Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 42 – Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog

Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. 

Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gwelwn y bardd yn addasu hen gofensiynau’r canu mawl er mwyn canmol yr addysg a gafodd y dyneiddiwr yn Rhydychen, gan gynnig enghraifft wych o’r modd y mae’r hen a’r newydd yn ymgymysgu yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg.

BERIAN – DSD

‘DSD’, fy sengl cyntaf, allan nawr / My debut track, ‘DSD’, out now via UNTRO.

Cyfarwyddwr / Director : Aled Victor

Ariannir gan / Funded by : Cronfa Fideos Lwp x PYST Music Video Fund

Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)

“Mae hunaniaeth yn gwestiwn.
Perthyn yn emosiwn.
A chenedl yn stori rydym yn ei rhannu’n gyffredin.”

Dyma gofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy’n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth iddo olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.

Yn gefndir i’r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Covid-19.

Mae’r awdur yn ysgrifennu’n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni ei blant a cholli aelodau teulu agos, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a’i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg.

Bydd y gyfrol arbennig hon yn eich annog i feddwl.

Barn y Bobl – Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Myfyrdodau cynnes y bardd ac awdur, Iwan Rhys, wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd ywTrothwy. Mae’r gyfrol yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.

Ffeithiol Greadigol – Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduron a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.

Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni’n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth – ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft – sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.

Digwyddiad Rhannu Comisiynau Trawsgyweirio | Modulate Commission Sharing Event

Dyddiad: 06/06/24

Amser: 18:00-19:00

IAP: Claire Anderson

Capsiynau: Mirella Fox

Cofrestrwch yma.

Ymunwch â ni i glywed am y pedwar prosiect cerdd a gomisiynwyd gan bedwar cerddor ifanc talentog yn ymateb i alwad gennym ni i “Deall y profiad byw o fod yn gerddor/person anabl yng Nghymru yn y byd cyfoes. Mae’n ymwneud â sut mae hi i chi yn y presennol.” ac mae rhai themâu cyffredin yn y modd y maent wedi ymateb i hyn ac mae rhai wedi manteisio ar y cyfle i ehangu ar ei waith.

Dewch draw i ddarganfod beth sy’n cysylltu’r pedwar artist hyn sydd ag arddulliau a dulliau gwahanol iawn o wneud cerddoriaeth yn ogystal â phrofiadau unigol iawn o fod mewn diwydiant sy’n dal i analluogi cerddorion ifanc talentog oherwydd eu bod yn digwydd bod â nam neu ddau.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth: rachel@dacymru.com neu nye@dacymru.com

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter

Yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn cyhoeddwyd mae Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter yw enillyd categori uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2024. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Y Lolfa. 

Dyma nofel yw am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf. 

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod! 

Mae Gwobr Tir na n-Og mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol, sy’n eironig iawn achos mae angen darllenwyr iau i sicrhau y bydd ’na ddarllenwyr Cymraeg sy’n oedolion yn nes ymlaen! Ma ’na lot o resyma pam dwi’n meddwl fod llyfrau plant yn bwysicach, o bosib, na rhai oedolion – ond dyma un ohonyn nhw.” 

Yr awdur Megan Angharad Hunter sy’n rhoi blas o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Jac a’r Angel gan Daf James

Yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, cyhoeddwyd mae Jac a’r Angel gan Daf James yw enillydd categori cynradd Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Y Lolfa. 

Dyma nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd. 

Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi. 

Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”

Dyma Daf James yn darllen detholiad o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Yws Gwynedd – Bae

Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N’famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd.

Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy’n cyhoeddi’r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi’i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i osod cyn diwedd y flwyddyn. 

I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones.

Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas

Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas yw Llyfr y Mis i Blant. 

Pwy yw’r arwr sydd ei angen ar Gymru heddiw? Mae criw o blant o Fannau Brycheiniog yn meddwl eu bod nhw’n gwybod yr ateb! Tasg ddigon syml yw dod o hyd i’r Brenin Arthur, ei ddeffro a’i berswadio i’w helpu i achub y byd. Ond does neb yn barod am yr antur fydd yn dilyn… 

Dyma drydedd nofel Rebecca Thomas. Ysgrifennwyd y nofel yn ystod ei chyfnod fel Awdur Preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, preswyliad i weithio ar brosiect creadigol yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel rhan o broses, bu Rebecca yn cynnal gweithai gyda disgyblion ysgolion lleol.

