Cartref digidol diwylliant Cymru.

CWYR Issue 1 DE-VICES

Gyflwyno CWYR rhifyn 1: DE-VICES sy’n cynnwys gwaith gan naw artist cwiar, mae’r rhifyn hwn yn ceisio darparu archwiliad i’r ffordd y mae folx cwiar yn rhyngweithio â thechnolegau digidol, yn eu defnyddio ac yn eu gwrthsefyll.

RHIFYN 2 LANSIO CYFLAWNIAD

Mynnwch eich dyddiadur allan oherwydd rydym yn lansio ail rifyn CWYR ar ddydd Gwener 13eg o Ragfyr! Ymunwch â ni o 6:30pm yn Rare Mags i fwynhau ein rhifyn diweddaraf, yn ffres oddi ar y wasg (bach).

Pennod 54 – ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’

Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I.

Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy.

Rebecca F. Hardy

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Rhagfyr yw Rebecca F. Hardy, artist gweledol amlddisgyblaethol wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

Fforwm Cymunedoli Cymru 2024

Cipolwg ar Fforwm Cymunedoli Cymru daeth a mentrau cymunedol o Gymru at ei gilydd am ddeuddydd ym Mhlas Tan y Bwlch.

The Gentle Good – Tachwedd

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd oes Fictoria. Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Tachwedd’ yn ddathliad seicedelig calonogol o’r hydref ac yn ein hatgoffa i ddal y golau drwy’r tywyllwch.

GWOBRAU COFFA AIL SYMUDIAD

Cystadleuaeth i fandiau ac artistiaid unigol dros Gymru gyfan

Pwy sy’n gallu cystadlu?
Unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd. Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Hoffech chi berfformio mewn tair gŵyl yn 2025 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar un o’r tlysau? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn chwilio am sŵn cyfredol a sŵn i’r dyfodol. 

I gofrestru, llenwch y ffurflen yma

Llyfrau’r Gaeaf

Chwilio am anrhegion Nadolig?

Mae Llyfrau’r Gaeaf, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael dros y misoedd nesaf, ar gael nawr.
Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim neu porwch y catalog yma!

GAFF – Chefchaouen

O’r albym ‘Escapism’ – allan Rhag 6 ar Recordiau Côsh Records.

Cerddoriaeth gan GAFF.

Fideo gan Nic Finch.

Argyfwng Y Byd Llyfrau

Croeso i bennod arall o Colli’r Plot.

Yn y rhifyn yma da ni’n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a thrafod yr yrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel.

Mae ‘na lot o chwerthin, ‘chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.


Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Meirw Byw – Rolant Tomos
Laura Jones – Kate Roberts
Lladron y Dyfnfor – Gruffudd Roberts
Meirw Byw – Rolant Tomos
Gwaddol – Rhian Cadwaladr
Letting Go – Wil Gritten
Friends of Dorothy – Sandi Toksvig
Nala’s World: One man, his rescue cat and a bike ride around the globe – Dean Nicholson
Tadwlad – Ioan Kidd
The Power of one – Bryce Courtenay
Disgyblion B – Rhiannon Lloyd
Elin a’r Felin – Richard Holt

Pennod 53 – Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard

Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol.

Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol.

Galwad Agored Sesiynau – Gŵyl Tawe – Sessions Call Out

Mae Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe yn chwilio am 5 gwneuthurwr ffilm i greu cyfres o ffilmiau o sesiynau byw yn arwain at Gŵyl Tawe ym mis Mehefin 2025. Bwriad y sesiynau yma bydd cynnwys amrywiaeth o artistiaid sydd wedi perfformio fel rhan o’r ŵyl ers iddo gael ei sefydlu yn 2021, a’u ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau unigryw ar draws Abertawe.

Cyfle Taledig

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Rhagfyr 18, 2024

Ffurflen Gais: YMA

Beyond/Tu Hwnt – Ffilm

Prynwch eich copi o ‘Beyond/Tu Hwnt’ nawr!   Mae AM yn falch o fod wedi cyd-gynhyrchu ffilm arbennig gyda Lucent Dreaming i ddathlu ‘Beyond/Tu Hwnt’, sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae ‘Beyond/Tu Hwnt’ yn flodeugerdd ddwyieithog, wedi’i olygu gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, yn cynnwys gwaith gan 31 o […]

Newid Syniadau am Ddysgu Iaith: Fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn (blog gan Nina)

Ym mis Hydref, cychwynnodd criw bach o gymuned GwyrddNi ar gwrs preswyl Cymraeg Canolradd/Uwch yn Nant Gwrtheyrn, a ddarparwyd yn hael am ddim gan y Nant.

Dros yr wythnos, cafodd y myfyrwyr gyfle i glywed cyngerdd preifat gan Gwilym Bowen Rhys, i ymweld â’r Orsaf i glywed am eu gwaith, ac i glywed Steve Eaves yn sôn am “Ecoieithyddiaeth” – yn ogystal â’r cyfle i ddysgu ac ymarfer llawer o Gymraeg!

