Cylchu Cymru – Gareth Evans-Jones (Y Lolfa)

Prynwch ‘Cylchu Cymru’ yma
Am yr Awdur: Gareth Evans-Jones

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018, ac enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (yn 2019 a 2021). Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’i gyfrol gyntaf o straeon meicro.
Cerdded y Caeau – Rhian Parry (Y Lolfa)

Prynwch eich copi o ‘Cerdded y Caeau’ yma
Am yr Awdur: Rhian Parry

Magwyd Rhian Parry yng Nghaer ac yna ym Mhenmon. Yn dilyn gyrfa mewn addysg a’r gwasanaeth sifil hŷn, cychwynnodd ar ymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Ar ôl ennill ei doethuriaeth, defnyddiodd ei hymchwil i rannu ei gwybodaeth â’r cyhoedd. Lluniodd a hwylusodd brosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gyntaf i Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yna i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Bu’n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C ac yn gyd-gyflwynydd. Dychwelodd i Fôn yn ddiweddar.
About the Author: Paul Henry

Ganed Paul Henry yn Aberystwyth a daeth at farddoniaeth trwy gyfansoddi caneuon. Ers derbyn Gwobr E. C. Gregory mae wedi cyhoeddi wyth casgliad gyda Seren, gan gynnwys Boy Running a The Brittle Sea: New & Selected Poems. Mae ei waith wedi ei gynnwys mewn sawl blodeugerdd, a’i gyfieithu’n eang. Mae Paul wedi perfformio ei gerddi a’i ganeuon mewn gwyliau yn Ewrop, Asia ac UDA. Ef yw golygydd gwadd Poetry Wales a chyflwynodd raglenni ar gyfer BBC Radio Wales, Radio 3 a Radio 4.
Am yr Awdur: Peredur Glyn

Daw Peredur Glyn o Ynys Môn. Datblygodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae bellach yn ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei gyfrol ffuglen gyntaf.
Am yr Awdur: Sioned Erin Hughes

Mae Sioned Erin Hughes yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, ac yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion – llyfr a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion eleni.
Am yr Awdur: Llŷr Titus

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp.
About the Author: Sophie Buchaillard

Ganed Sophie Buchaillard ym Mharis, ac mae hi wedi teithio Ewrop, Asia, yr Unol Daleithiau a’r Affrig, cyn setlo yn Ne Cymru ddau ddegawd yn ôl.
Mae hi’n sgwennu ffuglen gyfoes sydd wedi ei ysbrydoli gan ei theithio a’i symudiadau. Cyfrannodd at An Open Door: New Travel Writing for A Precarious Century (Parthian, 2022), casgliad o ysgrifennu teithio a olygwyd gan Steven Lovatt. Mae ei straeon byrion a’i thraethodau wedi ymddangos mewn cylchgronau llenyddol amrywiol a phapurau Newydd. Dyma ei nofel gyntaf.
Am yr Awdur: Rebecca F. John

Ganed Rebecca F. John yn Llanelli. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist (Serpent’s Tail, 2017) restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Cyrhaeddodd ei stori ‘The Glove Maker’s Numbers’ restr fer Gwobr Stori Fer EFG 2015 y Sunday Times. Enillodd Wobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol 2015 a bu’n gyfranogwr Prydeinig ym mhrosiect Scritture Giovani 2016. Yn 2017, roedd hi ar restr ‘The Hay 30’ Gŵyl y Gelli. Mae ei straeon wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a’u cyhoeddi yn Clown Shoes (Parthian, 2015). Cyhoeddwyd ei nofel ffantasi i blant The Shadow Order gan Firefly Press yn 2022. Mae hi’n byw yn Abertawe.
Pumed Gainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)

Yn y Llyfr Glas y cei di’r gwirionedd am Rhiannon, am Llŷr, am Efnisien – os wyt ti’n meiddio ei agor… Mae hen rymoedd sydd tu hwnt i ddealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau atat o’r cysgodion. Fydd dy Gymru fach di fyth yr un fath eto. Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn […]
Rhyngom – Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Bachwch eich copi o ‘Rhyngom’ yma
Pridd – Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Prynwch eich copi o ‘Pridd’ yma
The language of bees – Rae Howells (Parthian Books)

