Dyma fo’n sôn am sut y gwnaeth mynychu Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi ei arwain at fod yn gyfarwyddwr yn Ynni Llŷn, ac am y rhaglenni y maent wedi bod yn gweithio arnynt eleni.
Grwpiau ynni yn y Cynulliadau Hinsawdd
Tua tair blynedd yn ôl derbyniais lythyr yn gofyn a hoffwn ymuno â mudiad o’r enw GwyrddNi. Gofynnodd y llythyr a oedd gennyf ddiddordeb yn yr amgylchedd ac a fyddwn yn fodlon mynychu cynulliad gydag aelodau eraill o’r gymuned. Roedd yn swnio’n ddiddorol, felly cofrestrais.
Ffurfiodd nifer ohonom is-grŵp ynni a thrafnidiaeth. Cyfarfu’r is-grŵp hwn ar sawl achlysur gwahanol a chynhyrchwyd syniadau i’w cynnwys yng nghynllun gweithredu GwyrddNi.
Yn ystod y cynulliad olaf cawsom ein calonogi i gymryd camau cadarnhaol felly cyfarfu ein his-grŵp eto a phenderfynwyd defnyddio Ynni Llŷn fel cyfrwng i gyflwyno ein syniadau gorau.
Ymuno â bwrdd Ynni Llŷn
Bryd hynny roedd Ynni Llŷn wedi’i restru gyda Thŷ’r Cwmnïau ac roedd ganddo gyfrif banc ond roedd yn gymharol segur. Cyn y pandemig, cafodd Ynni Llŷn lwyddiannau sylweddol, gan osod yr arae solar gymunedol gyntaf yng Nghymru yn Sarn Mellteyrn a chomisiynu sawl adroddiad ar gynhyrchu a throsglwyddo ynni ar Ben Llŷn. Fel llawer o gwmnïau, cafodd y pandemig effaith negyddol ar Ynni Llŷn ac felly roedd yn barod am syniadau a brwdfrydedd ffres.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 24 Mehefin 2023 pan enwebwyd a chytunwyd ar y bwrdd cyfarwyddwyr. Roedd arian eisoes yn cael ei geisio drwy raglen ARFOR2 a weinyddir gan Gyngor Gwynedd a thrafodwyd opsiynau ariannu eraill hefyd. Mewn gwirionedd, dyma ddechrau ein prosiectau Ôl-osod i Bawb a Gwres a Lles.
Roedd 6 o bob 7 o aelodau’r bwrdd bellach yn bobl a oedd wedi cyfarfod drwy’r Cynulliadau GwyrddNi ac wedi dewis Ynni fel eu prif ffocws. Fe wnaethon ni hefyd greu grŵp WhatsApp i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i “aelodau” – dyma unrhyw un oedd wedi bod yn rhan o’r cynulliadau oedd eisiau dysgu beth oedden ni’n ei wneud.
Ôl-osod i Bawb a phrosiectau eraill
Roedd yn bwysig i ni ein bod yn creu swyddi da i bobl leol, Gymraeg eu hiaith, a dyna’n union beth yw pwrpas y grant ARFOR2. Yn ogystal â hynny, cymerasom fenthyciad gan Fanc Cymunedol Robert Owen er mwyn inni allu dechrau recriwtio pobl ar unwaith.
Fel cyfarwyddwyr, nid ydym yn tynnu unrhyw gyflog o gwbl; penderfynasom gyda’n gilydd y bydd unrhyw elw a wnawn yn mynd at gyflogi pobl leol neu tuag at brosiectau sydd o fudd i’r gymuned.
Nod Ôl-osod i Bawb yw creu swyddi medrus lleol i insiwleiddio cartrefi, gwella systemau gwresogi, cynhyrchu trydan ar y safle a darparu dyfodol di-garbon a sero net i Ben Llŷn. Mae ôl-osod yn golygu uwchraddio adeiladau presennol i fod yn fwy ynni-effeithlon.
