Cartref digidol diwylliant Cymru.

About the Author: Hanan Issa

Bardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh Plural: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog buddugol With Her Back Straight yn Theatr y Bush fel rhan o’r Hijabi Monologues. Hi yw Bardd Cenedlaethol presennol Cymru a Chymrawd Rhyngwladol y Gelli 2022-23.

About the Author: Rhian Tracey

Ganed Rhian Tracey yn Abertawe a chafodd ei magu ar y gororau. Cafodd ei chytundeb cyhoeddi cyntaf yn 26 oed. Mae Rhian yn dysgu sawl diwrnod yr wythnos mewn adran AAA, gan weithio gyda myfyrwyr sydd â dyslecsia, dyspracsia, awtistiaeth, ADD ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda Medical Detection Dogs, gan helpu i hyfforddi cŵn bach a fydd yn mynd ymlaen i fod yn gŵn cymorth. Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Rhian i blant hŷnI, Spy: a Bletchley Park mystery, ym mis Mawrth 2023.

About the Author: Alex Wharton

Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, The North Somerset Teacher’s Book Awards, The Laugh Out Loud Book Awards a chafodd ei enwi’n Lyfr wedi’i Argymhell Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Yn 2021 comisiynwyd Alex gan Ŵyl y Gelli i greu cerdd gyda myfyrwyr cynradd i’w darllen i’w Huchelder Brenhinol, Cydweddog y Frenhines mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Bydd ail a thrydydd casgliad Alex o farddoniaeth, Poems for Brilliant Brains a Red Sky at Night: A Poet’s Delight yn cael eu cyhoeddi gyda Firefly Press yn 2023 a 2024, yn y drefn honno.

About the Author: Eloise Williams

Eloise Williams oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf 2019–2021. Mae hi wedi cyhoeddi pedwar llyfr i bobl ifanc: Elen’s Island, Gaslight, Seaglass a Wilde. Yn 2019, cyrhaeddodd Seaglass restr fer gwobrau fawreddog Tir na n-Og.

About the Author: Matt Brown

Mae Matt Brown yn ddarlledwr sydd wedi cyflwyno rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y DU, yn ogystal â sioeau radio ar Capital, Heart a Magic. Mae hefyd yn awdur arobryn dwy gyfres o lyfrau plant: Compton Valance a Dreary Inkling School.

Ystum plentynnaidd Plaid Cymru

Beth bynnag oedd ei wendidau, penderfyniad ynfyd oedd cael gwared ar Adam Price fel arweinydd meddai cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Pennod 12 – Arthur y Barbwr

Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i gael hyd i Olwen a’i phriodi, ac mae stori werin draddodiadol am arwr yn priodi merch y cawr yn fframwaith ar gyfer llwyth o anturiaethau.
Nodweddir y chwedl hon gan gyflawnder o gymeriadau Arthuraidd, gan gynnwys ambell un a fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr ‘Yr Hen Iaith’ (fel y porthor Glewlwyd Gafaelfawr, er enghraifft, a fedyddiwyd gan Richard Wyn Jones yn ‘Gyfaill y Pod’). Ac, ie, pam bod Culhwch yn mynd at Arthur er mwyn cael torri’i wallt?!

Original Sins – Matt Rowland Hill (Chatto & Windus)

Magwyd Matt Rowland Hill yn fab i weinidog mewn eglwys Gristnogol efengylaidd yn ne Cymru ac yna de-ddwyrain Lloegr. Roedd yn blentyndod llawn gwrthdaro teuluol chwerw ac ofn damnedigaeth. Ar ôl colli ffydd ddinistriol yn ei arddegau hwyr, dechreuodd Matt chwilio am iachawdwriaeth mewn mannau eraill, gan droi at lyfrau cyn datblygu perthynas gynyddol ag […]

About the Author: Matt Rowland Hill

Ganed Matt Rowland Hill ym 1984 ym Mhontypridd, a chafodd ei fagu yng Nghymru a Lloegr. Mae bellach yn byw yn Llundain, ac Original Sins yw ei lyfr cyntaf.

