Yn y gweithdy yma, bydd Katy yn helpu cyfrannogwyr i archwilio’r ffyrdd gallwn roi ein bywydau ar y llwyfan heb ddilyn naratif taclus.
Trwy broses ddyfeisio, byddem yn chwarae gyda fideo, sain, testun, symudiad ac ailadrodd – yn cyfuno’r cyfan i rhywbeth sydd yn gwneud synnwyr yn ei ffordd od ei hun. Rydym yn blaenoriaethu teimladau dros neges, beth sydd yn real dros beth sydd yn daclus.
Meddai Katy, “Rydw i eisiau creu gwaith sy’n teimlo’n amrwd – sydd yn dangos blerwch, diflastod, daioni – popeth. Rydew i eisiau i gynulleidfaoedd ddarganfod eu hystyr eu hunain yn y gwaith. Sut allwn ni greu gwaith sydd ddim yn egluro bywyd, ond yn galluogi i ni ei deimlo?”
Bydd yna wahoddiad i chi ddod a’ch sain, ffilm a thestun i’r gweithdy o flaen llaw er mwyn i chi arbrofi. Bydd manylion yn cael eu hanfon i chi pan rydych yn archebu’ch lle ar ein gwefan.
PWY: Pobl oed 18+
PRYD: Dydd Sul, Mehefin 29
AMSER: 10:30 – 2:30
BLE: St.Mellons Hub, Caerdydd. CF3 0EF.
Bydd angen talu blaendal o £5 er mwyn archebu’ch lle, bydd yn cael ei dalu’n ôl i chi pan rydych yn mynychu’r gweithdy. Archebwch eich lle drwy Eventbrite.
I drafod unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch gyda chantal@commonwealththeatre.co.uk