Buy ‘The language of bees’ by Rae Howells here
A Marginal Sea – Zoë Skoulding (Carcanet Press)

Mae A Marginal Sea wedi ei ysgrifennu o olygfa Ynys Môn, sydd ar gyrion Cymru ac mewn môr ymylol o Gefnfor yr Iwerydd – dychmygir yr ynys yma fel safle o gysylltiad archeolegol â lleoedd a hanesion eraill, lle mae gofodau breuddwyd a thechnoleg ddigidol wedi’u cydblethu â’r bob dydd. Mae A Marginal Sea yn […]
This Is Not Who We Are – Sophie Buchaillard (Seren Books)

1994, ac mae Iris a Victoria yn ben-ffrindiau. Mae Iris yn ysgrifennu am ei bywyd gyda’i theulu ym Mharis. Mae Victoria mewn gwersyll ffoaduriaid yn Goma ar ôl ffoi rhag yr hil-laddiad yn Rwanda. Un diwrnod daw llythyrau Victoria i ben, a dywedir wrth Iris ei bod wedi cael ei symud. Ugain mlynedd yn ddiweddarach […]
Fannie – Rebecca F. John (Honno Ltd)

Ail-ddychmygiad ffeministaidd o stori Fantine yn Les Miserables. Montreuil-sur-Mer, 1815. Mae bywyd yn galed i Fannie yn gweithio yn y ffatri, gydag atgofion melys yn unig am ei ‘boneddig’ a’i merch i’w chynnal. Ond pan ddatgelir ei bod yn fam ddi-briod a’i diswyddo, mae’n cael ei gorfodi i fentro mwy a mwy i ennill arian […]
Drift – Caryl Lewis (Doubleday)

Mae Nefyn wedi bod yn enigma erioed, hyd yn oed i’w brawd Joseph y mae’n byw gydag ef mewn bwthyn bach uwchben cildraeth blodeuog. Gwneuthurwr mapiau o Syria yw Hamza, sydd wedi’i garcharu mewn canolfan filwrol ychydig filltiroedd i fyny’r arfordir. Bydd storm ffyrnig yn dod â’r ddau enaid coll hyn at ei gilydd – […]
Am yr Awdur: Menna Elfyn

Mae Menna Elfyn yn fardd, yn awdur ac yn ddramodydd Cymraeg sydd wedi cyhoeddi 14 o gyfrolau o farddoniaeth eisoes yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Bondo (2017) o wasg Bloodaxe ac enillodd ei chyfrol dwyieithog flaenorol Murmur (Bloodaxe, 2012) glod gyda chymeradwyaeth y Gymdeithas Lyfrau Barddoniaeth, a’r gyfrol gyntaf erioed i gael ei dewis yn Gymraeg/Saesneg. Cyfieithiwyd ei gwaith i 20 o ieithoedd gan gynnwys Tsienieg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg a Chatalaneg. Teithiodd i bedwar ban byd gyda’i barddoniaeth: i wyliau Rhyngwladol Barddoniaeth a chynnal preswylfeydd. Enillodd nifer o wobrau megis Llyfr y Flwyddyn 1990, a gwobr nodedig Ryngwladol Anima Instraza yn Sardinia am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewrop. Fe’i gwnaed yn Fardd Plant Cymru yn 2002. Mae hi wedi cyhoeddi gyda Barddas o’r blaen yn 2018 pan gyhoeddwyd ei llên gofiant, Cennad.
Y Lôn Hir Iawn – Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Prynwch ‘Y Lôn Hir Iawn’ yma
Am yr Awdur: Osian Wyn Owen