Am yr Awdur: Luned Aaron

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi creu nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Mae’r Cyfan i Ti, Mira a’r Dant a’i chyfres Byd Natur. Yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur. Mae’n cyd-redeg gwasg Llyfrau Broga gyda’i gŵr, Huw Aaron.

Am yr Awdur: Huw Aaron

Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn awdur nifer o lyfrau poblogaidd i blant (yn cynnwys A am Anghenfil, Seren a Sbarc, Ble Mae Boc? a Gwil Garw a’r Carchar Crisial). Fo sefydlodd y comic Mellten, ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.

Am yr Awdur: Sioned Medi Evans

Yn wreiddiol o Ben Llŷn mae Sioned Medi Evans bellach yn byw ac yn gweithio fel dylunydd llawrydd yng Nghaerdydd. Mae’n teimlo’n angerddol am ddarlunio, adrodd stori a phortreadu bywyd bob dydd yn ei gwaith, gan geisio ychwanegu ychydig o liw a phositifrwydd i’r byd

Am yr Awdur: Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn awdur ac yn ddramodydd sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei llyfrau i blant a phobl ifanc. Llyfr Glas Nebo oedd Llyfr y Flwyddyn 2019 ac enillodd bum Gwobr Tir na n-Og, am Trwy’r Tonnau, Prism, Pluen, Fi a Joe Allen a Pobol Drws Nesaf. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.

When the War Came Home: Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben, ond nid yw wedi diflannu.

Pan mae Natty yn gorfod symud i bentref newydd, mae hi’n cwrdd â dau filwr ifanc sy’n dal i frwydro yn erbyn effeithiau’r rhyfel. Ni all Huw anghofio’r pethau ofnadwy y mae wedi’u gweld, ond nid yw Johnny hyd yn oed yn cofio pwy ydyw.

Wrth i Natty geisio cadw cyfrinach a datrys dirgelwch, mae’n dod o hyd i’w ffordd ei hun o frwydro dros yr hyn y mae’n credu ynddo – ac yn dysgu na ddylid byth anghofio rhai pethau…

Mwy am Lesley Parr yma

About the Author: Lee Newbery

Mae Lee Newbery yn byw gyda’i ŵr, mab a dau gi mewn tref glan môr yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y dydd, mae’n helpu pobl agored i niwed i chwilio am swyddi ac ennill sgiliau newydd, a gyda’r nos, mae’n eistedd i lawr wrth ei liniadur i ysgrifennu.

About the Author: Lesley Parr

Magwyd Lesley Parr yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yn Lloegr gyda’i gŵr. Mae’n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu straeon, addysgu mewn ysgol gynradd a thiwtora oedolion. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu i Bobl Ifanc o Brifysgol Bath Spa.

And… a Memoir of my Mother – Isabel Adonis (Black Bee Books)

Ganed Isabel Adonis yn Llundain ym 1951, i’r Gymraes Catherine Alice Hughes a’r artist enwog o Guyana, Denis Williams, y mae ei gwaith wedi’i arddangos yn Oriel y Tate. Wedi’i magu yn Llundain, Swdan a Chymru, gyda thad pell a mam ynysig, mae Adonis yn archwilio natur hunaniaeth, diwylliant ac awydd fel y’i lluniwyd gan […]

About the Author: Isabel Adonis

Mae Isabel Adonis yn fam, yn awdur ac yn artist. Cafodd ei geni a’i magu yn Llundain nes ei bod yn chwech oed, pan ddechreuodd ei thad weithio yn Khartoum yn Swdan. Bu’n byw ac yn mynd i’r ysgol yno nes ei bod yn naw oed pan brynodd ei rhieni dŷ yng Nghymru. Am y naw mlynedd nesaf bu Isabel yn byw ac yn mynd i’r ysgol yng Nghymru ac yn teithio i Affrica yn ystod y gwyliau.

Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn y New Wales Review, Urban Welsh, Just So You Know a’r Journal of Caribbean Literature. Hi oedd enillydd y cylchgrawn Best Article 2002 yn y cylchgrawn Impact ac mae ganddi bedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny.

