Y Lle Celf 2024
Street Scenes: In celebration of Mike Pearson
The evening finished with a staged reading from one of Mike’s last, as-yet unperformed, performance texts, written in lockdown in 2020.
Y Lle Celf 2024: Anthony Evans
MumFighter by Tracy Harris (Cyfweliad Llawn)
Tracy yn trafod ysbrydoliaeth, themau ac elfennau pethnasol y ddrama MumFighter & what people will be able to relate to in the play MumFighter. Wedi’i gynhyrchu gan Grand Ambition. 15- 25 o Hydref 2024, Swansea Grand Theatre
Tocynnau ar gael yma.
Grand Ambition – Swansea. Grand. Ambition.
Mae’r tîm yn Grand Ambition yn siarad am Abertawe, eu cariad o’r Theatr Grand a beth mae ‘Uchelgais’ yn ei olygu iddyn nhw.
MumFighter
Tocynnau ar gael yma.
Gormod o gŵn

Yn ddiweddar fe gawson ni wyliau bach yn nhref lan môr Whitby yng ngogledd Swydd Efrog. Lle hyfryd a difyr dros ben, er yn llawer prysurach na phan fuon ni yno bymtheg mlynedd yn ôl, a mwy o bobol â chŵn nag ydw i wedi’u gweld mewn un lle erioed. Yn yr hinsawdd cŵn-garol sydd […]
Eluned Morgan – ein Prif Weinidog anfoddog

Lai na blwyddyn yn ôl, nid oedd Eluned Morgan yn chwennych bod yn Brif Weinidog. Bellach mae wedi etifeddu’r fantell honno mewn gwlad sy’n gynyddol feirniadol o berfformiad y Llywodraeth Lafur. Ai yn ystod ei chyfnod hi wrth y llyw y gwelwn dra-arglwyddiaeth Llafur yng Nghymru yn dechrau dod i ben?
Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

11/10/2024 – 7.30pm
Mae Chwarae’r Chwedlau: Cabaret nôl am bennod olaf o 2024!
Os methwch chi’n Eisteddfod eleni, paid a phoeni: rydym yn dod a rhai o’r acts o raglen LHDTC+ y prifwyl, Mas ar y Maes, i The Queer Emporium!
Mae’r cast yn cynnwys Caitlin McKee, Tom Kemp, Betsan and Welsh Ballroom Community!
Plîs prynwch docynnau pryd medrwch oherwydd mae gwerthu tocynnau i nosweithiau cwiar, Cymraeg medru bod yn galed, a hefyd mae’n helpu lleddfu’r gor-bryder!
Beach of Dreams

Ar hyn o bryd mae TAPE yn rhan o brosiect cyffrous o’r enw Beach of Dreams; Rydym yn rhan o rwydwaith o seflydliadau, artistiaid a chymunedau mewn cenhadaeth gyffredin i archwilio ac ymateb i’r heriau hinsawdd enbyd sy’n wynebu rhanbarthau arfordirol y DU.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Jason Singh, artist, bîtbocsiwr natur, cynhyrchydd, DJ, curadur, hwylusydd a pherfformiwr. Mae wedi gweithio gyda phobl fel y BBC, Tate Britain, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai!
Bydd TAPE Sound yn gweithio ochr yn ochr â Jason i gipio sain o wahanol ffynonellau ym Mae Colwyn a’r ardaloedd cyfagos i’w defnyddio fel rhan o brofiad sonig trochi. Bydd hefyd yn ceisio dal straeon a safbwyntiau o’r gymuned leol.
Mae TAPE yn falch o fod yn rhan o’r dathliad arfordirol hwn ochr yn ochr ag artistiaid a gomisiynwyd a chymunedau lleol ledled y DU!
Lumiere Project

Mae prosiect Lumiere yn rhan o Wyl y Goleuni mewn cydweithrediad a Chyngor Tref Bae Colwyn, Creu Conwy ac ystod o bartneriaid eraill. Mae TAPE yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys ein clwb cyfryngau rheolaidd a chlwb celf, i greu gosodiadau a fydd yn cael eu gosod mewn ffenestri siopau ym Mae Colwyn a’u goleuo. Cysylltwch â ni i ddysgu sut y gallwch chi gymryd rhan, neu ymunwch â ni ar yr 28ain o Dachwedd ar gyfer datgeliad mawr y gosodiadau!
Ymunwch â Her yr Hydref!

• Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siwr lle i ddechrau?
• Dim digon o amser i ddarllen?
• Chwilio am her ar gyfer yr hydref?
Pennod 49 – Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd.
Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r newydd ac y ‘brodorol’ a’r ‘estron’. Nodwn fod lleisiau barddol benywaidd yn ymddangos yn y corff newydd hwn o farddoniaeth ac edrychwn yn fanwl ar gerdd angerddol sy’n protestio’n erbyn dadgoedwigo cymoedd y De (ac sy’n rhoi’r bai am y dinistr ecolegol hwn ar ‘y Saeson’).
Ela: Cynrychioli plant Bethesda
Ar yr un pryd ag yr oedd y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn cael eu cynnal yn 2022-23, roedd ein rhaglen addysg yn cynnwys:
*Sesiynau am newid hinsawdd;
*Ymweliadau ag atebion hinsawdd lleol;
*Cynulliadau i blant a phobl ifanc;
*Cyflwyniadau gan y plant a phobl ifanc i’r gwasanaethau cymunedol; a
*Sesiynau gweithredu ymarferol.
Dyma Ela o Ddyffryn Ogwen yn rhannu sut brofiad oedd bod yn rhan o gynulliadau hinsawdd yr ysgolion, a sut oedd y profiad o gynrychioli plant Bethesda o flaen yr oedolion, a sut oedd hi i ffeindio rhai o’u syniadau wedi’u hychwanegu i’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol.
Rydym nawr yn dechrau rolio ein cynnig addysg ar gyfer Cam Gweithredu Cymunedol GwyrddNi – sy’n golygu y bydd ysgolion yn cael cymryd rhan mewn prosiectau penodol a gweithredu – cadwch olwg am fwy o fanylion!
www.gwyrddni.cymru
Marchnad Lleu – Hybu Tyfwyr a Chrewyr Lleol yn Nyffryn Nantlle

Dechreuwyd Marchnad Lleu o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu doniau a’u cynigion.
Bodlon – Hijinx