Dyma dri o’r myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am yr wythnos: linc yma.

Mapio Cynefin a Dysgu am Natur yn Ysgol Rhosgadfan

Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn. Gallwch ddarllen am hyn fan hyn https://www.gwyrddni.cymru/rhaglen-addysg/ Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol.

Rôl y Gymraeg mewn grwpiau gweithredu cymunedol (gan Emily-Louise)

Emily-Louise stands in front of Bangor University sign

Mae Emily-Louise yn astudio ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio sut mae pobl mewn cymunedau dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn dewis pa iaith i’w defnyddio, a sut mae’r dewisiadau hyn yn effeithio ar eu hymwneud â gweithgareddau cymunedol.

Mae Emily-Louise yn gweithio ochr yn ochr â GwyrddNi i edrych ar y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg mewn gwahanol leoliadau cymunedol. Nod yr ymchwil yw taflu goleuni ar sut y gall iaith siapio nid yn unig sut rydym yn cyfathrebu, ond hefyd sut rydym yn teimlo am ein cymuned a’n lle ynddi.

Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024

I ddathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw, mae Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru wedi dewis 8 clawr llyfr o Gymru sydd yn eu barn nhw yn haeddu’r teitl Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024.

Bydd dylunydd/darlunydd y cloriau buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.

Speak Back

Mae ’Speak Back’ yn gwrs preswyl 5 diwrnod ar gyfer beirdd ac artistiaid perfformiadol. Ar gyfer y cyfle hwn, rydym yn croesawu ceisiadau gan feirdd ac artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r awduron llwyddiannus.

Dyddiadau’r Cwrs: Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Gwener 7 Mawrth 2025.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024.

Bydd yr wythnos yn archwilio themâu hunaniaeth, argyfwng hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Y tiwtoriaid yw Taylor Edmonds a Kandace Siobhan Walker.

Mae ‘Speak Back’ yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Sefydliad Foyle.

Sut i wneud cais – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-sut-i-wneud-cais/

Cymhwysedd a Chwestiynau cyffredin – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-cymhwysedd-a-chwestiynau-cyffredin/

Sara Elizabeth Jones

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Tachwedd yw Sara Elizabeth Jones, artist wedi’i leoli yn Wrecsam sy’n gweithio mewn gwahanol ffurfiau celfyddydol gan gynnwys Celfyddyd Gain a Darlunio Ffasiwn.

Pennod 52 – ‘Cyfaill ac Anwylddyn’: Beibl Bach 1630

Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620.

‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrodd y Beibl Bach, ysgrif hynod ddiddorol sy’n annog y darllenydd i adael i’r beibl hwn fyw yn tŷ ag ef ‘fel cyfaill’ ac ‘fel anwylddyn.’ O safbwynt hanes crefydd yng Nghymru, dyma garreg filltir a fyddai’n hybu Piwritaniaeth yn y pen-draw. Ac o safbwynt hanes llenyddiaeth Gymraeg, byddai’r cyhoeddiad hwn yn hybu llythrennedd yn sylweddol.

RHYDD – BETSAN

Mae Recordiau Côsh yn falch o gyhoeddi bod y cerddor a’r cyfansoddwr, Betsan, yn ymuno â’r label ar ddechrau ei phennod greadigol newydd fel artist.

Allan nawr ar yr holl lwyfannau arferol, ‘Rhydd’ yw’r cyntaf mewn cyfres o senglau fydd Betsan yn ei ryddhau dros y misoedd nesaf. Dyma fideo arbennig, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST, i gyd-fynd â’r trac.

Bendigaydfran – Y Goron Fawr

‘Mae’n freuddwyd i mi bod fi’n hunlle i ti’

Dyma fideo a pherfformiad trawiadol gan yr artist electro-pop o Gaerdydd i gyd-fynd â’i sengl diweddaraf – ‘Y Goron Fawr’.

Mae Bendigaydfran yn chwarae rhan cymeriad hunllefus gyda’r elfennau gweledol grymus yn creu fideo effeithiol a phriodol!

Fideo gan: Pink Chillies

Hwb Beics Pen Llŷn Bike Hub

Mae GwyrddNi webi bod yn cydweithio hefo Darganfod Llŷn (cwmni beiciau preifat lleol), O Ddrws i Ddrws, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Fenter Congl Meinciau, Coleg Meirion-Dwyfor (Staff a Myfyriwr), Amgueddfa Eco, Canolfan Pen y Graig a Sustrans i sefydlu Hwb Beics Llŷn yn Congl Meinciau, Botwnnog.

Am £20 y mis, mae pobl yn gallu dod yn aelod o’r Hwb a benthyg beic trydan. Mae’r fideo yn dangos dipyn o’r adborth rydym wedi ei gael yn barod!

Eisiau gwybod mwy neu benthyg beic? Cysylltwch hefo dafydd.rhys@ynnillyn.cymru

(Fideo beicio wedi ei dynnu gan Darganfod Llŷn)

Her yr Hydref: Aduniad – Elidir Jones

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Dwi Ar Gau – Lleucu Non (Official Video)

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Lleucu Non – Dwi Ar Gau

Wedi i senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies greu argraff ar ddechrau’r flwyddyn, pleser cyhoeddi mai Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy UNTRO, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, allan ddydd Gwener 11eg Hydref.

