Cartref digidol diwylliant Cymru.

Uchafbwyntiau | Highlights

Electroacwstig Cymru (Cyf. Andrew Lewis)

Richard Craig (ffliwt)

Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor

Cerddorfa Liniadur Abertawe (Jenn Kirby a Simon Kilshaw)

Siwan Rhys (piano)


13 Mawrth 2021

15:00

recordiad yn ffrydio ar AM

CYFRANNU

Moroedd | Oceans

Electroacwstig CYMRU

13 Mawrth 2021

17:00

Rydym yn ddiolchgar o unrhyw roddion fydd yn mynd tuag at weithgaredd yr ŵyl yn y dyfodol:

CYFRANNU

Horizons Cymru – Independent Venue Week Highlights | Uchafbwyntiau Wythnos Clybiau Annibynnol

I ddathlu wythnos clybiau annibynnol 2021, ffilmiodd tîm Horizons 12 artist mewn sesiynau o 5 lleoliad gwerthfawr ar gyfer Cymru.

O glwb Neuadd Ogwen ym Methesda i Neuadd y Frenhines ar arfordir y gorllewin yn Arberth, o’r Galeri modern yng Nghaernarfon, i glybiau canol dinas Sin City yn Abertawe a Le Pub yng Nghasnewydd, gan gynnwys ehangder rhai o glybiau mwyaf Cymru. Dathlwn lleoliadau annibynnol annwyl, a’u rôl hanfodol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent yn eu cymunedau lleol.

Mae’r artistiaid Cymreig sy’n perfformio sesiynau yn dod o bob genre, mae’r rhai sydd ar gyfer y daith yn cynnwys yr artist hip hopMace the Great, y gantores R&B Faith, y band roc Those Damn Crows, y brawd a’r chwaer Leila McKenzie a K(E)NZ, y gantores wlad Jodie Marie, cyfansoddwr caneuon hunan-gynhyrchu amgen Rona Mac, enigma low-fi Ennio The Little Brother, perfformiad unigol gan flaenwr Gwilym, sef Ifan Pritchard, deuawd roc Alffa, deuawd benywaidd newydd Body Water, a’r artist electro pop Malan.

Cerddoriaeth gan Simon Parton.

Mae’r rhaglenni dogfen llawn ar bbc iplayer nawr – chwiliwch am Horizons / Gorwelion

Am fwy o fanylion ewch i: bbc.co.uk/horizons

A Song for the Future – WNO & Oasis Cardiff

Thema #PethauBychain heddiw yw cyfrifoldeb byd-eang. Beth ma hynny’n ei olygu i chi?
I ni, mae’n golygu cydnabod y cyfraniad y mae’r byd a diaspora rhyngwladol yn ei wneud i Gymru, a’r cyfraniad y gallwn ni ei wneud yng Nghymru ar gyfer byd gwell i bawb.

Welsh NHS Choir – Bridge Over Troubled Water

Gwyliwyd y côr GIG Cymreig hwn ledled y byd am ei gyflwyniad hyfryd o Bridge Over Troubled Water.

Ymunodd staff y GIG â gweithwyr y cyngor i berfformio er anrhydedd i Venue Cymru Llandudno a drawsnewidiwyd yn ysbyty maes dros dro, Ysbyty Enfys.

Iestyn yn holi Lloyd Steele

Lloyd Steele o’r band Y Reu sy’n sgwrsio gyda Iestyn Wyn yn sesiwn Maes B ar gyfer #mishaneslhdt​ Mas ar y Maes Cefnogir gan LGBT Consortium  

Boobytrap

Label recordio yn ystod 2000 oedd Boobytrap, wedi’i leoli yng Nghaerdydd a’i sefydlu gan ffrindiau ysgol Huw Stephens, Baz (Geraint John), a’r cymeriadau cerddorol chwedlonol Greg Haver a Ceri Collier.  

CABARET

CROESO i’r cyntaf mewn cyfres o Gabarets ar gyfer y Llwyfan Digidol! Diolch am ymuno gyda ni. Mae’r llwyfan ar-lein hwn yn fan i Theatr Byd Bychan berfformio a chadw mewn cysylltiad â’n cynulleidfa. Dros y misoedd nesaf byddwn yn cyflwyno diddanwch wedi ei guradu ar eich cyfer chi gartre. Os oes unrhyw un yn teimlo mewn hwyl sgwrsio, mae gwe-dudalen i’r gynulleidfa allu ymgomio. Byddai Bill wrth ei fodd yn clywed oddi wrthych https://smallworld.org.uk/cabaret-chat  MWYNHEWCH!

TWMFFAT – Tywysogion Cymru

O’r albym OES PYS, allan Chwefror 26, 2021 ar Recordiau SBENSH. RHYBUDD! Lot o sos coch. Peidiwch gwneud pethau gwirion mewn llefydd uchel.Cafodd neb ei frifo yn gwneud y video hwn. Ffilm gan/by Gai Toms & Twmffat. Tywysog / Prince – Cai Llywelyn Roberts (Diolch!)

