Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sut i Ddarllen: Melanie Owen

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen.     Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru.  Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.    Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn “Jacqueline Wilson girly,” rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth.     Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes  Recordio sain: Aled Wyn Hughes  Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.    Rhestr Ddarllen  Llyfrau Jacqueline Wilson  I Feel Bad About My Neck – Nora Ephron  mor hapus – Gwenllian Ellis  Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens – […]

PREMIÉRE: 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Premiére Rhaglen Ddogfen Ar-lein Ymunwch â ni ar gyfer premiére ar-lein o National Youth Dance Wales: 25 Years of NYDW, rhaglen ddogfen fer sy’n dathlu chwarter canrif o dalent ifanc, rhagoriaeth artistig, ac effaith genedlaethol, a ffilmiwyd gan On Par Productions. Gan nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r ffilm yn myfyrio ar […]

Adlais 2 Live

Bu Adlais yn canu o’r mynyddoedd gyda noson o gerddoriaeth wedi’I flaenori gan menywod yn The Foundry, Brycheiniog am 19.00 Sadwrn yr 2ail o Fawrth 2024. 

TOCYNNAU AR GAEL YMA

Chwalaw – Dim Arwyr

Cân yw hon am sut mae’r straeon rydym wedi tyfu fyny gyda yn canolbwyntio ar archdeip arwr gwrywaidd, a sut da ni ddim eisiau clywed am y chwedlau hynny mwyach. Mae geiriau Izzy ac Efa yn dweud eu bod eisiau glywed am y merched, y gwrachod a cymeriadau gwrth-batriarchaidd. Daw alaw’r ffidil o hen gân Sorbaidd o’r enw Budzer.

Efa Supertramp, Izzy Rabey a Cerys Hafana sy’n ymddangos yn y fideo mewn gwisgoedd priodas. Maent yn crwydro trwy goedwig mewn rhyw fath o ffantasi ffeministaidd cwiar sy’n gorffen gyda mŵg a mwd. Izzy bu’n cyfarwyddo, gyda Gabi Norland yn ffilmio a chyfarwyddo’r ffotograffiaeth. Dywedodd Izzy am y profiad, “O fewn cyd-destun y fideo fe wnes i dynnu ysbridoliaeth o fideos Courtney Love yn ei band ‘Hole’ yn y 90au a gwaith band punk y 70au The Slits – y llawenydd, mwynhad a nerth syn cael ei ddatgloi wrth beidio glyni at ystrydebau benywaidd chwedlonnol Cymraeg. Cofleidio’r hyll a’r phwer sydd o fewn ni gyd!”

Ynglŷn â’r gân, esboniodd Efa fod y gân wedi dod i fodolaeth yn ystod preswyliad gydag artistiaid Sorbaidd, “Rodden ni’n trafod sut mae gymaint o’n traddodiadau (Cymraeg a Sorbaidd) yn patriarchal ac sut roedden ni eisiau creu dyfodol gwahanol i’n ieithoedd a diwyllianau – dyfodol feminist a queer. ‘Nath Paul Geigerzähler roi’r alaw feiolin lawr (o gân traddodiadol Sorbaidd) a dyma Nick yn ei lŵpio ac adeiladu’r track o fana. Roedd geiriau’r gan werin wreiddiol ‘Budzer’ yn afiach, felly hyna oedd yr ysbrydoliaeth rili – o ni just yn meddwl am y holl pobl cryf sydd wedi bodoli yn y gorffennol ac sut mae eu storiau wedi ei anghofio a’u colli. O fana natha ni yrru’r gân i Izzy i weld os oedd hi isho rhoi rap arna fo”.

Ychwanegodd Izzy, “Mae’r Mabinogion wastad yn portreadu menywod fel unigolion sy angen cael eu hachub, yn “bur”, yn ddioddefwyr trawma. I fi, maer bortread yma o menywod fel dioddefwyr yn chwarae mewn i sut mae cerddoriaeth a chelfyddydau Cymraeg yn portreadu menywod. Ar gyfer y gân yma, roeddwn i eisiau siarad am y pwer sydd i’w ffeindio mewn dathlu eich cymhlethdod, o fod yn wrach yn hytrach na thywysoges a pha mor ddwfn mae chwedlau yn gallu chware mewn i sut ydyn nin gweld bobl femme heddiw.”