Bydd Rakie Ayola yn darllen o Dat’s Love, straeon byrion craff a bywiog Leonora Brito am fywyd, cariad a theulu o safbwynt menywod Du a Hil Cymysg o Ddociau Caerdydd a thu hwnt.
Wedi’u gwreiddio yn niwylliant unigryw Butetown Caerdydd, mae cymeriadau
annibynnol eu meddwl a’u sgwrs Brito yn dod â phersbectif unigryw i bynciau mor amrywiol â bod yn fam, diweithdra, clybiau nos, marwolaeth, a Winston Churchill.
Yn awdur Cymreig eithriadol, mae gwaith Brito yn aml yn cael ei anghofio. Ac eto mae ei straeon bythol, sy’n llawn hiwmor ysgafn a deialog finiog, yn dal i fod yn berthnasol heddiw wrth iddynt archwilio hil, hunaniaeth, a bywydau bob dydd menywod dosbarth gweithiol a’u cymunedau.
Wedi’u cipio’n fyw dros dair noson ac ar gael i’w profi mewn 9 pennod ar wahân, bydd y darlleniadau agos-atoch hyn yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan Imran Khan a darluniadau gan yr artist o Butetown, Kyle Legall, a fydd hefyd wedi’u cipio’n fyw o’i stiwdio yn y bae.
Wedi’i gyfarwyddo gan Lorne Campbell
Delwedd: Darluniadau byw gan Kyle Legall
Gwyliwch YMA