Music Makers Talk: Making Music.

 

29.01.21



Eädyth: Yn fyw o’r Ffwrnes / Live from Ffwrnes

Bydd y gantores a’r offerynwraig talentog, Eädyth, yn perfformio fel rhan o gyfres ffrydio byw gan Theatrau Sir Gâr, ‘Yn Fyw o Ffwrnes’ a hynny ar nos Wener 5 Chwefror, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2021. Mae Eädyth yn enw cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru gyda’i sain electronig a lleddf […]

Sgwrs Rhys Ifans a Huw Stephens

Rhys Ifans & Huw Stephens:
Pam mae miwsig Cymraeg yn bwysig i mi

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, dyma Rhys Ifans a Huw Stephens sôn am beth mae Miwsig yn golygu iddyn nhw, ag yn rhannu eu tri digwyddiad Miwsig Cymraeg mwyaf arwyddocaol.

MYGM – DMC

Rhestr chwarae gan Merched yn gwneud Miwsig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 

MYGM – DMC

Rhestr chwarae gan Merched yn gwneud Miwsig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 

Gŵyl Gerdd Bangor : Digwyddiadau | Events

12 -13.03.21

Eleni bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy nifer o gyngherddau sy’n cynnwys artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores ar gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones a’r pianydd Wyn Davies, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.

Mwynhewch a chadwch yn saff!

Rydym yn ddiolchgar am unrhyw roddion, fydd yn mynd tuag at ein gweithgareddau yn y dyfodol.

Gŵyl Gerdd Bangor 2021 : Perfformwyr | Performers

12 -13.03.21

Eleni bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy nifer o gyngherddau sy’n cynnwys artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores ar gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones a’r pianydd Wyn Davies, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.

Mwynhewch a chadwch yn saff!

Rydym yn ddiolchgar am unrhyw roddion, fydd yn mynd tuag at ein gweithgareddau yn y dyfodol.

Cyhoeddi Ennillydd Ysgol Hip Hop

Ysgol Hip Hop: fe osododd Dydd Miwsig Cymru her i ysgolion cynradd Cymru i ysgrifennu rap ar y thema o ‘Beth mae’r iaith yn feddwl i ti a dy ardal’ am gyfle i ennill gwobr o £250 i’w ysgol. Derbyniwyd 109 rap gwych o bob cwr o Gymru. Llongyfarchiadau mawr i bawb! Dyma’r rhestr fer […]

Byw i’r Dydd

Mae Byw i’r Dydd yn gân hyfryd sydd wedi ei chyfansoddi gan Rhydian Meilir, gyda’r fidio a’r animeiddio wedi ei greu gan y talentog Morgan Elwy. Mae’n gyfanwaith sy’n cynrhychioli ymgyrch ‘Nerth dy Ben’ a’i fwriad o atgoffa’n gilydd o’n nerth a’n cryfderau, a’r hyn dani’n gallu ei gyflawni.

Dewch draw i’n sianel ar Ddydd Miwsig Cymru i weld y fideo! 

I ddeall mwy am Nerth dy Ben ewch i’r wefan www.nerthdyben.cymru. Mae modd lawrlwytho ‘Byw i’r Dydd’ ar itunes a bydd cyfran o bob lawrlwythiad yn dod yn ôl i ariannu’r prosiect.

YN FYW O’R FFWRNES: GWILYM LIVE FROM THE FFWRNES

Byddwn yn croesawu pum bachgen o Ynys Môn a Gwynedd i’n lwyfan y Ffwrnes yn Llanelli – Gwilym! Byddant yn perfformio’u caneuon poblogaidd megis Fyny Ac Yn Ôl, Cwin a Gwalia a llawer mwy! Mae Gwilym yn boblogaidd iawn mewn gwyliau ledled Cymru ac mae eu ‘indie-pop’ bob amser yn plesio’r gynulleidfa.

DYDD MIWSIG CYMRU – Mei Gwynedd

Dros y 6 mlynedd diwethaf, mae Mei Gwynedd wedi bod yn creu bandiau ifanc newydd yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi gweithio gyda 152 o bobl ifanc dros yr amser yna, ac mae’r cyfansoddi’n parhau…ar zoom!

