Cartref digidol diwylliant Cymru.

GwyrddNi

Organisation Logo

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.

Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, ac yn gweithredu mewn partneriaeth â chwech sefydliad cymunedol arall; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn a DEG sydd wedi eu sefydlu yng Nghaernarfon.

Yn ystod 2022-2023 byddwn yn cynnal Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y bum ardal. Bydd y Cynulliadau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i drafod, gwrando, rhannu, siarad, dysgu a phenderfynu efo’i gilydd beth maen nhw – fel cymuned – isio’i wneud yn lleol i daclo newid hinsawdd.

Am wybod mwy? Ewch i edrych ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch gyda ni heddiw. 

Cynnwys