Yr awdur Rebecca Thomas sy’n darllen detholiad. 

Ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Mae Bywyd Yma – Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae’r cywaith hwn rhwng y bardd Guto Dafydd a’r ffotograffydd Dafydd Nant yn ddathliad dau ffrind o’u cynefin yn Llŷn. Yn y cerddi a’r lluniau gwelir harddwch y fro, ac eir i’r afael â’i threftadaeth amrywiol – y morwrol a’r diwydiannol, y crefyddol a’r diwylliannol, y cymunedol a’r teuluol. Mae’r cyfanwaith yn dangos bod modd gwerthfawrogi holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn.

Prynwch yma

Barddoniaeth – Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

‘A ninnau’n blino awn yn ein blaenau…’

Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro. Mae tynfa barhaus rhwng magwrfa bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r ‘bwlch siâp Duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno. Er gwaethaf hyn, mae gwreichion o hiwmor a gobaith drwy’r cyfan; y gobaith anodd hwnnw o wybod – er bod pethau’n anodd – bod yn rhaid parhau.

Ara Deg 2024

Neuadd Ogwen, Bethesda

Dydd Iau 22/8 7yh
DAS KOOLIES
GROUP LISTENING

Dydd Gwener 23/8 7yh
BILL RYDER-JONES

Dydd Sadwrn 24/8 o 10yb

  • 10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast
  • 11:00 – Ffilm PANDORA’S BOX gyda thrac sain byw gan PAT MORGAN ac ALAN HOLMES

  • 15:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth i’w gadarnhau (Capel Jerwsalem)

  • 17:00 – DJ DON LEISURE (Fic)

  • 19:00 – Hwyr

  • MERCHED LLOERIG

  • FFLAPOGRAM

  • GRUFF RHYS

  • DJ DON LEISURE

  • DJ ANDY VOTEL

Tocynnau penwythnos ar gael yma

BERIAN – DSD

Mae sengl gyntaf y cynhyrchydd, BERIAN, allan nawr drwy UNTRO!

Bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf cyn pob dangosiad o’r ffilm ‘Hoard’ yn Chapter fis yma. Archebwch eich tocyn yma.

Pennod 41 – Maniffesto William Salesbury

Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. 

Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth.

LLYF24: Rhestr Fer | WBOTY24: Shortlist

Wedi misoedd lawer yn darllen trwy gynnyrch llenyddol 2023, mae dau banel beirniadu annibynnol wedi dewis eu rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Fer, ewch i dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.


Bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal ar nos Iau, 4 Gorffennaf yn Galeri Caernarfon. Tocynnau ar gael yma.

Gŵyl y Gwylliaid – BWM BWM BWM

Nos Wener 28 Mehefin – Bragdy’r Beirdd – 8yh; gyda’r Prifardd Rhys Iorwerth, yng nghwmni tîm talwrn y Llew Coch. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.

Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024 – 3yh; Gŵyl hwyliog i ddathlu bywyd ein ffrind, Betsan Wyn Morris. Gig mawreddog yng nghwmni Elin Fflur a’r band, Eden, Mei Gwynedd, Mr, Cowbois Rhos Botwnnog a Mynadd

Mynediad trwy tocyn eventbrite yn unig – £30

Dydd Sul 30 Mehefin – Diwrnod o hwyl i’r teulu – 2yh; yng nghwmni rhai o sêr Cyw ac S4C. Cerddoriaeth gan Gôr Meibion Machynlleth ac Aeron Pughe. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.

Parti Priodas gan Gruffudd Owen

Parti Priodas gan Gruffudd Owen yw Llyfr y Mis, mis Mai. 

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, ac sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd. 

Bydd parti priodas Dafydd a Samantha yn noson i’w chofio. Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd ac Idris yn hiraethu am ei ffrind gorau wrth ddychwelyd i Lyn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb? 

I nodi Parti Priodas yn Lyfr y Mis, y dramodydd Gruffudd Owen sy’n awgrymu pum llyfr fyddai’n gwmni gwych i’r gyfrol.

