’r sgwrs gymunedol nesaf ar y 18fed o Fedi am 18:00 yn Caban, Brynrefail – cysylltwch hefo lowri@deg.cymru am fwy o wybodaeth.
Cofio’r Cynulliadau Hinsawdd – Roger & Ronwen
Yn 2022 a 2023, cynhaliwyd cyfrys o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum rhan o ogledd orllewin Gwynedd i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn (yr ardal hon) ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?
Dysgwch fwy
Yn gynharach eleni, buom yn cyfweld ag aelodau o’r gymuned am eu profiadau o’r gwasanaethau. Dyma Roger a Ronwen yn hel atgofion am eu hatgofion o gymryd rhan yng ngwasanaethau Bro Ffestiniog.
Garddio a Thyfu: Aisha
Dyma Aisha, sy’n byw ym Methesda ers 15 mlynedd, yn siarad am y llysiau mae hi’n eu tyfu a’r ffordd mae Cynulliadau hinsawdd GwyrddNi wedi ei newid hi.
“Mae wedi rhoi hyder i mi, mae wedi codi fy ysbryd… Fedrai’m coelio’r cyfle sydd gen i hefo Ysgol Abercaseg – mae’n anhygoel!” meddai am ei rôl newydd yn dysgu plant ysgol leol am dyfu hadau.
Dysgwch fwy am GwyrddNi a sut y gallwch chi gymryd rhan yn www.gwyrddni.cymru
Os ydych chi ym Methesda ac eisiau cymryd rhan mewn tyfu bwyd yn y gymuned, cysylltwch â chris@ogwen.org
Stori’r Tir (Story of the Land) Dyffryn Peris – Lindsey
Dyma Lindsey, hefo Lowri, yn sôn ychydig am y prosiect Stori’r Tir, prosiect a ddaeth o syniadau’r plant yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Peris.
Mae Stori’r Tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu storiau ynghylch ein perthynas gyda’r tir yn Nyffryn Peris.
“Dan ni’n dod a’r gymuned at ei gilydd i gipio doethineb y cenedlaethau blaenorol, hybu hunaniaeth a chyswllt gyda’r tir a’r iaith Gymraeg.” – gwelwch restr o’r prosiectau a digwyddiadau yma.
Uwchraddio Adeiladau: Yr Aelwyd, Blaenau Ffestiniog – Elfed Lewis
Yng ngogledd orllewin Cymru, mae gennym rai o’r costau ynni uchaf a rhai o’r cyflogau isaf yn y DU – dim yn gymysg gwych hefo’r nifer o hen adeiladau carreg anodd eu gwresogi sydd gennym yma!
Dim syndod felly mai un o’r eitemau yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol pob ardal oedd rhywbeth i’w wneud â chodi cartrefi ac adeiladau i safonau uwch o ran effeithlonrwydd ynni.
Mae Elfed Lewis yn arbenigwr ar ôl-osod, effeithlonrwydd ynni a Passivhaus. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Cwmni Bro Ffestiniog i uwchraddio’r Aelwyd, hen adeilad yr Urdd ym Mlaenau Ffestiniog. Y nod yw gallu dangos i bobl beth sy’n bosib – a dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib cael cartrefi cynnes, clyd sy’n rhad i’w rhedeg.
Ewch i www.gwyrddni.cymru neu cysylltwch hefo post@gwyrddni.cymru i ddysgu mwy neu i fod yn rhan o hyn!
Beicio i’r Gwaith: Margot a Pete
Yn y fideo hwn, mae Margot a Pete yn siarad am sut maen nhw’n cymudo i’r gwaith ar feic yn Nyffryn Ogwen.
Diddordeb mewn rhoi cynnig ar feicio, ond ddim eisiau prynu un eto? Mae gan Beics Ogwen, yn Nyffryn Ogwen, feiciau rheolaidd ac e-feiciau ar gael i’w llogi.
Yn y cyfamser, os ydych chi ym Mhen Llŷn, mae GwyrddNi ar hyn o bryd yn cefnogi Hyb Beiciau newydd yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Wrth ymuno am £20 y mis gallwch fenthyg un o’r beiciau yno – cysylltwch â llyn@gwyrddni.cymru i ddarganfod mwy!
Cwt Piclo (Pickling Shed) Dyffryn Nantlle – Trey
Dyma Trey, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Nantlle, yn sôn am sut daeth y syniad Cwt Piclo i fodoli.
Symudodd Trey i Gymru 8 mlynedd yn ôl o Mississippi, ac fel y gwelwch, mae o wedi dysgu Cymru yn rhugl! Mae o wedi bod yn mwynhau y garddio cymunedol sydd yn digwydd ym Mhenygroes, e.e. yr Ardd Wyllt a Gardd Eden.
Tyfodd syniad y Cwt Piclo allan o siarad am beth i’w wneud hefo cynnyrch dros ben, ac mae’r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith yn barod (a wedi dechrau piclo pethau!). Darllenwch flog Trey amdano yma.
Mae y Cwt ei hyn yn ganol cael eu baratoi, a bydd mwy o weithgareddau yn cael ei cynnal dros yr wythnosau nesaf – cysylltwch hefo sion.yrorsaf@gmail.com os ydych eisiau bod yn rhan o hyn!
Ffrindiau Pwllheli: Rachel a James
Wedi’i ffurfio yn 2023 gan grŵp o aelodau angerddol o’r gymuned a gysylltodd yng nghynulliadau hinsawdd GwyrddNi, mae Ffrindiau Pwllheli yn bwriadu gwarchod a gwella harddwch naturiol Pwllheli. Maent yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a phartneriaid lleol i wella hygyrchedd i natur a hyrwyddo bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.
Eu cenhadaeth yw sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i amgylchedd y dref, er budd trigolion presennol a chenedlaethau i ddod.
Yn y fideo yma, mae Rachel a James yn rhannu dipyn o’u taith hyd yn hyn.
www.ffrindiaupwllheli.cymru
Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen – Alys
Dyma Alys, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Ogwen, yn sôn am ei hangerdd am fwsoglau.
Wedi’i lansio’n swyddogol ar 21 Hydref, 2023, sef Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, nod prosiect Mapio Mwsog yw annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas; ond hefyd i gofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.
Yn dilyn lansiad y prosiect, mae tîm Mapio Mwsog (Emily Meillieur, Alys Wardle ac Emily Farrell) wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl yn rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau mwsogl a eu defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei weld ac yn ei deimlo.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y prosiect, neu e-bostiwch chris@ogwen.org i gymryd rhan.
Plas Glyn y Weddw