Mae Osian Wyn Owen yn fardd cydnabyddedig sy’n prysur wneud enw iddo ef ei hun. Yn 2018, ef oedd Prifardd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, ac mae hefyd wedi cipio’r dwbl – y Gadair a’r Goron – yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan yn 2018. Enillodd hefyd brif wobr farddoniaeth Eisteddfod-T yn 2020. Mae’n […]
Anwyddoldeb – Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds yw Anwyddoldeb (gair gwneud gan y bardd!). Yn y gyfrol hon, amlygir yn bennaf ei dawn i ddarlunio emosiwn mewn geiriau yn ei hysgrifennu creadigol, a hwnnw’n ysgrifennu cynnil ac awgrymog. Ond yn ogystal ag ysgrifennu dwys, mae ganddi’r ddawn unigryw hefyd i gyflwyno cerddi byrlymus, llawn egni […]
Tosturi – Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)

Prynwch ‘Tosturi’ gan Menna Elfyn yma
Meet the Tir na n-Og shortlisted Authors and Editors

Shortlisted for the 2023 Tir na n-Og Award for the best English-language book with an authentic Welsh dimension is, The Blackthorn Branch, Elen Caldecott, The Blue Book of Nebo, Manon Steffan Ros, The Drowned Woods, Emily Lloyd-Jones (Hodder) and The Mab, edited by Matt Brown and Eloise Williams (Unbound). The Mab includes stories by:
-
Sophie Anderson
-
P. G. Bell
-
Matt Brown
-
Zillah Bethell
-
Darren Chetty
-
Nicola Davies
-
Claire Fayers
-
Hanan Issa
-
Rhian Ivory
-
Alex Wharton
-
Eloise Williams
Meet the shortlisted authors and editors.
Pennod 11 – Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?
O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb.
Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gemau cyfrifiadorol sy’n dangos ddylanwad y traddodiad cyfoethog hwn. Ond dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru – neu, hwyrach, dechreuodd yn yr iaith Gymraeg (gan gofio nad ffiniau presennol Cymru oedd ffiniau’r iaith Gymraeg yn yr Oesau Canol cynnar).
A oedd Arthur yn gymeriad hanesyddol ar y dechrau? Beth yw’r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg sydd wedi goroesi? Trafodwn y cwestiynau hyn, ac wrth fynd i’r afael â gwreiddiau’r traddodiad Arthuraidd edrychwn ar rai o’n hoff drioedd, gan gynnwys ‘Tri Gwrfeichiad Ynys Prydain’, a gyfieithir gan Rachel Bromwich fel ‘The Three Powerful Swineherds of the Island of Britain’!
Pam dylen ni fesur effaith ein prosiect?

“Pan da chi’n cael monitro a gwerthuso yn iawn rydych chi’n dechrau dysgu. Pan da chi’n dechrau dysgu, rydych chi’n dechrau gwella. Pan da chi’n dechrau gwella, mae’r bobl da chi’n gweithio gyda nhw yn mynd yn hapusach, mae’r effeithiau da chi’n gallu darparu i’ch cymunedau yn tyfu, a da chi’n sefydlu sylfeini cadarn ar […]
Ffilm cerdd ‘Tu Draw’

Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia.
Llais Dyslecsia – Prosiect Creadigol Cymraeg i amlygu lleisiau plant sydd â dyslecsia
Galw am Newid | Call for Change

Yr angen i weithredu am hyfforddiant am ddim i holl athrawon Cymru a hynny’ n ddwyieithog yn lle fod yn rhaid i athrawon dalu eu hunain am hyfforddiant a hynny yn amser prin eu hunain.
Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn adnabod problemau ynghlwm â diagnosis hwyr i blant a diffyg adnoddau a hyfforddiant i addysgwyr, a hynny’n benodol yn y Gymraeg. Yn sgîl y prosiect mae’r Ganolfan yn gwahodd pobl sydd â dyslecsia; pobl sydd â phlant, partneriaid, ffrindiau neu rieni sydd â dyslecsia; a phobl sy’n gweithio gyda rhai sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia i rannu eu profiadau. Gellir rhannu profiadau trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cefnogi gwaith Canolfan Miles i wneud y llwybr tuag at ddiagnosis a chael mynediad at gefnogaeth yn haws.
5 cwestiwn i awduron Gwobrau Tir na n-Og 2023: Rhestr uwchradd

