Yn 1970 symudodd cwmni SAIN o ystafell ffrynt Brian Morgan Edwards yn Heol Ninian, Caerdydd i Landwrog am ychydig flynyddoedd cyn cymryd les ar hen gantin ffatri ar Stad Ddiwydiannol Pen y Groes yn 1973. Dechreuodd y cwmni gyflogi staff am y tro cyntaf, sef clerc cyfrifion, ac un peiriannydd recordio. Datblygiad pwysig arall oedd cychwyn cyhoeddi recordiau hir, ac ehangu gwaith y cwmni tu hwnt i recordiau pop yn unig, i gynnwys pob math o ganu Cymraeg, megis corau meibion, canu gwerin, canu penillion ac ati.