Canolfan gelfyddydau ac amgueddfa wedi ei chartrefu mewn plasdy gothig Fictoraidd, yn arddangos celf a chrefft gyfoes o safon.
Ymysg Y Tonnau – Ysgol Bod Alaw

Dros bump wythnos olaf y tymor ysgol mae TAPE wedi bod yn gweithio gyda disgyblion o flynyddoedd pump a chwech i wneud collage a ffilm fer yn seiliedig ar drydedd ffilm nodwedd TAPE, Ymysg y Tonnau.
Gan weithio gyda dau ddosbarth, y cyntaf yn gwneud collage uwchben y tonnau a’r ail yn canolbwyntio ar ymysg y tonnau. Y disgyblion yn cydweithio mewn grwpiau i arbrofi gyda gwahanol ddulliau o defnyddiau a ddarganfuwyd.
Bu’r cyngor digidol yn gweithio gyda staff TAPE is greu rhaglen ddogfen fer ar y broses o wneud collage.
Rhaglen Eisteddfod Cymunedoli

Mae’n bleser rhannu rhaglen sgyrsiau Eisteddfod Genedlaethol stondin Cymunedoli gyda chi. Rydym yn edrych ymlaen at wythnos llawn bwrlwm a sgyrsiau difyr gyda mentrau hyd a lled Cymru. Os ydych ar faes yr Eisteddfod wythnos nesaf, dewch draw i stondin rhif 142 i ddweud helô!
Llais y Lle 2024

