“Pan da chi’n cael monitro a gwerthuso yn iawn rydych chi’n dechrau dysgu. Pan da chi’n dechrau dysgu, rydych chi’n dechrau gwella. Pan da chi’n dechrau gwella, mae’r bobl da chi’n gweithio gyda nhw yn mynd yn hapusach, mae’r effeithiau da chi’n gallu darparu i’ch cymunedau yn tyfu, a da chi’n sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer twf a chynaliadwyedd hirdymor.
Dyna pam da ni’n monitro a gwerthuso. Mae’n dangos i ni be’ da ni angen ei weld i wneud pethau’n well – i bawb.” Mike Corcoran, Labordy Cydgynhyrchu Cymru.
Mae ein partneriaid yn Labordy Cydgynhyrchu Cymru (Co-production Network for Wales) wedi creu pecyn cymorth Monitro a Gwerthuso er mwyn i grwpiau wedi’i cefnogi gan Egin allu gwneud yn siwr bod eu prosiect hinsawdd neu gynaliadwyedd wir yn gwneud be’ mae nhw eisiau iddo wneud. Mae’r pecyn cymorth, sy’n cael ei lansio’r wythnos yma, yn galluogi grwpiau i weithio allan y ffordd symlaf a mwyaf priodol o fesur be sy’n bwysig iddynt.
Ond pam ei fod mor bwysig i fesur effaith prosiect? Mae’r byd yn llawn prosiectau sy’n teimlo’n dda neu’n edrych yn dda ar bapur – ond os ydych chi wir eisiau i’ch prosiect gael effaith, mae’n bwysig penderfynu yn union beth rydych chi’n ei fesur a sut rydych chi’n mynd i’w fesur.