Cartref digidol diwylliant Cymru.

Chwalaw – Dim Arwyr

Cerddoriaeth

Cân yw hon am sut mae’r straeon rydym wedi tyfu fyny gyda yn canolbwyntio ar archdeip arwr gwrywaidd, a sut da ni ddim eisiau clywed am y chwedlau hynny mwyach. Mae geiriau Izzy ac Efa yn dweud eu bod eisiau glywed am y merched, y gwrachod a cymeriadau gwrth-batriarchaidd. Daw alaw’r ffidil o hen gân Sorbaidd o’r enw Budzer.

Efa Supertramp, Izzy Rabey a Cerys Hafana sy’n ymddangos yn y fideo mewn gwisgoedd priodas. Maent yn crwydro trwy goedwig mewn rhyw fath o ffantasi ffeministaidd cwiar sy’n gorffen gyda mŵg a mwd. Izzy bu’n cyfarwyddo, gyda Gabi Norland yn ffilmio a chyfarwyddo’r ffotograffiaeth. Dywedodd Izzy am y profiad, “O fewn cyd-destun y fideo fe wnes i dynnu ysbridoliaeth o fideos Courtney Love yn ei band ‘Hole’ yn y 90au a gwaith band punk y 70au The Slits – y llawenydd, mwynhad a nerth syn cael ei ddatgloi wrth beidio glyni at ystrydebau benywaidd chwedlonnol Cymraeg. Cofleidio’r hyll a’r phwer sydd o fewn ni gyd!”

Ynglŷn â’r gân, esboniodd Efa fod y gân wedi dod i fodolaeth yn ystod preswyliad gydag artistiaid Sorbaidd, “Rodden ni’n trafod sut mae gymaint o’n traddodiadau (Cymraeg a Sorbaidd) yn patriarchal ac sut roedden ni eisiau creu dyfodol gwahanol i’n ieithoedd a diwyllianau – dyfodol feminist a queer. ‘Nath Paul Geigerzähler roi’r alaw feiolin lawr (o gân traddodiadol Sorbaidd) a dyma Nick yn ei lŵpio ac adeiladu’r track o fana. Roedd geiriau’r gan werin wreiddiol ‘Budzer’ yn afiach, felly hyna oedd yr ysbrydoliaeth rili – o ni just yn meddwl am y holl pobl cryf sydd wedi bodoli yn y gorffennol ac sut mae eu storiau wedi ei anghofio a’u colli. O fana natha ni yrru’r gân i Izzy i weld os oedd hi isho rhoi rap arna fo”.

Ychwanegodd Izzy, “Mae’r Mabinogion wastad yn portreadu menywod fel unigolion sy angen cael eu hachub, yn “bur”, yn ddioddefwyr trawma. I fi, maer bortread yma o menywod fel dioddefwyr yn chwarae mewn i sut mae cerddoriaeth a chelfyddydau Cymraeg yn portreadu menywod. Ar gyfer y gân yma, roeddwn i eisiau siarad am y pwer sydd i’w ffeindio mewn dathlu eich cymhlethdod, o fod yn wrach yn hytrach na thywysoges a pha mor ddwfn mae chwedlau yn gallu chware mewn i sut ydyn nin gweld bobl femme heddiw.”

RHANNWCH