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau’r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn.
Mae modd gweld rhywfaint o waith Llais y Lle 2023 ar sianel y prosiect ar AM. Nododd Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg i Cyngor Celfyddydau Cymru, ei bod yn falch i allu rhannu’r straeon yma: “Mae prosiectau Llais y Lle 2023 wedi bod yn wych ac wedi cael effaith mawr ar yr iaith Gymraeg chymunedau ledled Cymru. Mae’r straeon yma yn haeddu cael eu clywed, ac AM yw’r llwyfan perffaith i wneud hyn.”
Eleni derbyniwyd mwy o geisiadau nac erioed, ac mae’n bleser gan Cyngor y Celfyddydau cyhoeddi enwau carfan Llais y Lle 2024. Wrth eu datgelu dywed Einir: “Mae’n bleser croesawu 16 o unigolion arbennig i deulu Llais y Lle 2024. Roedd y flwyddyn gyntaf yn eithriadol ond rydym wedi dysgu ohono ac wedi sicrhau bod yr ail flwyddyn yn targedu cymunedau a chelfyddydau gwahanol, yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddatblygu arfer creadigol Cymraeg ac yn parhau i gynnal ffordd gefnogol a chyfunol o weithio. Mae’r cyfan eleni ar blatfform AM o’r cychwyn. Dwi’n gyffrous iawn am be ddaw”.
Hedydd Ioan – Penygroes

Mae Byw ‘Ma yn broject lle byddwn i, Hedydd Ioan yn datblygu mherthynas fel unigolyn ac fel artist efo fy nghymuned, sef ardal Dyffryn Nantlle. Y prif amcan fydd dod i ddalld gofynion dyddiol a creadigol unigolion o fewn fy nghymuned.
Partner – Yr Orsaf. Penygroes
Frances Higginson – Y Fenni, Powys

Labordy gwaith ar y llawr Cymraeg gyda dawnswyr cymunedol i ddatblygu geirfa, trosiadau a rhannu barddoniaeth o’r cysylltiad cinetig rhwng ein cyrff symudol a’r ddaear. Byddwn yn mynd â hyn ar y tir lle rydym yn byw a gweithio.
Creu ffilm o’r broses yn y Gymraeg gyda gwneuthurwr / artist ffilm niwro-wahanol di-Gymraeg. Daw y Gymraeg yn arf i ddeall ac agosatrwydd.
Partner – Dance Blast
Paul Eastwood – Wrecsam, Dinbych a Conwy

Siarid i greu, creu i siarid yn prosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd cymunedol trwy ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng. Bydd y prosiect yn cynnwys nifer o weithgareddau a digwyddiadau sy’n archwilio gwahanol dechnegau a chymwysiadau celf, sy’n cefnogi trafodaeth a dysgu yn yr iaith Gymraeg. Ysbrydoli pobl o bob cefndir i ddod yn rhan o brofiad artistig.
Partneriaid – Menter Iaith Wrecsam, Dinbych a Conwy, Oriel Mostyn, StudioMade a Perilco
Eadyth Crawford – Merthyr

‘Mae ‘Y KandE Collective’ yn brosiect blwyddyn o hyd yn gweithio yn agos gyda Merthyr drwy gerddoriaeth, celfyddydau a pherfformiaday i hyrwyddo dysgu Cymraeg. Bydd gweithdai, creu cerddoraeth ar y cyd, perfformiadau byw a gosodwaith celf cyhoeddus yn meithrin profiad iaith bywiog.
Bydd modd cael blas o Llais y Lle mewn digwyddiad arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac mae croeso mawr i bawb ymuno yn YMa ym Mhontypridd rhwng 10 – 1 ddydd Mercher Awst 7ed.
Partner – Canolfan a Menter Iaith Merthyr Tudful
Bridie Doyle-Roberts – Rhondda Cynon Taf