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, a’n cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. Eglura Lleucu: “Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Wedi’i magu yn Nyffryn Nantlle a bellach yn byw yn Gaerdydd, ychwanega Lleucu: “Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog. Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

Dwi Ar Gau – Lleucu Non

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Comisiynau Celfyddydau | Arts Commissions 2024

Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru 2024

Ydych chi’n artist sy’n hunan-anabod yn anabl neu fyddar yng Nghymru? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn comisiynu wyth artist i greu gwaith, mewn unrhyw ffurf celf, sy’n rhannu eu profiad byw trwy greadigrwydd.

Sut brofiad yw bod chi’ch hun? Beth yw eich profiad byw? Pa safbwyntiau unigryw sydd gennych chi fel person anabl?

Rydym am i chi ddangos i ni trwy gynhyrchu celf ragorol, mewn unrhyw ffurf celf.

Byddwn ni’n dewis wyth artist i dderbyn £1250 yr un i helpu i ddod â’r syniadau hyn yn fyw.

Am fideo IAP a thaflen sain, ewch i: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/comisiynau

Yr amser gorau i ddarllen llyfr

Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy’n cynnwys stripper.

Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau!

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Daith ydi Adra – John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey)
Tell Me Who I Am – Georgia Ruth
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Dog Days – Ericka Walker
Y Morfarch Arian – Eurgain Haf
Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Y Fran Glocwaith – Catherine Fisher (cyf. Mared Llwyd)
Nightshade Mother – Gwyneth Lewis 
Ystorïau Bohemia – amrywiol, cyf. T H Parry-Williams
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Clear – Carys Davies
Tywyllwch y Fflamau – Alun Davies
Y Twrch Trwyth – Alun Davies
Gwaddol – Rhian Cadwaladr.
Oedolyn-ish – Mel Owen
The Rhys Davies Short Story Award Anthology

Unity Film Festival 2024

Unity Film Festival is Back! 8 – 9 November at Chapter

Gan ddwyn y ffilmiau cynhwysol gorau o bob rhan o’r byd i Chapter, Gaerdydd, mae’r ail Ŵyl Ffilmiau Undod Hijinx yn gyforiog o ffilmiau hir a byr cyffrous, fydd yn procio’r meddwl ac yn unigryw. Gyda ffilmiau dogfen, animeiddio, dramâu, comedïau, gwyddonias, dramâu cyfnod a phopeth yn y canol, mae ail Ŵyl Ffilmiau Undod yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys sesiwn arbennig i gynulleidfaoedd iau. Gwnaed pob ffilm gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Tocynnau:

Mae tocynnau ar gael ar gyfer dangosiadau unigol: £8 / £5
Neu gallwch brynu tocyn diwrnod ar gyfer y naill ddiwrnod neu’r llall (neu’r ddau), am bris gostyngol aruthrol o £25 (pris llawn) neu £17.50 (pris consesiynau)

Tocynnau yma

Her yr Hydref: Gwledd gan Lowri Haf Cooke

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.

Mae Gwledd gan Lowri Haf Cooke yn dathlu 10 cwmni bwyd a diod o Gymru.

Dyma straeon rhai o arwyr ac arwresau’r byd bwyd a diod yng Nghymru heddiw. Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol.

Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant i’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.

Datblygu Cymunedol Drwy Fentro’n Gymdeithasol

Mae’r fideo hwn yn amlygu’r cydweithio rhwng Addysg Oedolion Cymru, Cwmni Bro Ffestiniog, a Raymond Williams Foundation. Gyda’i gilydd, maent wedi bod yn cynnal trafodaethau am y dyfodol berthynas rhwng Datblygu Cymunedol ac Addysg Oedolion yng Nghymru.

Pennod 50 – Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn.

Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth.

Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy!

Well / Being – Mab Jones

Cerdd ar ffurf ffilm wedi’i hanimeiddio ar y thema hapusrwydd gyda chyfraniadau gan bobl o bob rhan o Gymru.

Llawenydd i Dadau // Joy For Dads – Jonathan Dunn

Wrth feddwl am fy mhrif ffynhonnell o hapusrwydd, ni allaf ond meddwl am fy merch, Nora. Mae greddf Nora ar gyfer creu llawenydd yn naturiol, yn ddiymdrech ac yn ysbrydoli. Ei nod mewn unrhyw sefyllfa yw ‘sut gallaf wneud hyn yn fwy o hwyl?’. Rwy’n gweld bod dilyn ei hesiampl yn fy ngalluogi i brofi ei llawenydd […]

Tracey McMaster

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n rhoi sylw i waith anhygoel un o’n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Hydref yw Tracey McMaster!

Mae Tracey McMaster yn artist sy’n gweithio ar draws paentio a delwedd symudol.

Her yr Hydref: Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.