KIM HON – Milkshek

Mae Kim Hon wedi dod yn fand anarchaidd Cymreig eiconig sy’n creu hafoc mewn sîn sydd wedi dod yn hunanfodlon yn ddiweddar. Yn adnabyddus ledled Cymru am eu gigs egnïol, mae’r band wedi ymdrechu i fynd â’u sŵn Psych-roc Cymraeg i gynulleidfa ehangach, gyda eu alawon a’u synau sy’n chwalu ffiniau tra’n swnio’n gyfarwydd. Wedi ymddangos yn ddiweddar ar rhaglen Paranormal ar BBC Three gyda Sian Eleri (DJ BBC Radio 1). Mae ‘Milkshake’ yn drac oddi ar eu albym gyntaf, a gafodd ei ryddhau fis Tachwedd 2023 ar Recordiau Côsh.

Atgof – Eryrod Meirion

Perfformiad Eryrod Meirion o’i sengl, ‘Atgof’.

Geiriau: E. Prosser Rhys
Cainc/Trefniant: Gavin Ashcroft
Telyn: Dylan Cernyw
Cynhyrchydd sain: Ifan Jones – Drwm
Cynhyrchydd fideo: Dafydd Hughes – Amcan
Hyfforddwraig: Branwen Williams
Lleoliad: Neuadd Bentref Llangywer

Y Sioe Ffasiwn

Dyma bodlediad newydd sy’n drafod ffasiwn gan griw Colli’r Plot!

Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl lenyddiaeth trosedd Aber, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Brenin, y Bachgen a’r Afon – Mili Williams
Eigra – Eigra Lewis Roberts
We need new names – NoViolet Bulawayo
Fools and Horses – Bernard Cornwell
Pen-blwydd Hapus? – Ffion Emlyn
Blas y môr, John Penri Davies
Y Castell ar y Dŵr – Rebecca Thomas
The One Hundred Years of Lenni and Margo – Marianne Cronin
Parti Priodas – Gruffudd Owen
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun – Marged Esli
Not That I’m Bitter – Helen Lederer

Coblyn o Sioe – Myfanwy Alexander

Cerdded y palmant golau – Harri Parri

Drew, Moo and Bunny, Too – Owain Sheers

Ten Steps to Nanette – Hannah Gadsby

The Rabbit Back Literature Society – Pasi Ilmari Jääskeläinen


Pennod 40 – Dyneiddiaeth Gymreig

Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!).

Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math.

Comisiynau Bloeddiad Olaf Trawsgyweirio

Bloeddiad Olaf Am Chwech O’r Goreuon

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod chwe chomisiwn newydd wedi’u dyrannu i chwe cherddor ifanc anabl o banel Trawsgyweirio Celfyddydau Anabledd Cymru. Mae’r chwech a ddewiswyd yn cynrychioli pedwar prosiect ysgrifennu caneuon/recordio, un prosiect fideo ac un prosiect podledu. Bydd pob un ohonynt yn mynd i’r afael â’u profiad o fod yn berson creadigol anabl yn gymdeithas heddiw a’u profiadau personol, weithiau’n boenus, weithiau’n ddoniol. Maen nhw i gyd yn gerddorion ifanc hynod fedrus ac ni allwn aros i weld beth maen nhw’n eu creu.

Bydd pedwar o’r prosiectau yn cael eu harddangos mewn digwyddiad rhannu ar 06/06/24 am 18:00 gyda dehongliad IAP gan Claire Anderson.

Pennod 39 – Y Gymraeg a Byd Newydd Print

Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) 

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth.
Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print.

Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn

Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn yw Llyfr y Mis, mis Ebrill. 

Mae Martha yn cael anrheg ar ei phen-blwydd yn 32 oed, newyddion sy’n ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth. 

Mae’r gomedi dywyll hon yn dilyn siwrnai mewn bws i Lundain, ar goll yng nghefn gwlad Caerfyrddin, wrth iddi guddio mewn camperfan ar draeth ym Mhorthmadog a chyfaddef i lofruddiaeth. 

Yr awdur Ffion Emlyn sy’n rhoi blas o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

CARCHARDAI

Bocs, Canolfan y Mileniwm Cymru

25 – 28/4

12:00 – 16:00

Pennod 38 – Alis Wen

Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5)

Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd.

| təʊl | R&D film

Gwaith amlddisgyblaethol newydd ar gyfer offerynnau taro, a seined ymdrochol gan John Meirion Rea.