Mae Rêf Celf yn labordy creadigol i artistiaid sy’n croesawu diwylliant Pop, Rêf a Gŵyl i archwilio’r hunaniaeth Gymreig gyfoes wrth greu gwaith Cymraeg newydd. Gwahoddir artistiaid o bob ffurf ar gelfyddyd o Dde Cymru, yn enwedig y rhai sy’n uniaethu fel pobl anabl, byddar neu niwroamrywiol, i chwarae, arbrofi, creu a chydweithio mewn profiadau cymdeithasol a chyfranogol.
Partneriaid – Valleys Kids, Theatrau RhCT, Soar, Artis Cymuned
Marc Roberts – Pontyberem, Gwendraeth Valley

Bydd prosiect Y Ddraenen Wen yn cynnig cyfle i’r gymuned i ddatblygu rhwydwaith o weithgaredd celfyddydol Cymreig a Chymraeg ym mhentref Pontyberem a bro Cwm Gwendraeth drwy gynnal nifer o sesiynau/gweithdai/gweithgareddau amrywiol. Bydd y pwyslais ar greu cyfleon sy’n hygyrch i bawb ar lawr gwlad ac yn cynnwys sesiynau gwerin/canu cymunedol/dawns/ffilm/ysgrifennu creadigol a chelf weledol.
Partneriaid – Clwb Rygbi Pontyberem, papur bro y Cwm, Llyfrgell Cwm Gwendraeth, Fforwm Iaith Cwm Gwendraeth
Angharad Owen – Dyffryn Peris

Ymchwiliad hanesyddol/celfyddydol a ieithyddol i hunaniaeth Dyffryn Peris, gan weithio efo grŵp Stori’r Tir, ac adeiladu ar arbrawf i ddod a pobl ynghyd yn y dyffryn i gyd-weithio ac ailgreu ein straeon coll ac anhysbys. Gweithio efo dulliau trafod a galaru, er mwyn gwneud synnwyr o’n colled ac ailsgwennu ein naratif at y dyfodol.
Partneriaid – GwyrddNi, Cynulliad Hinsawdd Dyffryn Peris
Myfanwy Alexander – Sir Drefaldwyn

Cae/Agor: ffilm uchelgeisiol gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Gan ddefnyddio mapiau, bydd aelodau yn creu perfformiadau wedi eu ffilmio gan Robbie Meade gan ddarganfod Cymraeg wedi ei guddio yn y tirlun. Codi Cân: darganfod ac ymgysylltu gyda cherddorion lleol, archwilio rhwystrau i ddefnyddio y Gymraeg gan arwain at sesiynau cyfarfod a chyd-greu.
Partner – Ffermwyr ifanc
Sian Parri – Penrhyn Llŷn

Nod y prosiect ydi cynyddu defnydd y Gymraeg yn Llangwnnadl a’r ardal ehangach, wrth rannu a dathlu’r iaith a’r diwylliant, cynyddu cyfleon Cymraeg a chyd-ddarganfod celf a ffyrdd creadigol i groesawu pawb at y Gymraeg.
Mae Llangwnnadl wedi ei leoli yng ngogledd Llŷn ac mae ysgogi a chynyddu defnydd y Gymraeg fel iaith fyw yn y gadarnle yma’n allweddol i’w pharhad i’r dyfodol.
Partneriaid – Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn, Cynghorau Cymuned Llŷn a thu hwnt, Menter Iaith Gwynedd a Cymunedoli.cyf.
Mymuna Soleman – Caerdydd a Chaernarfon

Celebrating Cofi Welsh through a Somali lens via creative writing workshops in Caernarfon. These creative sessions will focus on the intersectionality of the Welshness and race, with support by Mudiad Meithrin and the excellent resources they have prepared on anti-racism.
Ciaran Fitzgerald – Castell Nedd, Port Talbot