Tair ffilm fer gan bobl ag anabledd dysgu a/neu bobl greadigol awtistig am bwy, beth a ble sy’n eu gwneud yn hapus.
Dominatrix
Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod cultural appropriation, a ble mae’r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli’r Plot?
Ymddiheuriadau Heledd Cynwal!
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
The Glutton – A.K Blakemore
Ysgrifau Llenorion – gol. John Lasarus Williams
The Story Spinner – Barbara Erskine
Hi-Hon – gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis
Nice Racism – Robin Diangelo
Tadwlad – Ioan Kidd
Sunset – Jessie Cave
The Satanic Mechanic – Sally Andrew
Y Morfarch Arian – Eurgain Haf
The Hoarder – Jess Kidd
Madws – Sioned Wyn Roberts
The Trees – Percival Everrett
Ar Amrantiad – Gol Gareth Evans-Jones
Cysgod y Mabinogi – Peredur Glyn
Gŵyl Tawe 2024
Yn gynharach yn yr haf, aeth Sion Teifi Rees ac Aled Victor ati i greu rhaglen ddogfen fer am Gŵyl Tawe a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Abertawe. Yn cynnwys The Bunkouse, Mission Gallery, Coleg Gŵyr Abertawe, a mwy!
Cysylltu/Connecting Dyffryn Peris: Gwennan
Dyma Gwennan, a oedd yn rhan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris, yn sôn am ei phrofiad ac am ei chyffro am y syniad o Bartneriaeth Dyffryn Peris.
Ers i ni ffilmio hyn, mae pethau wedi bod yn symud! Mae nifer o fudiadau ac unigolion yn parhau gyda’r gwaith o sefydlu Partneriaeth Dyffryn Peris. Bydd yn rwydwaith datblygu cymunedol fydd yn dod a chefnogaeth ymarferol, arbenigedd lleol, adnoddau, prosiectau a digwyddiadau ychwanegol i’r fro.
Mae croeso cynnes i drigolion yr ardal i’r sgwrs gymunedol nesaf ar y 18fed o Fedi am 18:00 yn Caban, Brynrefail – cysylltwch hefo lowri@deg.cymru am fwy o wybodaeth.
Cofio’r Cynulliadau Hinsawdd – Roger & Ronwen
Yn 2022 a 2023, cynhaliwyd cyfrys o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum rhan o ogledd orllewin Gwynedd i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn (yr ardal hon) ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?
Dysgwch fwy
Yn gynharach eleni, buom yn cyfweld ag aelodau o’r gymuned am eu profiadau o’r gwasanaethau. Dyma Roger a Ronwen yn hel atgofion am eu hatgofion o gymryd rhan yng ngwasanaethau Bro Ffestiniog.
Garddio a Thyfu: Aisha
Dyma Aisha, sy’n byw ym Methesda ers 15 mlynedd, yn siarad am y llysiau mae hi’n eu tyfu a’r ffordd mae Cynulliadau hinsawdd GwyrddNi wedi ei newid hi.
“Mae wedi rhoi hyder i mi, mae wedi codi fy ysbryd… Fedrai’m coelio’r cyfle sydd gen i hefo Ysgol Abercaseg – mae’n anhygoel!” meddai am ei rôl newydd yn dysgu plant ysgol leol am dyfu hadau.
Dysgwch fwy am GwyrddNi a sut y gallwch chi gymryd rhan yn www.gwyrddni.cymru
Os ydych chi ym Methesda ac eisiau cymryd rhan mewn tyfu bwyd yn y gymuned, cysylltwch â chris@ogwen.org
Stori’r Tir (Story of the Land) Dyffryn Peris – Lindsey
Dyma Lindsey, hefo Lowri, yn sôn ychydig am y prosiect Stori’r Tir, prosiect a ddaeth o syniadau’r plant yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Peris.
Mae Stori’r Tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu storiau ynghylch ein perthynas gyda’r tir yn Nyffryn Peris.
“Dan ni’n dod a’r gymuned at ei gilydd i gipio doethineb y cenedlaethau blaenorol, hybu hunaniaeth a chyswllt gyda’r tir a’r iaith Gymraeg.” – gwelwch restr o’r prosiectau a digwyddiadau yma.
Uwchraddio Adeiladau: Yr Aelwyd, Blaenau Ffestiniog – Elfed Lewis
Yng ngogledd orllewin Cymru, mae gennym rai o’r costau ynni uchaf a rhai o’r cyflogau isaf yn y DU – dim yn gymysg gwych hefo’r nifer o hen adeiladau carreg anodd eu gwresogi sydd gennym yma!
Dim syndod felly mai un o’r eitemau yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol pob ardal oedd rhywbeth i’w wneud â chodi cartrefi ac adeiladau i safonau uwch o ran effeithlonrwydd ynni.
Mae Elfed Lewis yn arbenigwr ar ôl-osod, effeithlonrwydd ynni a Passivhaus. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Cwmni Bro Ffestiniog i uwchraddio’r Aelwyd, hen adeilad yr Urdd ym Mlaenau Ffestiniog. Y nod yw gallu dangos i bobl beth sy’n bosib – a dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib cael cartrefi cynnes, clyd sy’n rhad i’w rhedeg.
Ewch i www.gwyrddni.cymru neu cysylltwch hefo post@gwyrddni.cymru i ddysgu mwy neu i fod yn rhan o hyn!
Beicio i’r Gwaith: Margot a Pete
Yn y fideo hwn, mae Margot a Pete yn siarad am sut maen nhw’n cymudo i’r gwaith ar feic yn Nyffryn Ogwen.
Diddordeb mewn rhoi cynnig ar feicio, ond ddim eisiau prynu un eto? Mae gan Beics Ogwen, yn Nyffryn Ogwen, feiciau rheolaidd ac e-feiciau ar gael i’w llogi.
Yn y cyfamser, os ydych chi ym Mhen Llŷn, mae GwyrddNi ar hyn o bryd yn cefnogi Hyb Beiciau newydd yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Wrth ymuno am £20 y mis gallwch fenthyg un o’r beiciau yno – cysylltwch â llyn@gwyrddni.cymru i ddarganfod mwy!
Cwt Piclo (Pickling Shed) Dyffryn Nantlle – Trey
Dyma Trey, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Nantlle, yn sôn am sut daeth y syniad Cwt Piclo i fodoli.
Symudodd Trey i Gymru 8 mlynedd yn ôl o Mississippi, ac fel y gwelwch, mae o wedi dysgu Cymru yn rhugl! Mae o wedi bod yn mwynhau y garddio cymunedol sydd yn digwydd ym Mhenygroes, e.e. yr Ardd Wyllt a Gardd Eden.
Tyfodd syniad y Cwt Piclo allan o siarad am beth i’w wneud hefo cynnyrch dros ben, ac mae’r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith yn barod (a wedi dechrau piclo pethau!). Darllenwch flog Trey amdano yma.
Mae y Cwt ei hyn yn ganol cael eu baratoi, a bydd mwy o weithgareddau yn cael ei cynnal dros yr wythnosau nesaf – cysylltwch hefo sion.yrorsaf@gmail.com os ydych eisiau bod yn rhan o hyn!
Ffrindiau Pwllheli: Rachel a James
Wedi’i ffurfio yn 2023 gan grŵp o aelodau angerddol o’r gymuned a gysylltodd yng nghynulliadau hinsawdd GwyrddNi, mae Ffrindiau Pwllheli yn bwriadu gwarchod a gwella harddwch naturiol Pwllheli. Maent yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a phartneriaid lleol i wella hygyrchedd i natur a hyrwyddo bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.
Eu cenhadaeth yw sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i amgylchedd y dref, er budd trigolion presennol a chenedlaethau i ddod.
Yn y fideo yma, mae Rachel a James yn rhannu dipyn o’u taith hyd yn hyn.
www.ffrindiaupwllheli.cymru
Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen – Alys
Dyma Alys, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Ogwen, yn sôn am ei hangerdd am fwsoglau.
Wedi’i lansio’n swyddogol ar 21 Hydref, 2023, sef Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, nod prosiect Mapio Mwsog yw annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas; ond hefyd i gofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.
Yn dilyn lansiad y prosiect, mae tîm Mapio Mwsog (Emily Meillieur, Alys Wardle ac Emily Farrell) wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl yn rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau mwsogl a eu defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei weld ac yn ei deimlo.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y prosiect, neu e-bostiwch chris@ogwen.org i gymryd rhan.
Bwystfilod Aflan/Unclean Beasts

