Cartref digidol diwylliant Cymru.

Elisha Hughes

Mae fy ymarfer yn ymchwilio i le sy’n newid yn gyson, a’r hyn sy’n weddill. Ers yn ifanc, rwyf wedi defnyddio ffotograffiaeth fel arf i ddogfennu a dal popeth o’m cwmpas. Nid yn unig i amgyffred rhywbeth a allai ddiflannu, ond i ddal rhywbeth o safbwynt gwahanol, efallai’r pethau sy’n ymddangos yn ddibwys.

Mae defnyddio deunyddiau fel ffotograffiaeth, darlunio, gosodwaith yn fy ngalluogi i ofyn cwestiynau, creu sgyrsiau a bod yn chwilfrydig. Rwyf am i’m gwaith fod yn lle i fyfyrio, yn lle rwy’n ei ddal ac yn lle sy’n darganfod.

RHANNWCH