Bwriad y prosiect hwn yw dod â dau grŵp o bobl ifanc at ei gilydd a fyddai fel arfer â chysylltiad cyfyngedig â’i gilydd er eu bod yn byw yn yr un ardal ddaearyddol. Dwi’n bwriadu gwaithio gyda dwy ysgol, Ysgol Gyfun Bro Dur, ysgol Gymraeg brif ffrwd ym Mhort Talbot, ac Ysgol Maes y Coed, Ysgol Arbennig yng Nghastell-nedd, sydd ag ddisgyblion gyda amrywiaeth o anhawsterau dysgu a chyfathrebu yn ogystal ag anableddau corfforol. Fy mwriad yw gwneud darn o theatr stryd sy’n adlewyrchu’r gymuned y mae’r bobl ifanc hyn yn rhan ohoni, a’i harddangos yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam 2025. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd, ond yr un gymuned, weithio gyda’i gilydd, a datblygu cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt.
Rhiannon Mair – Pontyates, Sir Gaerfyrddin

Prosiect ym mhentref Pontyates, Sir Gaerfyrddin, a fydd yn defnyddio llwybr chwedlonol y Twrch Trwyth drwy’r pentref, ynghyd a llwybr y traciau tren oedd yn cario glo’r cwm i’r porthladd, fel cynsail ar gyfer gweithgarwch creadigol Cymraeg yno.
Partner – cyngor cymuned Llangyndeyrn a Chapel Nazareth
Elin Mannion – Abertawe/Swansea

Cornel Cymraeg: Cyfle i gymuned weithgar ac ymroddedig GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe sydd eisoes yn siarad a dysgu’r Gymraeg i gael troedio i mewn i’r celfyddydau a dysgu, defnyddio a byw’r Gymraeg nid trwy eirfa feddygol a chyfarchion “Cymraeg Cwrteisi” yn unig, ond mewn sefyllfaoedd creadigol, ysbrydoledig a chyffrous a thrwy weithdai gydag amryw artist Cymraeg.
Partneriaid – GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Dysgwyr Cymraeg (staff)
Colin Daimond – Ynys Mon/Anglesey

Mae Cwtch yn brosiect celfyddydol rhyng-genedlaeth cerddorol, dawns a charnifal Cymraeg wedi ei arwain gan y gymuned. Bydd Cwtch yn ymbweru unigolion a chreu cydlyniad cymunedol drwy raglen eang hyblyg gyfranogol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel. Bydd pob oedran yn cyd-greu perfformiad Carnifal cyfoes gan ddewis themau chwedlau, delweddau, tirluniau a cherddoraeth werin Cymru. Bydd hefyd gyfleon creadigol i weithio gyda chyfryngau digidol a deunyddiau wedi eu hail-gylchu.
Partneriaid – Rhwydwaith Gymunedol EHE, Wispy Willow Creations, Plas Llwynnon
Richard Huw Morgan – Trefforest, Pontypridd

Bydd y prosiect yn archwilio gwybodaeth, agwedd a hyder iaith Gymraeg cymuned dymhorol sef teithwyr bws yng nghymunedau glofaol de Cymru drwy gyfres o sgyrsiau un-wrth-un. Bydd yn annog hyder mewn unrhyw allu sydd gennym ac yn cydnabod ein bod oll ar sbectrwm o allu yma bynnag iaith y siaradwn. Bydd y cyfan yn cael ei ddogfennau fel cyfres o recordiadau ar gyfer arddangosda gelfyddydol glywedol yn y dyfodol.
Partner – Citrus Arts
Rufus Mufasa – Blaenau Gwent

Rhaglen gyfrwng gymysg amlddisgyblaethol yn rhoi cyfle i leisiau ar yr ymylon ail-ddychmygu iaith a’r celfyddydau gan amlygu medrusrwydd ac amrywiaeth ein cenedl â’i gwneud yn agored i bawb. Bydd mynegiant y genedl yn hygyrch i bawb ac yn cryfhau pob fframwaith, pob polisi, i bawb, heddiw a chenhedlaethau’r dyfodol.
Partner – Celf ar Y Blaen
Kirsti Davies – Machynlleth, Powys