Rydym wedi gallu ariannu hyfforddiant ar gyfer ein haelodau staff, sydd i gyd yn hanu o ardaloedd Mynytho a Botwnnog, i ddod yn Gynghorwyr Ynni cymwys ac, i un ohonynt, yn Aseswr Ôl-osod.
Mae hyn yn bwysig oherwydd yn aml mae’r bobl sydd â’r cymwysterau hyn yn gyrru’r holl ffordd o Gaerdydd neu Lundain er mwyn gwneud asesiad ar dŷ. Fe feddylion ni – pam na ddylai pobl leol gael y cyfle i ddysgu sgiliau a fydd yn dod yn bwysicach fyth yn y dyfodol? Rydym hefyd yn defnyddio masnachwyr lleol i osod y mesurau arbed ynni pryd bynnag y bo modd.
Ers hynny rydym wedi dod yn bartneriaid ar brosiectau eraill: Prosiect Sero Net Gwynedd, Gwres a Lles, Cartrefi Clyd a Cyd Ynni (mwy o wybodaeth yma). Mae’r prosiectau hyn yn ategu ei gilydd ac yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu’r gymuned leol gyda phwysau costau byw, tlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Mae Gwres a Lles a Prosiect Sero Net Gwynedd yn cynnig cyngor ynni ac ymweliadau cartref am ddim i helpu pobl gyda phethau fel talu biliau ynni, hawlio budd-daliadau a gwneud gwelliannau i’w cartrefi. Mae Ôl-osod i Bawb yn wasanaeth lle gall Ynni Llŷn ddarparu asesiadau ynni cartref, cyngor ôl-osod a rheoli prosiectau contractwyr.
Gan ein bod yn gwmni nid-er-elw rydym yn gallu cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned. Credwn mai ni yw un o’r unig gwmni ôl-osod dielw sy’n gweithredu yng Nghymru, yn y DU o bosibl.
Beth rydym wedi’i ddysgu… a beth sydd nesaf?
Nid yw cychwyn (neu ail-syllu) cwmni yn hawdd! Fel bwrdd, rydym wedi gorfod wynebu pob math o heriau. Mae angen llawer iawn o egni ac ymroddiad, yn enwedig pan fo pobl yn gweithio’n wirfoddol. Nid yw’n hawdd cael cyllid – ond dim ond y cam cyntaf ydy hynny! Mae yna lawer o rwystrau i’w goresgyn ar ôl derbyn yr arian. Rydym yn ffodus iawn i gael tîm gwych o gyfarwyddwyr sydd wedi helpu i lywio’r cwmni i’r pwynt hwn. Mae hefyd wedi bod yn galonogol iawn gweld ein staff yn datblygu yn eu rolau ac mae gennym raglen lawn o hyfforddiant/datblygiad personol ar gyfer ein holl weithwyr.
Nawr ein bod wedi recriwtio tîm llawn a’r don gyntaf o hyfforddiant wedi’i darparu, rydym mewn sefyllfa i ddechrau ar y gwaith o osod mesurau arbed ynni i gartrefi ym Mhen Llŷn. Rydym wedi bod yn darparu cyngor ynni ers peth amser bellach ond rydym yn anelu at gryfhau ein rhwydweithiau er mwyn helpu llawer mwy o drigolion. Dyna pam rydyn ni yma, dyma ein rheswm dros fod: rydyn ni eisiau helpu cymaint o bobl yn ein cymuned â phosib.
Mae Ynni Llŷn hefyd yn bartner cyflawni ar gyfer GwyrddNi ym Mhen Llŷn, felly rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Dafydd i gefnogi ei waith yn dod â’r syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu yn fyw. Rydym yn ffodus ein bod wedi recriwtio pobl sy’n frwd dros ymgysylltu ag ysgolion lleol a darparu addysg am ynni, felly rydym yn gobeithio y bydd ein tîm yn gallu cefnogi gwaith GwyrddNi yn fwy wrth symud ymlaen.
Gwelwch fwy ar https://www.ynnillyn.cymru/ neu dilynwch Ynni Llŷn ar Facebook neu Instagram!