Comisiynwyd Casia Wiliam i ysgrifennu’r gerdd hon ynghyd ag adnodd dysgu dwyieithog i godi ymwybyddiaeth o Newid Hinsawdd fel rhan o’i rôl Bardd Plant Cymru. Datblygwyd y gerdd, ‘Help’ fel rhan o #AwrDaear, a ddigwyddodd ar nos Sadwrn 24 Mawrth 2018 am 8.30pm. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ac effaith andwyol ein ôl troed carbon ar yr amgylchedd ac ar gymunedau ym mhob cwr o’r byd.
Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn sicrhau fod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i arbrofi â geiriau. Drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae’r cynllun yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl. Dyma fenter sy’n annog creadigrwydd, sgiliau chyfathrebu a hunan-fynegiant ymysg plant Cymru.
Casia Wiliam oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019. Y Bardd Plant cyfredol yw Gruffudd Owen. Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun YMA.