Mae Gwreiddio yn brosiect wedi ei arwain gan artistiaid sydd yn anelu i fwyhau lleisiau Cymraeg yn Nyffryn Dyfi a dathlu ei berthynas hir a’i eiriolaeth o natur. Bydd y prosiect yn cychwyn ymholiad creadigol gan gyfoedion i feithrin balchder a pherchenogaeth o fewn naratif natur. Bydd y broses yn creu gwaith artistig newydd, gweithdai cydweithio ac yn cyrraedd penllanw mewn digwyddiad dathlu arbennig.
Partner – Ennyn, Eco Dyfi
Below the Waves

Below the Waves fydd 3edd ffilm nodwedd TAPE, ond ein ffilm gyntaf i gael ei hanimeiddio!
Mae TAPE ar hyn o bryd yn y ‘cyfnod cyn-gynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu’ ar gyfer Below the Waves. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud llawer o arbrofi. Byddwn yn cynnal arddangosfa deithiol Below the Waves yn gynnar yn 2025. Bydd yr arddangosfa yn teithio i wahanol lefydd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn dangos yr holl waith creadigol gwahanol sydd wedi mynd i Below the Waves hyd yn hyn.
Cymdeithasu gyda’r Mentrau Gymdeithasol: Antur Stiniog

Croeso i’r gyfres newydd gyffrous sy’n ymchwilio i waith dylanwadol mentrau cymunedol Ffestiniog. Yn y gyfres hon, byddwn yn trafod brosiectau ac ymdrechion gymuned Ffestiniog i sicrhau newid cadarnhaol i’r gymuned. Ymunwch â ni wrth i ni ddarganfod y straeon y tu ôl i’r mentrau hyn a’u heffaith ddofn ar y gymuned leol.
Gig Phil Gas a’r Band a Hari Emlyn

7.30pm
26/07/2024
Mynediad am ddim / Free entry
Stori’r Tir: Prosiectau

Mae Stori’r tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu storiau ynghylch ein perthynas gyda’r tir yn Nyffryn Peris.
Dan ni’n dod a’r gymuned at ei gilydd i gipio doethineb y cenedlaethau blaenorol, hybu hunaniaeth a chyswllt
gyda’r tir a’r iaith Gymraeg.
Mae 14 o brosiectau Stori’r Tir wedi dechrau:
Deall Cymuned (Understanding Community) • Chwedlau’r Tir (Legends of the Land) • Dehongli’r Dyffryn: Llwybrau’r Merched (Interpreting the Valley: Women’s pathways) • Enwau Caeau Nantperis Field Names • Priodedbau Pridd (Story of Soil) • Gwasanaeth Bws S2 Bus Service • Autochtonnau – Ensemble Stori’r Tir • Traed Bach Tÿ Gwyn (The Tales of Tÿ Gwyn) • Tirweddau Coll – Lost Landscapes • Bws i Lanbabo • Cerrig a Dŵr (Stones and Water – living beside a holy well) • Trwy eu Llygaid – Through their Eyes
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris
Cynllun Gweithredu Hinsawdd: Dyffryn Nantlle
Bro Ffestiniog: Cynllun Gweithredu Hinsawdd | Climate Action Plan
Pen Llŷn: Cynllun Gweithredu
Amdanom Ni

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen
Eisiau gwirfoddoli? Mwy o wybodaeth yma.
Cyd Ynni (Amdanom Ni)

Beth rydym yn gwneud Mae Cyd Ynni yn gonsortiwm o 5 grŵp cymunedol yng Ngwynedd sydd wedi dangos llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddarparu prosiectau ynni a chymunedol: Egni Mynydd, Ynni Padarn Peris, Ynni Anafon, Ynni Ogwen a Moelyci. Mae pob un o’r grwpiau wedi gwneud cynnydd sylweddol – weithiau mewn amgylchiadau anodd – […]
Pen Llŷn: O Gynulliadau i Weithredu
Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mhen Llŷn, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mwy o wybodaeth isod!