Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cant a Mil o Freuddwydion

Organisation Logo

Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans, yw cyd-sylfaenwyr y wefan Cant a Mil o Freuddwydion. Mae’r wefan hon yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys amrywiaeth eang o straeon nos da Cymraeg i blant. O barot sy’n methu chwibanu, i ferch sy’n gwrthod tynnu’i chlogyn, i’r dewin mwyaf doniol yn Nheyrnas Dimlle – does dim diwedd ar y mathau gwahanol o straeon i’w darllen. Rhiannon sy’n ysgrifennu’r straeon a Sioned sy’n eu darlunio ac mae’r ddwy’n mwynhau cyd-weithio gyda’i gilydd i greu bydoedd ac anturiaethau unigryw i’w mwynhau. Felly, cyn i chi gysgu heno, dewch i ddarllen!

Cynnwys