Cartref digidol diwylliant Cymru.

Straeon Nos Da: Cyfri gyda Magi

Awdur: Rhiannon Lloyd Williams
Darlunydd: Sioned Medi Evans

Cliciwch yma i ddarllen ‘Cyfri gyda Magi’ gyda’r holl ddyluniadau gwreiddiol!

Ar wahân i’w thegan Miss Mogs y pengwin pert, hoff beth Magi yn y byd i gyd oedd cyfri.

Cyfri sawl moron oedd ar ei phlât.

Cyfri sawl pawen oedd ar ei chwningen o’r enw Gruff.

Cyfri sawl cwmwl oedd yn yr awyr las.

Cyfri sawl blodyn oedd yn ei gardd.

Cyfri sawl llyfr oedd ganddi ar ei silff lyfrau.

Ac yn fwy na dim, cyfri sawl dant roedd Magi wedi ei golli.

Magi oedd y gorau am gyfri allan o bawb yn yr ysgol hefyd. Doedd neb yn gallu ei churo! Ac un diwrnod, ar y ffordd i’r ysgol, roedd Magi a’i mam yn cerdded heibio’r pentref pan, yn sydyn, glywodd y ddwy sŵn aflafar.

Clop, Clop, Ww-Aa-Aa, Ww-Aa-Aa, Sssss, Sssss, Trot, Trot.

Yn nesáu at Magi a’i mam roedd anifeiliaid o bob lliw a llun.

Clop, Clop, Ww-Aa-Aa, Ww-Aa-Aa, Sssss, Sssss, Trot, Trot.

Roedd anifeiliaid y sw wedi dianc ac roeddent yn rhedeg yn wyllt trwy strydoedd y pentref. Ond yn waeth na hynny, roedd yr anifeiliaid yn anelu am yr ysgol!

Clop, Clop, Ww-Aa-Aa, Ww-Aa-Aa, Sssss, Sssss, Trot, Trot.

Dechreuodd Magi gyfri’r anifeiliaid. Ynghanol yr holl halibalŵ roedd:

10 panda,
9 rhinoseros,
8 llew,
7 crwban,
6 mwnci,
5 fflamingo,
4 pengwin,
3 jiráff,
2 eliffant,
ac 1 neidr.

Yn rhedeg ar ôl yr anifeiliaid, yn creu mwy o lanast, roedd tri cheidwad o’r sw lleol.

Chwarddodd Magi a’i mam nerth eu boliau ar y tri cheidwad yn trio eu gorau glas i hel yr holl anifeiliaid at ei gilydd.

Chwarddodd y ddwy hyd yn oed yn fwy pan welon nhw un ceidwad yn cwympo ar ei ben-ôl wrth geisio dal eliffant.

Roedd bol Magi a’i mam yn brifo o’r holl chwerthin, yn enwedig ar ôl iddynt weld ceidwad arall yn rhedeg i mewn i giât wrth drio dal mwnci.

Doedd dim gobaith gyda’r ceidwaid i ddal yr holl anifeiliaid.

O fewn dim, roedd gan Magi syniad i achub y dydd.

Magi oedd yr unig un a oedd yn cofio sawl anifail oedd wedi dianc, felly dim ond hi oedd yn gwybod sawl person a oedd eu hangen i’w dal.

Deg person i ddal y deg panda.

Naw person i ddal y naw rhinoseros.

Wyth person i ddal yr wyth llew.

Saith person i ddal y saith crwban.

Chwe pherson i ddal y chwe mwnci,

Pum person i ddal y pum fflamingo.

Pedwar person i ddal y pedwar pengwin.

Tri pherson i ddal y tri jiráff.

Dau berson i ddal y ddau eliffant.

Ac un person i ddal y neidr.

Roedd pawb wedi synnu bod Magi wedi gallu cyfri’r holl anifeiliaid.

“Cyfri pob anifail? Sut yn y byd?!” holodd un o’r dorf.

Ond yn fwy na dim, roedd pawb wedi synnu bod Magi wedi gallu cofio’r holl rifau.

“Cofio pob anifail? Sut yn y byd?!” holodd un arall o’r dorf.

Er y cwestiynau, roedd pawb yn gwrando’n astud ar Magi ac yn barod i’w helpu.

Felly, un wrth un, aeth pawb yn araf deg at yr anifeiliaid i’w dal.

Clop, Clop, Ww-Aa-Aa, Ww-Aa-Aa, Sssss, Sssss, Trot, Trot.

Trwy ddyfalbarhau, roedd pawb wedi dal eu hanifail ac yn rhoi cwtsh mawr iddynt, gan gynnwys un o ffrindiau Magi a oedd wedi dal y neidr hir a throellog.

Ond yn fwy na dim, roedd Magi wedi llwyddo i ddal un o’r pengwiniaid bach. Roedd Magi methu credu ei llygaid ei bod hi’n rhoi cwtsh i bengwin go-iawn!

Byddai Miss Mogs y tegan pengwin, a oedd yn cysgu’n braf yng ngwely Magi o hyd, wrth ei bodd yn cwrdd â phengwin go iawn!

Roedd Magi am gofio’r eiliad hon am weddill ei hoes. Ond, am nawr, roedd hi’n amser rhoi’r pengwin yn ôl yn ei gartref.

Gyda’i gilydd, cerddodd pawb yn ôl at y sw gan roi’r anifeiliaid yn ôl yn eu cartrefi heb yr un ffws na ffwdan.

Fel diolch, rhoddodd y sw degan pengwin i Magi a’r croeso iddi alw heibio’r sw unrhyw bryd i weld y pengwiniaid.

Nawr, roedd gan Magi dri hoff beth yn y byd i gyd.

Miss Mogs y pengwin,
Mr Mogs y pengwin arall, a chyfri.

RHANNWCH