Daeth y Gyfnewidfa fel syniad gan y Grŵp Rhannu Stwff a Trwsio a dyfodd allan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi ym Mro Ffestiniog. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i leihau gwastraff a chefnogi’r gymuned i fyw’n gynaliadwy ym Mro Ffestiniog.
Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysol yn cynnig ateb syml ond dylanwadol: gall teuluoedd gyfnewid gwisg ysgol a sicrhau bod dillad yn dod o hyd i gartrefi newydd yn hytrach na mynd i dirlenwad. Nid yn unig bod hyn yn helpu i leihau gwastraff, ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i deuluoedd arbed arian ar wisg ysgol.
O 11yb tan 2yp roedd y drysau yn agor, ond erbyn 5 munud i 11 roedd teuleuoedd wedi dechrau llifo i fewn. Doedd dim angen bod rhywun wedi cyfrannu gwisg er mwyn derbyn un; ac roedd yn amlwg o’r gwynebau hapus bod llawer yn gwerthfawrogi’r cyfle i arbed arian a helpu’r blaned ar yr un pryd!
Os nad oedd y dillad y maint iawn, roedd gwirfoddolwyr o Ffiws hefo peiriannau gwnio ar gael i wneud newidiadau.
Meddai Nina, Hwylusydd Bro Ffestiniog:
“Pan rydyn ni’n rhannu pethau, mae’n creu cymuned gryfach ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng pobol, pobol yn teimlo fel bod eu cymuned yn helpu nhw, bod yr ysgol yn teimlo fel teulu. Mae o’n creu teimladau da am lle rydyn ni’n byw.”
Bydd Cyfnewidfa yn digwydd dydd Sadwrn nesaf (27) yn Nhrawsfynydd, hefyd, ac mae Partneriaeth Ogwen (yn Nyffryn Ogwen) ac Yr Orsaf (yn Nyffryn Nantlle), mewn cydweithriad hefo GwyrddNi, yn brysur yn trefnu cyfleoedd i gyfnewid gwisgoedd ysgol.
Credwn gall camau bach arwain at newidiadau mawr, ac mae’r fenter hon yn gam tuag at gymuned fwy cynaliadwy a chefnogol.
Am ragor o wybodaeth neu i wirfoddoli, cysylltwch hefo Nina@Cwmnibro.cymru, neu ymunwch hefo’r grŵp Rhannu Stwff a Trwsio Bro Ffestiniog os ydych yn yr ardal a hefo WhatsApp: linc yma