Green Swamp Plant
Cerflunydd yw Marek sydd wedi’i hyfforddi a’i leoli yng Nghaerdydd. Fel ‘garddwr serameg’ mae Marek yn cynhyrchu gwrthrychau trwy ryngweithio cydymdeimladol a chwareus â chlai. Rendro’r deunydd anorganig yn fyw. Cynhyrchu cerfluniau a phaentiadau wedi’u tyfu i ffurfiau amrywiol. Hunanbortreadau haniaethol o’u rhyngweithio â’r byd – creu a threulio.
Maent yn edrych ar ontoleg twf sy’n hylifol, yn addasol ac yn gysylltiol. Dal tryloywderau ein bydoedd corfforolac emosiynol.
Wedi’i wreiddio mewn traddodiad, mae Marek yn defnyddio clai a thechnegau adeiladu cyntefig yn bennaf, mewn cyfuniad â thriniaethau arwyneb traddodiadol yn ogystal ag arbrofol. Mae’r rhain yn caniatáu iddynt harneisio math o amrydedd; hanesion o’n hamaethu cyntefig cynnar o feddyliau a deunyddiau organig neu anorganig. Mae’r gwrthrychau yn pontio’r bwlch rhwng celf a dylunio, weithiau’n weithredol, weithiau’n osodwaith.
Flowing Pergola III