NODIADAU O’R OLYGFA FEWNOL
Rydym wedi cael cymorth gan rai actorion ardderchog i sicrhau bod y stiwdio rithwir yn fwrlwm o syniadau, gwaith byrfyfyr ac ysbrydoliaeth, mewn fformat sydd wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr theatr a drama (ac unrhyw un arall sydd ag awydd) ymuno a chreu profiadau hollol newydd. Bydd y Cyfarwyddwr Paul Davies yn gosod her wythnosol yn seiliedig ar ran o destun neu ysgogiadau eraill, bydd perfformwyr profiadol megis Mairi Phillips, Neal McWilliams, Christopher Elson a Rebecca Smith-Williams yn recordio eu hunain yn ymateb i’r her mewn fideo byr (hyd at 2 funud), ac wedyn cewch eich cyfle chi. Rhowch gynnig arni i herio eich hun, neu anfonwch eich ymatebion atom. Byddwch wirion, byddwch ddifrifol, byddwch ddigymell, byddwch wrol, byddwch ddychmygol – byddwch bresennol! Mae’r tasgau yn cael eu rhyddhau bob wythnos yma, ar gyfryngau cymdeithasol Volcano, ac ar y wefan.
Pe dymunech, cewch anfon eich ymateb ar fideo atom YMA a byddwn yn creu detholiad â chydnabyddiaethau o’r holl ymatebion ar ddiwedd y prosiect. Fel arall, gallwch ddefnyddio gwasanaeth trosglwyddo ffeiliau am ddim megis www.wetransfer.com. Gallwch ymateb i unrhyw rai o’r tasgau ar unrhyw bryd yn ystod y prosiect.