Cydwethrediad â’r Fonesig Evelyn Glennie.

HOSPES (4K, Binaural audio)

Mae’r gwaith yn ymchwiliad i gyfoeth diasporig y strydoedd sy’n amgylchynu’r ysbyty, a Chaerdydd yn fwy cyffredinol, a’i osod o fewn ei gyd-destun hanesyddol. Beth mae’r lleisiau sy’n cael sylw yn HOSPES yn ei ddweud am hunaniaeth a pherthyn yn ein Prifddinas heddiw?

PARADE

“Canol Dinas yw lle mae’r holl hen gofadeiladau, ond nid, gan amlaf, lle mae bywydau pobl….y canol yw lle wyt ti.” Guido Guidi.

Lleisiau pobl Cymru yw ysbrydoliaeth fy ngwaith creadigol. Hoeliwyd fy sylw ar natur felodig a gwead ein tafodieithoedd Cymraeg ac Eingl-gymreig brodorol, a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu yn amlinelliad ein tirwedd, yn wledig a dinesig. Gellir gweld yr agwedd hon yn PARADE, sef comisiwn Canfod Maendy/ Finding Maindee ar gyfer Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter Creu Cymunedau Cyfoes, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth greu PARADE, cwrddais â phobl a recordiais eu storïau, wrth ochr y sinematograffydd a ffotograffydd, Huw Talfryn Walters. Cyflwynais y deunydd verite yma yn ffurf gosodwaith sain amgylchynol, ac ymyrraeth sonig. Wrth wneud hyn, cyflwynais y gwirioneddau a thirweddau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn, mewn cyfuniad â sain a delweddaeth haniaethol sy’n arwyddo a symboleiddio ystyr a synnwyr lle, a themâu hunaniaeth, perthyn, a Chenedligrwydd. Teimlais yn gryf y dylid cynnig llwyfan i’r bobl yma gael siarad.

CONCRÈTE: Site-Specific Installation and performance work.

Ni chafodd chwyldro’r ugeinfed ganrif mewn sain a cherddoriaeth ei ddangos ar y teledu, ond yn hytrach cafodd ei roi ar dâp, ei samplo, ei drin, a’i ddyfeisio o’r newydd; gan osgoi hen draddodiadau wrth chwilio am sawl Iwtopia sonig gyfoes.

Dyfeisiwyd technolegau recordio/electronig newydd gan rai. Fe wnaeth rhai eraill ymateb i sŵn, gan greu a chwilota ffurfiau cyfoes o fynegiant, a rhannu aflonyddwch yn y chwyldro sŵn-cerddoriaeth parhaus hyn a ddechreuodd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac sy’n parhau i fod yn berthnasol.

Mewn ymateb i hyn, creodd John berfformiad sonig byw; yn wrogaeth ac yn deyrnged i Ddyfodolaeth, Adeileddiaeth Rwsiaidd, Bauhaus; a meddylwyr a chrewyr gwrthryfelgar fel Maurice Martenot, Léon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varèse, Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn….

Yn yr hen ffatri arfau rhyfel, yn Dumballs Road, Caerdydd, fe gymerodd y Cyfansoddwr John Rea a’r Dylunydd Sain, Simon Jones ran mewn perfformiad sonig am un tro yn unig. Fe wnaeth y perfformiad drin cipio sain a thechnoleg cynhyrchu sain y gorffennol a’r presennol. Wedi hynny, rhoddwyd gosodwaith trwythol a grëwyd gan John yn y gofod hwnnw am weddill yr Ŵyl.

Atgyfodi (vb revive, vb resurrect). Arthur Morris Roberts and Capel Celyn.

Dyma glip o’r darn Atgyfodi yn cynnwys recordiadau o ardal Tryweryn, a chyfweliad hefo ffermwr lleol Arthur Morris Roberts, a welodd Capel Celyn yn boddi fel bachgen ifanc. Mae Atgyfodi yn cyfuno perfformiad byw, a gosodweithiau sain, wedi eu ysbrydoli gan archifau sain a ffotograffig Amgueddfa Sain Ffagan. Perfformiwyd y darn, ynghyd a’r gosodweithiau yn yr Amgueddfa ym Mis Hydref, 2018, ac yn Wyl Diffusion/Ffotogallery a Green Man ym 2019. Mae’r mix gwreiddiol yn ymdrochol, 5.1.