About the Author: Jude Rogers

Dechreuodd y newyddiadurwr a’r awdur celfyddydol a aned yn Abertawe, Jude Rogers, ei gyrfa newyddiaduraeth yn y Llanelli Star yn ei harddegau. Mae wedi ysgrifennu am y celfyddydau a diwylliant ar gyfer The Guardian, Observer, Sunday Times, New Statesman a llawer o gylchgronau merched ers canol ei 20au, a gwneud llawer o raglenni dogfen clodwiw ar gyfer BBC Radio 4, gan gynnwys cyfres 2021 ‘A Life in Music’. Mae hi bellach yn byw ger y Fenni.

Am yr Awdur: Caryl Lewis

Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n eistedd ar y cwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrin hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae’nddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth. Drift yw ei nofel gyntaf yn yr iaith Saesneg.

Am yr Awdur: Gareth Evans-Jones

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018, ac enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (yn 2019 a 2021). Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’i gyfrol gyntaf o straeon meicro.

Am yr Awdur: Rhian Parry

Magwyd Rhian Parry yng Nghaer ac yna ym Mhenmon. Yn dilyn gyrfa mewn addysg a’r gwasanaeth sifil hŷn, cychwynnodd ar ymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Ar ôl ennill ei doethuriaeth, defnyddiodd ei hymchwil i rannu ei gwybodaeth â’r cyhoedd. Lluniodd a hwylusodd brosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gyntaf i Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yna i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Bu’n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C ac yn gyd-gyflwynydd. Dychwelodd i Fôn yn ddiweddar.

About the Author: Paul Henry

Ganed Paul Henry yn Aberystwyth a daeth at farddoniaeth trwy gyfansoddi caneuon. Ers derbyn Gwobr E. C. Gregory mae wedi cyhoeddi wyth casgliad gyda Seren, gan gynnwys Boy Running a The Brittle Sea: New & Selected Poems. Mae ei waith wedi ei gynnwys mewn sawl blodeugerdd, a’i gyfieithu’n eang. Mae Paul wedi perfformio ei gerddi a’i ganeuon mewn gwyliau yn Ewrop, Asia ac UDA. Ef yw golygydd gwadd Poetry Wales a chyflwynodd raglenni ar gyfer BBC Radio Wales, Radio 3 a Radio 4.

Am yr Awdur: Peredur Glyn

Daw Peredur Glyn o Ynys Môn. Datblygodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae bellach yn ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei gyfrol ffuglen gyntaf.

Am yr Awdur: Sioned Erin Hughes

Mae Sioned Erin Hughes yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, ac yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion – llyfr a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion eleni.

Am yr Awdur: Llŷr Titus

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp.

About the Author: Sophie Buchaillard

Ganed Sophie Buchaillard ym Mharis, ac mae hi wedi teithio Ewrop, Asia, yr Unol Daleithiau a’r Affrig, cyn setlo yn Ne Cymru ddau ddegawd yn ôl.

Mae hi’n sgwennu ffuglen gyfoes sydd wedi ei ysbrydoli gan ei theithio a’i symudiadau. Cyfrannodd at An Open Door: New Travel Writing for A Precarious Century (Parthian, 2022), casgliad o ysgrifennu teithio a olygwyd gan Steven Lovatt. Mae ei straeon byrion a’i thraethodau wedi ymddangos mewn cylchgronau llenyddol amrywiol a phapurau Newydd. Dyma ei nofel gyntaf.

Am yr Awdur: Rebecca F. John

Ganed Rebecca F. John yn Llanelli. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist (Serpent’s Tail, 2017) restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Cyrhaeddodd ei stori ‘The Glove Maker’s Numbers’ restr fer Gwobr Stori Fer EFG 2015 y Sunday Times. Enillodd Wobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol 2015 a bu’n gyfranogwr Prydeinig ym mhrosiect Scritture Giovani 2016. Yn 2017, roedd hi ar restr ‘The Hay 30’ Gŵyl y Gelli. Mae ei straeon wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a’u cyhoeddi yn Clown Shoes (Parthian, 2015). Cyhoeddwyd ei nofel ffantasi i blant The Shadow Order gan Firefly Press yn 2022. Mae hi’n byw yn Abertawe.