Ar restr fer uwchradd Gwobrau Tir na n-Og eleni mae, Manawydan Jones – Y Pair Dadeni gan Alun Davies, Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason, darluniau gan Efa Blosse Mason, Powell gan Manon Steffan Ros
Dyma gyfle i ddod i adnabod yr awduron.
Rhestr Fer #LLYF23 | #WBOTY23 Shortlist

Darganfyddwch pwy sydd wedi ennill #LLYF23 isod nawr!
Pennod 10 – Llais Heledd
Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy.
Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am arwyddocâd treiglad sy’n pwysleisio – ormod, ym marn Richard Wyn Jones, efallai! – fod y math yma o fanylyn gramadegol yn gallu bod yn allweddol bwysig i ystyr a naws testun llenyddol.
10 Cwestiwn efo… Sioned Erin

Prynwch eich copi o ‘Rhyngom’ gan Sioned Erin Hughes yma
10 Cwestiwn efo… Gwenllian Ellis

Prynwch ‘Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens’ gan Gwenllian Ellis yma
Cip ar Gynnwys: Sêr y Nos yn Gwenu – Casia Wiliam

Prynwch eich copi o ‘Sêr y Nos yn Gwenu’ yma!
Dod i adnabod awduron Gwobrau Tir na n-Og 2023: Rhestr gynradd

Ar restr fer gynradd Gwobrau Tir na n-Og eleni mae, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron, darluniau gan Huw Aaron, Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniau gan Valériane Leblond a Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Straeon Merched Dewr y Celtiaid – gan awduron amrywiol, lluniau gan Elin Manon.
Dyma gyfle i ddod i adnabod yr awduron.
Cywilydd Mawr America – Robert Everett a’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth

Darlith gan yr Athro Jerry Hunter.
Capel Lôn Swan, Dinbych
Nos Fercher – 21/06/23, 7pm
Cadwch eich lle trwy gysylltu â Llyfrgell Dinbych ar 01745816313 neu llyfrgell.dinbych@sirddinbych.gov.uk
Pennod 9 – Wyt ti’n cofio Macsen?
Yn y bennod hon trafodwn y chwedl sy’n sylfaen i bennill cyntaf cân boblogaidd Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ – Breuddwyd Macsen Wledig. Yn debyg i’r gân fodern honno, mae’r stori ganoloesol hon yn cynnig golwg ar hen hanes mewn modd sy’n hynod ystyrlon yn nhermau hunaniaeth Gymreig. Ar un wedd, stori serch sydd yma, a’r briodas rhwng ymherodr Rhufain, Macsen, a thywysoges Gymreig, Elen, yn ieuo’r grymoedd gwleidyddol y maen nhw’n eu cynrychioli.
Yn hytrach na’u gweld fel gormes estron, mae’r chwedl hon yn ymfalchïo yn y cysylltiad â’r Rhufeiniaid, gan ddarlunio’r briodas fel cyfrwng i ddiwyllio’r deyrnas Gymreig/Brydeinig. Ceir hefyd eglurhad syfrdanol o dreisgar am y cysylltiad ieithyddol rhwng yr iaith Gymraeg a’r Llydaweg.
Caru Darllen: Dyfan Lewis ac Elen Ifan
Dyfan Lewis ac Elen Ifan sy’n ymuno â Mari Sion i drafod llyfrau.
Ewch draw i grwydro labrinth creadigol Creiriau yma, a darllen cerddi Ystlum yma.
Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant a Phobl Ifanc, mis Ebrill.
Dyma stori ddiflewyn-ar-dafod am gariad, am golli ffordd, am gymuned ac am ail gyfle, addas i ddarllenwyr 16 oed a hyn.
Darllenwch y bennod gyntaf yma.
Sut i daclo newid hinsawdd trwy weithredu yn y gymuned

Mae Egin yn cefnogi cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – ond be’ mae hynny’n ei feddwl? Gall y term “gweithredu hinsawdd” fod yn ddigon dryslyd, ond pan ‘dych chi’n rhoi’r gair “cymuned” yna, mae’n dod yn llai clir fyth!
Dyma rai enghreifftiau o sut y gall gweithredu hinsawdd cymunedol edrych. Mae gennym ni grwpiau sy’n mynd drwy ein proses Mentora Cymheiriaid yn canolbwyntio ar rai o’r syniadau hyn, ac fe wnaethom gefnogi llawer mwy ar Adfywio Cymru. Nid yw’r rhestr yma yn cynnwys popeth, ond y syniad ydy rhoi rhai syniadau i chi o be’ gallai eich cymuned ei wneud.
Mae ein prosiectau Egin wedi dechrau!