Y Ffeinal…o’r diwedd!

Hir yw pob aros ond dyma ni’r bennod olaf o’r gyfres! Er nad oedd yr enillydd yn sioc, roedd na gymaint i’w fwynhau (a’i feirniadu) yn y bennod. Diolch i chi gyd am wrando, am gefnogi ac am gyfrannu at y sgwrs. Da ni wir yn gwerthfawrogi. Felly am y tro, mwynewch!

Gŵyl Rhuthun Festival 2024

Leinyp Top Dre 2024

Dyma leinyp llawn Top Dre eleni! Pwy ydych chi’n edrych ymlaen i weld mwyaf? 

Dydd Sadwrn 29ain o Fehefin 

1yh-8yh 

£5 (plant am ddim) 

Pennod 37 – Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)

Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) 

Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn hwyl sydd hefyd yn dweud llawer am y modd y canfyddai’r Cymry rym barddoniaeth.
Sylwn hefyd ar chwedl sy’n darlunio’r Brenin Arthur fel merchetwr hunanol eiddigeddus. Ac yntau’n filwr ffyddlon ym myddin Harri VIII, cofnododd Elis nifer o chwedlau’n ymwneud â ‘hanes’ y Tuduriaid hefyd, gan gynnwys un sy’n dyrchafu Harri VII fel ‘y mab darogan’ ar draul Owain Glyndŵr, stori gariad sy’n egluro tarddiad y teulu, ac un am y brudiwr o fardd Rhobin Ddu a broffwydodd am enedigaeth Harri Tudur.

GRIEF

Ymdeimlad a brofir gan lawer ond na chaiff ei drafod bob amser.

Mae GRIEF yn paentio darlun o’r tudalennau a’r camau rydyn ni’n mynd trwyddynt wrth wynebu’r agweddau sy’n ffurfio galar. Trwy gerddoriaeth wreiddiol wedi’i gyfansoddi gan Francesca Amewudah-Rivers, symudiad wedi’i goreograffi a’i berfformio gan Arnold Matsena, a geiriau wedi’u hysgrifennu a’u perfformio gan Connor Allen, mae GRIEF yn archwilio effaith colled o safbwynt y corff. Mae’n archwiliad corfforol agos atoch o ymdopi’n barhaus â’r egni a’r emosiwn sy’n cyd-fynd â galaru.

Cerddoriaeth wedi’i chyfansoddi a’i chynhyrchu gan // Music Composed and Produced by – Francesca Amewudah-Rivers
Testun wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan // Text Written and Performed by – Connor Allen
Cyfarwyddwyd gan // Directed by – Connor Allen and Francesca Amewudah-Rivers

interbeing

Mae interbeing, term a grëwyd gan y meistr Zen a gweithredwr heddwch, Thich Nhat Hanh, yn mynegi bodolaeth gysylltiedig pob peth. Yn deillio o’r term hwn, mae’r interbeing yn gollage operatig arbrofol sy’n archwilio perthynas dynoliaeth â’r tir ac, yn benodol, sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae’n awgrymu bod popeth yn bodoli mewn cyflwr o fod yn gysylltiedig, wedi’u gweu gyda’i gilydd ac yn ddibynnol ar ei gilydd. Gan ddefnyddio’r cysylltiad corfforol rhwng tir a chorff fel motiff gweledol a sonig, mae’r opera hon yn gwasanaethu fel galwad i weithred.

Cerddoriaeth // Music – Simmy Singh
Libretto a Delweddau // Libretto and Visuals – ASHA

GIG KLUST 05

Bydd Mellt, Half Happy, Siula a Melfed Melys yn chwarae yn Victoria Dalston, Llundain ar y 3ydd o Fai!

Tocynnau ar werth dydd Gwener am 10AM via klustmusic.com.

Mwy o gyw iâr amrwd na rhost

Diolch byth am ddoniau stand-up Hannah a Tia neu mi fyse’r bennod yma wedi bod yn siom enfawr. Ydi tasg stand-up yn deg pan nid Saesneg yw mamiaith hanner y Cwîns? Ddylse’r dair Cwîn fod wedi bod yn y gwaelod? Gewch chi glywed beth oedd gan Mari a Meilir i’w ddweud nawr!