Cartref digidol diwylliant Cymru.

Common Wealth

Organisation Logo

Mae Common Wealth yn creu theatr sydd yn benodol i leoliad, yn cwmpasu sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol a mwy. Mae ein gwaith yn weledol ac yn gyfoes – yn digwydd yn y presennol, yn y fan hyn. Rydym yn creu gwaith sydd yn berthnasol ac yn trafod pryderon ein hamser ni.

Rydym yn chwilio am leoliadau i leoli ein gwaith sydd yng nghalon y gymuned: cartref, campfa bocsio, llefydd mae pobl a fyddai ddim yn arfer yn i’r theatr yn mynd yn lle. Rydym yn anelu i greu theatr ar gyfer pobl sydd ddim yn credu ei fod ar eu cyfer nhw fel arfer – rydym wedi diflasu gyda theatr ar gyfer pobl dosbarth canol a’r rheiny allith fforddio mynd – rydym yn angerddol am theatr fel math o gelf, a’r pŵer mae’n meddu arno. Rydym yn credu y dylai berthyn i bawb – fel cynulleidfa, cyfranogwyr a chymeriadau.

Dechreuodd Common Wealth weithio gyda’n gilydd yn 2008 mewn modd cwbl ‘DIY’ – heb unrhyw arian, dim ond mynediad at adeiladau anferth a rhwydwaith o gyd-weithwyr gwych. Ymgeisiwn ar unrhyw brosiect i greu rhywbeth sydd yn cysylltu gyda chynulleidfaoedd ac yn gwthio beth allith theatr fod. Nid oes gennym o reidrwydd ddiddordeb mewn adrodd stori mewn modd traddodiadol, ond yn hytrach creu profiadau cofiadwy ac annisgwyl.

Mae’n syniadau wedi’u gwreiddio mewn gwleidyddiaeth sosialaidd, cefndiroedd dosbarth gweithiol, diddordeb brwd mewn cerddoriaeth/theatr/celf/dylunio, y bobl rydym yn eu cyfarfod ac mewn uchelgais delfrydyddol o newid pethau. Rydym yn gweld ein dramâu fel ymgyrchoedd, fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd ac o wneud i newid teimlo fel rhywbeth posibl.

Mae Common Wealth wedi’u lleoli yn Bradford a Chaerdydd, ac yn creu gwaith llwyddiannus ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Rydym yn rhan o bortffolio cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn dderbynyddion ar hyn o bryd o’r Breakthrough Fund gan The Peter Hamlyn Foundation.

Cynnwys