Ymunwch â SPAN yn Theatr Byd Bach ar gyfer cynhyrchiad o Bwystfilod Aflan gan Music Theatre Wales i ysgogi’r meddwl.
Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 11eg
Amser: 7:30pm
Lleoliad: Theatr Byd Bach, Heol Bath-House, Aberteifi, SA43 1JY
Pris: Llawn £12, Dan 16 £8 *
*Ar gyfer deiliaid tocynnau sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Cysylltwch â 01834 869323 i archebu eich tocyn gofalwr.
Gwybodaeth bellach ar span-arts.org.uk. Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.
Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024.
Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin.
Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn.
Prynwch ‘Dros Gyfiawnder a Rhyddid’ YMA
BFI Short Course

Os ydych chi rhwng 16-19 oed, wedi’ch lleoli yng Ngogledd Cymru, ac â diddordeb mewn gwneud ffilmiau, byddwch chi’n falch o glywed bod genym ni’r cyfle gwych i chi!
Mae Cwrs Byr Academi Ffilm TAPE wedi’i deilwra i rymuso pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydym hefyd yn eiddgar i wahodd ceisiadau gan ddarpar wneuthurwyr ffilm nad oes ganddynt ADY ond sy’n rhannu angerdd am greadigwydd a chynwysoldeb sinematig.
Does dim rhaid i chi gael unrhyw brofiad o wneud ffilmiau.
Dysgwch fwy, a gwnewch gais erby dydd Gwener 27 Medi Gwnewch cais yma!
Buddug – Unfan

Buddug, yr enw ifanc â’r llais aeddfed.
Mae Buddug ar ddechrau ei gyrfa wedi cael Haf prysur iawn eleni yn gigio ar lwyfannau Tafwyl, Sesiwn Fawr, llwyfanau’r Eisteddfod a pherfformio ym Maes B. Yn ogystal a hyn ymunodd â Yws Gwynedd ar Lwyfan y Maes i ganu ei sengl cyntaf – ‘Dal Dig’.
Dyma fideo a pherfformiad pwerus gan Buddug i gyd-fynd â’i thrydedd sengl – ‘Unfan’. Mae’r cymeriad a gaiff ei chwarae gan Buddug yn un sy’n gaeth i’w bywyd ailadroddus o berfformio’n ddragywydd i’r un hen gynulleidfa gan droi yn ei ‘hunfan’ wrth geisio dianc o’r rhaffau llythrennol a throsiadol.
Cynhyrchydd a Cyfarwyddo
Elis Derby
DOP, Cyfarwyddo a Golygu
Jamie Walker
Is-Gynhyrchydd
Buddug Roberts
Uwch Gynhyrchydd
Aled Wyn Jones
Rheolwr Cynhyrchu
Eleri Griffiths
Ecstras
Elain Gwynedd
Siwan Mair
Nel Angharad
Nel Jones
Colur
Annie Maycox
Gyda diolch i
Theatr Fach Llangefni a Cyfoeth Naturiol Cymru
Label cyhoeddi – Cosh
Delphi Campbell