Pumed Gainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)

Yn y Llyfr Glas y cei di’r gwirionedd am Rhiannon, am Llŷr, am Efnisien – os wyt ti’n meiddio ei agor… Mae hen rymoedd sydd tu hwnt i ddealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau atat o’r cysgodion. Fydd dy Gymru fach di fyth yr un fath eto. Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn […]

A Marginal Sea – Zoë Skoulding (Carcanet Press)

Mae A Marginal Sea wedi ei ysgrifennu o olygfa Ynys Môn, sydd ar gyrion Cymru ac mewn môr ymylol o Gefnfor yr Iwerydd – dychmygir yr ynys yma fel safle o gysylltiad archeolegol â lleoedd a hanesion eraill, lle mae gofodau breuddwyd a thechnoleg ddigidol wedi’u cydblethu â’r bob dydd. Mae A Marginal Sea yn […]

This Is Not Who We Are – Sophie Buchaillard (Seren Books)

1994, ac mae Iris a Victoria yn ben-ffrindiau. Mae Iris yn ysgrifennu am ei bywyd gyda’i theulu ym Mharis. Mae Victoria mewn gwersyll ffoaduriaid yn Goma ar ôl ffoi rhag yr hil-laddiad yn Rwanda. Un diwrnod daw llythyrau Victoria i ben, a dywedir wrth Iris ei bod wedi cael ei symud. Ugain mlynedd yn ddiweddarach […]

Fannie – Rebecca F. John (Honno Ltd)

Ail-ddychmygiad ffeministaidd o stori Fantine yn Les Miserables. Montreuil-sur-Mer, 1815. Mae bywyd yn galed i Fannie yn gweithio yn y ffatri, gydag atgofion melys yn unig am ei ‘boneddig’ a’i merch i’w chynnal. Ond pan ddatgelir ei bod yn fam ddi-briod a’i diswyddo, mae’n cael ei gorfodi i fentro mwy a mwy i ennill arian […]

Drift – Caryl Lewis (Doubleday)

Mae Nefyn wedi bod yn enigma erioed, hyd yn oed i’w brawd Joseph y mae’n byw gydag ef mewn bwthyn bach uwchben cildraeth blodeuog. Gwneuthurwr mapiau o Syria yw Hamza, sydd wedi’i garcharu mewn canolfan filwrol ychydig filltiroedd i fyny’r arfordir. Bydd storm ffyrnig yn dod â’r ddau enaid coll hyn at ei gilydd – […]

Am yr Awdur: Menna Elfyn

Mae Menna Elfyn yn fardd, yn awdur ac yn ddramodydd Cymraeg sydd wedi cyhoeddi 14 o gyfrolau o farddoniaeth eisoes yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Bondo (2017) o wasg Bloodaxe ac enillodd ei chyfrol dwyieithog flaenorol Murmur (Bloodaxe, 2012) glod gyda chymeradwyaeth y Gymdeithas Lyfrau Barddoniaeth, a’r gyfrol gyntaf erioed i gael ei dewis yn Gymraeg/Saesneg. Cyfieithiwyd ei gwaith i 20 o ieithoedd gan gynnwys Tsienieg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg a Chatalaneg. Teithiodd i bedwar ban byd gyda’i barddoniaeth: i wyliau Rhyngwladol Barddoniaeth a chynnal preswylfeydd. Enillodd nifer o wobrau megis Llyfr y Flwyddyn 1990, a gwobr nodedig Ryngwladol Anima Instraza yn Sardinia am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewrop. Fe’i gwnaed yn Fardd Plant Cymru yn 2002. Mae hi wedi cyhoeddi gyda Barddas o’r blaen yn 2018 pan gyhoeddwyd ei llên gofiant, Cennad.