Yn Fyw o’r Ffrwnes ALFFA Live from Ffwrnes

Yn Fyw o’r Ffwrnes: ALFFA Mae’r band roc a blŵs Cymraeg, Alffa, yn dod â’u brand unigryw o gerddoriaeth i lwyfan y Ffwrnes Mae Alffa wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr, gan ymddangos yng ngŵyl Gorwelion Horizons yn 2018 – rhaglen sy’n tynnu sylw at y perfformiadau cerddorol Cymreig mwyaf addawol i gymryd rhan […]

Geraint Rhys – Gig Dydd Miwsig Cymru 2021

Dyma gig fer o rhai o fy ganeuon i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2021 Mwynhau! x You can find the studio versions of all these tracks on youtube, spotify, itunes and everywhere else. 00:00​ – Intro 00:56​ – Dilyn (Studio Version – https://www.youtube.com/watch?v=Q0n22…​ ) 05:17​ – Diwedd Y Byd (Studio Version – https://www.youtube.com/watch?v=pUd8d…​ ) 08:33​ – […]

‘Chydig o Sain

Osian Huw Williams sy’n ein harwain o amgylch stiwdios enwog Sain mewn rhaglen ddogfen fer gan Urdd Gobaith Cymru

Gŵyl Dydd Miwsig Cymru Festival

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae gennym ni ddiwrnod llawn o gerddoriaeth Cymraeg i chi, o lansio tracs ac albyms i fideos ecsgliwsif, i ddarganfod cariad Rhys Ifans at fiwsig Cymraeg.  Bydd y cyfan yn dechrau am 2pm gyda HMS Morris a byddwn yn eich tywys drwy’r dydd hyd at 10pm gyda set DJ gan Roughion. Felly, rhowch eich goleuadau disgo ymlaen ac fe welwn ni chi am 2pm ar 5 Chwefror. 

Datblygu Cymunedol – Iwcadwli

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli sy’n perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg a’n gweld Iwcadwli yn gyfle amhrisiadwy i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Cydweithio – PYST

Mae Pyst yn gwmni gwasanaeth labeli, dosbarthu a chydlynu digwyddiadau cerddorol sy’n canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth o Gymru. Drwy gyd-weithio gyda’r arbenigedd hwn mae wedi galluogi’r Fenter i drefnu a hyrwyddo mwy o weithgareddau cerddorol Gymraeg yn y sir. Mae’r cyfuniad o wybodaeth y Fenter am hyrwyddo’n lleol ynghyd â gwybodaeth arbenigol Pyst am ddiwydiant cerddorol Cymru wedi bod o fudd mawr wrth ddenu cynulleidfa newydd i gerddoriaeth Gymraeg.

Cydweithio – Gŵyl Canol Dre

Mae Gŵyl Canol Dre yn cyflwyno celfyddydau a diwylliant Cymraeg i‘r gymuned gyfan, o bob oed yng Nghaerfyrddin, a hynny diolch i gydweithio effeithiol. Gyda mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o’r trefnu dros flwyddyn gyfan, mae gan bob partner rôl benodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl sy’n denu miloedd i fwynhau’r Gymraeg.

Parti Ponty

Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy’n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o’r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros 5 lleoliad yn y sir yn 2019. Gyda gweithgareddau, adloniant, gweithdai, a stondinau amrywiol sy’n hybu’r Gymraeg – mae pobl ifanc yn rhan greiddiol i’r digwyddiad a dros 100 ohonynt yn gwirfoddoli i helpu’r ŵyl fod yn llwyddiant.

Sesh Sŵn

Mae’r Sesh Sŵn yn sesiwn werin Gymraeg, ac yn gyfle i bobl o bob oed, gallu ieithyddol a cherddorol gwrdd mewn sefyllfa anffurfiol i chwarae cerddoriaeth draddodiadol a phoblogaidd. Gyda Sesh Fach hefyd yn gyfle i offerynwyr dechreuol ddysgu’r caneuon, mae cyfle i bawb ddatblygu sgil yn ogystal ag ymarfer yr iaith.

Tafwyl

Gŵyl a pharti mawr blynyddol i ddathlu’r Gymraeg yn ein Prifddinas yw Tafwyl. Mae’r ŵyl yn ddathliad balch a hyderus o’n diwylliant ar ei orau, ac yn gyfrwng i ddefnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol mewn awyrgylch anffurfiol a chynhwysol gan ddenu bron i 40,000 o bobl i’r digwyddiad yn 2019.

Clonc a Chân – Bronwen Lewis

Ymunwch â ni ar gyfer trydedd bennod ein cyfres newydd, CLONC A CHÂN, yng nghwmni’r cerddores a chyfansoddwraig arbennig o Flaendulais, Bronwen Lewis 🎤   ⭐️

Nonsens a Nodau : Y Saith Rhyfeddod

Dan ni’n gorffen ein cyfres o Nonsens a Nodau drwy glywed Mair yn sôn am Y Saith Rhyfeddod. Gobeithio i chi fwynhau’r caneuon a’r storiau …a’ch bod wedi cael eich ysbrydoli i ddysgu rhagor o’n caneuon gwerin.

Hunaniaith Gwynedd

Lockdown Roc ar Ras

Dyma gân i gofio am y profiad o chwarae mewn band dros Zoom yn ystod y cyfnod clo yn 2020, gan Brenig, Noa ac Owain – aelodau gweithdy band cynllun Bocsŵn Menter Iaith Conwy.