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n rhoi sylw i waith anhygoel un o’n haelodau.
Artist y Mis ar gyfer mis Medi yw Delphi Campbell!
Torri Fi – Maddy Elliott
Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST / Part of Lŵp x PYST Music Video Fund
Pennod 48 – Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl.
Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod dau fath o ddysg yn ymrafael, y naill yn newydd a’r llall yn hen. Mae’n bosib ei gweld fel dadl ynghylch dyfodol barddoniaeth Gymraeg. Ond, er gwaethaf y pynciau esoterig a’r themâu diwylliannol sy’n gwau trwy’r cerddi ymryson hyn, mae’r ddau yn ymosod yn bersonol ar adegau hefyd, wrth i Edmwnd Prys alw Wiliam Cynwal yn hen a’r bardd yntau’n ensynio bod Prys yn dew.
Sŵn 2024

Gŵyl cerddoriaeth gyfoes aml-leoliad glodwiw yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi bod yn gonglfaen i dirlun diwylliannol Caerdydd ers 2007. Gydag ymrwymiad diwyro i arddangos cerddoriaeth newydd ac artistiaid dawnus sy’n dod i’r amlwg, mae rhaglen ein gŵyl yn dathlu ystod amrywiol o artistiaid, o artistiaid lleol i rai rhyngwladol.
Dros dridiau cofiadwy bob blwyddyn, rydyn ni’n cymryd yr awenau yn rhai o’n hoff leoliadau ledled canol y brifddinas. Rydyn ni’n trawsnewid y ddinas yn hyb byrlymus ar gyfer cerddorion a chefnogwyr fel ei gilydd, gan roi cyfle i chi archwilio dinas hyfryd Caerdydd, ei lleoliadau cerddoriaeth annibynnol, a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol.
Eleni, bydd gŵyl Sŵn yn digwydd o ddydd Iau 17 Hydref tan nos Sadwrn 19 Hydref.
Mae lleoliadau eleni yn cynnwys; Clwb Ifor Bach, Tramshed, Jacobs Antiques Market, Tiny Rebel, The Moon, Fuel, Mad Dog Brewery, a Cornerstone.
Eleni, mae Sŵn yn rhan falch o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn dinasgerddcaerdydd.cymru.
Cynrychioli Cymru | Representing Wales 2025-26

Ymgeisiwch nawr ar gyfer pumed rownd Cynrychioli Cymru!
Dyma raglen ddwyieithog 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol. Eleni, rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion. Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg rhwng Ebrill 2025 – Mawrth 2026.
Yn ystod y flwyddyn, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:
-
Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Mentor personol
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Dyddiad cau: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024.
Sesiynau Galw Heibio
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 29 Awst a dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau i archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.
Dal Gafael/Hold On

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Fio a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno:
Dal Gafael / Hold On
Gan Mared Llywelyn and Steven Kavuma
Cynhyrchiad Dwyieithog
Cyfarwyddwyd gan Dr Sita Thomas
Bydd capsiynau agored ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn y perfformiadau i gyd.
PSYLENCE 2024

Mae Pontio yn cyflwyno penwythnos o digwyddiadau arbennig fis Hydref i dathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).
4-6/10/24
Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.
Dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’ – felly dyma ni yn adeiladu ar un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous gyda penwythnos cyfan o ddigwyddiadau; Psylence 2024 fydd y mwyaf eto.
Bydd elw’r digwyddiadau yn mynd i Ymchwil Canser y DU, a ddewiswyd gan deulu Emyr.
Rhagor o artistiaid a digwyddiadau i’w cyhoeddi hefyd!
Pennod 47 – ‘Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl.
Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod.
Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir hanesyn am uchelwr a ddangosodd ddirmyg i fardd mawl mewn modd cofiadwy a cheir cyfle i wyntyllu dadansoddiad Marcsaidd o’r newidiadau hyn yn hynt hanes ein diwylliant llenyddol.
Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Rhifyn arbennig o Colli’r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.
Trafod hanes ein ‘Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy.
Beacons Cymru Basecamp

