Cartref digidol diwylliant Cymru.

Weave | Gwehyddu: Arts and Mental Health Conference

No Categories Found

Sut gall y celfyddydau a chreadigrwydd gefnogi llesiant meddwl yng Nghymru?

Ymunwch ag artistiaid, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisi ac academyddion i archwilio tir newydd mewn iechyd a llesiant – y celfyddydau – yng nghynhadledd celfyddydau ac iechyd gyntaf Cymru, ‘Gwehyddu’.

Cynhelir Gwehyddu ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd.

Tocynnau am ddim ond nifer cyfyngedig yn unig – cofrestrwch yma

Mae’r canlynol ymhlith y prif siaradwyr yn y digwyddiad undydd:

• Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant

• Derek Walker, Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

• Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr;

• Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Hefyd bydd cyfres o sesiynau trafod ysbrydoledig gan ymarferwyr o bob rhan o’r wlad fydd yn tynnu sylw at brosiectau iechyd a llesiant creadigol, fel y rhai sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n profi anhwylder straen wedi trawma a gweithdai creadigol Cymraeg i bobl y mae’r aflwydd hwn yn effeithio arnynt.

Yn ogystal bydd man rhwydweithio i gyfarfod a chysylltu â chydweithwyr o bob rhan o Gymru, yn ogystal â gweithgareddau creadigol dan do ac awyr agored i gefnogi eich llesiant ar y dydd.

Trefnir Gwehyddu gan Rwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.

Mae’r rhaglen lawn i’w gweld yma.

RHANNWCH