Mae Volcano yn gwmni theatr proffesiynol wedi’i leoli yn Abertawe. Rydym yn creu gwaith sydd wastad yn chwareus, dyfeisgar, rhyfeddol ac yn gwthio’r ffiniau – waeth ar ba ffurf mae hynny.
Cyn-archfarchnad enfawr yw ein cartref yn Abertawe lle’r ydym yn creu a pherfformio ein gwaith a chynnal a chefnogi amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan artistiaid, sefydliadau a grwpiau cymunedol eraill.
Cenhadaeth Volcano yw bod yn gatalydd radical Abertawe ar gyfer diwylliant hyderus, iach a chreadigol yng Nghymru. Mae creu theatr, i ni, yn ganolog i rwydwaith o arferion a pherthnasoedd sydd wedi’u gwreiddio yn ein dinas enedigol ac sy’n ymestyn allan drwy Gymru, y DU, Ewrop, a thu hwnt, trwy deithio, cyfnewid a chydweithio.