Mae Woody’s Lodge, Penlan yn elusen sy’n cefnogi cyn-filwyr ac aelodau o’r gwasanaethau argyfwng a’u teuluoedd, gyda rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru. Ar safle Woody’s Lodge yn Sir Gaerfyrddin, mae ganddyn nhw 11 erw o goed aeddfed, gerddi a phorfa. Maent yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi eu haelodau.
Cysyllton nhw ag Egin ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle rhandiroedd, prosiect tyfu bwyd a busnes sudd afal. Gan ddefnyddio eu profiad o weithio gyda phrosiectau garddwriaethol eraill, siaradodd y Mentoriaid Cymheiriaid Cathryn a Louise am wahanol opsiynau gyda staff Woody; defnyddiau tir posibl, microhinsoddau ecolegol, cyfleoedd ariannu, a meithrin brwdfrydedd.
“Rwy’n gobeithio y bydd creu cysylltiadau trwy nodau cyffredin fel plannu coed a thyfu bwyd yn helpu i feithrin gwydnwch mewn unigolion a chymunedau,” meddai’r Mentor Cymheiriaid Cathryn Wyatt.
Mae Richard Rose, cydlynydd y grŵp newydd drefnu ei ddigwyddiad plannu coed cyntaf (i gynyddu diddordeb yn y mentrau uchod), mae ganddo doiledau compost symudol ar y gweill, a thwnnel polythen gyda gwelyau yn barod ar gyfer eginblanhigion. Y cyfan wedi cychwyn dros y misoedd diwethaf!
Pennod 8 – Dau Frawd a Thair Gormes
Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyrnasiad Lludd, mae’n rhaid iddo fanteisio ar ddoethineb ei frawd. Cewch glywed hanes y Ddraig Goch sydd ar faner Cymru a chlywed Richard Wyn Jones yn mynd i hwyl wrth ddychmygu’r Cymro Ffrengig Llefelys. Ac, wrth gwrs, cewch ddysgu beth yw ystyr ‘cyfranc’.
Pwy yw DTA Cymru?

DTA Cymru yw’r prif sefydliad sy’n rhedeg rhaglen fentora Egin. Felly, pwy ydan ni?
GISDA: Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022
Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022
Y Gymraeg mewn gwaith ieuenctid
GISDA
Prosiect Ieuenctid LHDTQ+ / Prosiect LGBTQ+ GISDA

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein Prosiect Ieuenctid LHDT+ yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDT+( Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thraws)
Rydym yn cynnal Clybiau Ieuenctid wythnosol o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Pwllheli, sy’n darparu lle diogel ac ymlaciol i’n haelodau allu mynegi eu hunain heb rwystr
Ynghyd â’n clybiau, rydym yn cynnig hyfforddiant achrededig a sesiynau ymwybyddiaeth ar faterion LHDT+ ac yn eu cyflwyno i ysgolion, colegau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc.
GISDA yn Efrog Newydd

Wythnos yma mae Klaire a Kayley, gwirfoddolwyr prosiect LHDTC+ Caernarfon, wedi teithio i Efrog Newydd i fynychu cynhadledd Ali Forney Center. Tra yno byddent yn cynrychioli GISDA yn cyflwyno’r arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc LHDTC+ mewn cymunedau gwledig
AM a Clwb LHDTC+ GISDA yn Cyhoeddi Partneriaeth | AM and GISDA’s LGBTQ+ Club’s New Partnership

Cyhoeddi Partneriaeth Strategol Platform AM a Clwb LHDTC+ GISDA