Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyfeillio a gynhelir ledled y DU a ddyfeisiwyd gan The Reading Agency ac a ariannir gan Gronfa’r Loteri Fawr. caiff y cynllun ei gydlynu gan sefydliadau partner yn y gwledydd amrywiol, ac rydym yn falch o arwain gweithgaredd Ffrindiau Darllen yng Nghymru.
Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, cymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol, mae’r prosiect yn bwriadu galluogi, cyfranogi ac ymgysylltu pobl hŷn a phobl sydd â dementia a Gofalwyr trwy sbarduno sgyrsiau wrth ddarllen. Caiff Reading Friends ei gyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn, a’i gyflwyno gan wirfoddolwyr.