Edrychwch ar y ffilm fer anhygoel hon a a gynhyrchwyd gan dîm talentog o bobl ifanc gyda chefnogaeth hwylusydd TAPE, Niall Jones.
Mae’r ffilm yn dogfennu digwyddiad Basecamp Beacons Cymru diweddar a gynhaliwyd yn TAPE, a oedd yn rhan o brosiect Winter Sounds Creu Conwy.
Roedd y digwyddia yn cynnwysgweithdai, paneli, a pherfformiadau ar gyfer pobl ifan sydd â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth. Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig, ac rydym wrth ein bodd yn ei rannu gyda chi.
Ymysg Y Tonnau – Ysgol Bod Alaw

Dros bump wythnos olaf y tymor ysgol mae TAPE wedi bod yn gweithio gyda disgyblion o flynyddoedd pump a chwech i wneud collage a ffilm fer yn seiliedig ar drydedd ffilm nodwedd TAPE, Ymysg y Tonnau.
Gan weithio gyda dau ddosbarth, y cyntaf yn gwneud collage uwchben y tonnau a’r ail yn canolbwyntio ar ymysg y tonnau. Y disgyblion yn cydweithio mewn grwpiau i arbrofi gyda gwahanol ddulliau o defnyddiau a ddarganfuwyd.
Bu’r cyngor digidol yn gweithio gyda staff TAPE is greu rhaglen ddogfen fer ar y broses o wneud collage.
CHROMA – Adlais 3 Live

Yn dychwelyd gyda’n digwyddiad mwyaf eta gyda CHROMA act eraill!
Tŷ Pawb, Wrecsam
Medi 13 2024
Tocynnau: https://www.skiddle.com/whats-on/Wrexham/Ty-Pawb/CHROMA—Adlais-3-Live/39313042/
Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Dewch i fwynhau’r arlwy isod yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.
Gareth Churchill

Artist y Mis ar gyfer mis Awst yw Gareth Churchill!
Mae Gareth Churchill yn gyfansoddwr, artist cydweithredol, athro cerdd, a bellach yn chwaraewr clarion. Mae’n athro cerdd i Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn aelod o Baraorchestra ers 2018.
Hyfforddodd yn wreiddiol fel oböydd, a bu’n ffodus i chwarae ar lefel broffesiynol, cyn i strôc ei adael â namau gwybyddol, synhwyraidd a chorfforol yn 20 oed. Ailgyfeiriodd hyn ei lwybr tuag at gyfansoddi.
Fel cyfansoddwr, mae sain ei gerddoriaeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei brofiad byw personol, o’r rhyngweithio rhwng y mecanyddol â’r organig, ac, yn aml gydag agwedd hunangofiannol, mae ei waith yn ceisio rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau byw eraill.
Every Child a Filmmaker

Yma yn TAPE, rydym ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen 6-sesiwn a ddatblygwyd gan Into Film. Mae’r rhaglen wedi’i chreu i annog pobl ifanc i fynegi eu hunain a rhannu eu straeon trwy ffilm. Bydd y rhaglen yn galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau gwneud ffilmiau gan weithwyr proffesiynol a dod â safbwyntiau newydd i’r sgrin.
What is TAPE?

Mae TAPE yn ymfalchïo mewn hygyrchedd a chynwysoldeb, ac mae wedi bod yn darparu cyfleoedd cynhwysol, cefnogol o ansawdd uchel, a arweinir gan yr unigolyn ers 2008.
Edrychwch ar ein sianel i weld y gwaith mae TAPE wedi gwneud gyda’r cymuned, yn ogystal â’u cyflawniadau dros yr 16 mlynedd diwethaf.
Pennod 46 – Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad.
Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd.
Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Catholig ar wasg anghyfreithlon mewn ogof yng Nghymru – roedd yr alltudion Cymreig hyn yn gysylltiedig â rhai o’r penodau mwyaf anhygoel yn hanes yr iaith Gymraeg.