Y Preseli. Maen nhw’n fwy na thalpau o dir llawn gelaets a grug sy’n amgylchynu dalgylch yr Eisteddfod eleni. I mi, maen nhw’n gysur – y cysur o wybod fy mod i’n rhan o stori barhaus fy mro, sy’n gymaint yn fwy na fy hanes i fel unigolyn.
Yn yr ysgol, wrth baratoi at fy arholiadau TGAU Cymraeg, y dysgais gyntaf am ‘Preseli’ Waldo Williams. Wnaeth y gerdd ddim llawer o argraff arnaf ar y pryd. Jyst enwi mynyddoedd oedd hi, sef y rhai o’n i’n gallu’u gweld o ffenestr llawr uchaf fy ysgol uwchradd. Dim byd arbennig. Mynyddoedd ydyn nhw’n dal i fod heddiw wrth gwrs, ond mae beth maen nhw’n ei olygu i mi wedi altro. Daeth hynny yn sgil gadael y fro, i fynd i’r brifysgol yn Aberystwyth cyn symud i Gaerdydd lle’r ydw i wedi byw ers 2023.
Cefais fy magu yng nghalon pentref Crymych, gyferbyn â neuadd y pentref a’r Crymych Arms. Daw mam o Lundain yn wreiddiol, gyda’i rhieni o dras Jamaicaidd ac Indiaidd. Symudodd i’r pentref ar ôl cwrdd â fy nhad, Cymro Cymraeg o ardal Eglwyswrw, ddiwedd y 1990au mewn protest yn erbyn mwyngloddiau yn ne Cymru. Aeth mam ati i ddysgu’r Gymraeg drwy drochi’i hun ym mywyd y gymuned glos. Gyda help ‘lock‑ins’ y London House (hen dafarn leol sydd bellach wedi cau), cerddoriaeth y Super Furries, Anweledig, Llwybr Llaethog a Datblygu, llwyddodd yn ei nod o fagu ei phlant ar aelwyd Gymraeg yn ei chynefin newydd. Yn 2002, sef y tro diwethaf i’r Eisteddfod ddod i Sir Benfro, cafodd ei dyfarnu’n Ddysgwr y Flwyddyn. Mae’r clamp o dlws cennin pedr yn parhau i gael lle canolog ar ei silff lyfrau, hyd yn oed yn ei chartref newydd dros y dŵr yn Wexford, Iwerddon.
I mi fel merch 18 oed, roedd dianc o Grymych yn teimlo’n angenrheidiol. Ond yn haf 2025, fe benderfynais fynd yn ôl. Dwi ddim yn siŵr pam, ond ar ôl pum mlynedd i ffwrdd roeddwn i jyst am fynd gytre. Roedd fel petai rhyw reddf, ac awydd i ailgysylltu â’r fro, yn fy nhynnu’n ôl. Nid i Grymych yr es i chwaith, ond yn hytrach i gyffiniau pentref cyfagos arall, sef Boncath, a hynny i dŷ Mam‑gu, Porth Mawr, yng ngwaelod dyffryn anghysbell. Lle gyda gardd wych, a lle amhosib ei adael mewn Toyota Yaris pan ddaw eira neu rew ar yr hewl.
Dim ond am bedwar mis y bues i’n ôl, ond yn sicr dyma’r pedwar mis mwyaf gwerthfawr i mi eu treulio fel oedolyn hyd yma. Gwerthfawrogais yr ardal o’r newydd – ardal yr oeddwn mor gyfarwydd â hi wrth dyfu i fyny nes fy mod wedi’i chymryd yn ganiataol a hyd yn oed wedi syrffedu arni. Mi welais drefn yn fy mhalas draw trwy wydr ffenestru Porth Mawr. O’r persbectif newydd hwn roedd yna ryfeddod yn y pethau bach cyffredin sy’n rhan o fywyd bob dydd mewn ardal wledig. Teimlais rythm cymuned amaethyddol a gweld gwerth yn nefodau dyddiol cymdogion hen a newydd sydd oll yn cyfrannu yn eu ffyrdd eu hunain i wead bywyd yr ardal.
Wrth fynd yn hŷn, ac yn enwedig ers y misoedd hudolus hynny ym Mhorth Mawr, mae gwreiddiau wedi dod yn bwysicach i mi. Cyn hynny, ni theimlwn fy mod yn perthyn i fyd cerdd Waldo, na chwaith yn llwyr berthyn i Grymych. Ond yn sgil y dychweliad, er mai dim ond dros dro ydoedd, fe ailgysylltais gyda’r ardal. Dysgais am lwybr hanes ein teulu o’r mynydd i’r môr. Dysgais fod ein perthynas â bro’r Preseli yn treiddio gymaint yn ddyfnach na’m rhan fach i o’r stori. Yn y tir hwn mae’n hanesion, ein presennol a’n dyfodol ni i gyd wedi’u cydblethu’n un, ac mae’n deimlad braf sy’n angori rhywun.
Mirain Iwerydd