Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Dal i Fod’, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

Llenyddiaeth

‘Myfyrdodus, dwys, gwbl unigryw ei chrefft’ yw geiriau Bryan Martin Davies am y bardd Elin ap Hywel. Mae Elin yn fardd rhyngwladol ac mae ei cherddi wedi eu cyfieithu i sawl iaith ar hyd y blynyddoedd. Mae bron i ddeugain mlynedd ers iddi gyhoeddi ei chasgliad byr cyntaf o farddoniaeth yn y Gymraeg, Pethau Brau, yn 1982 (Y Lolfa) yn y gyfres Beirdd Answyddogol. Ers hynny, mae Elin wedi ymrwymo i farddoni ar bynciau amrywiol – y difrifol a’r gobeithiol, yr heulwen a’r tywyllwch. Dengys cynnyrch y gyfrol hon bod ei gallu i drin geiriau ac i gyfansoddi barddoniaeth rymus yn un arbennig iawn, a hynny er gwaethaf i’r cyflwr dementia ei heffeithio yn y blynyddoedd diwethaf. Y mesur rhydd yw cyfrwng cerddi’r gyfrol ac mae’r arddull yn gignoeth a’r geiriau’n bwerus ond hefyd yn delynegol: mae gonestrwydd yn ei llais a’r llais hwnnw’n sefyll ar ei ben ei hun fel bardd cyfoethog a didwyll iawn.

Mae ELIN AP HYWEL yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth. Yn wreiddiol o Fae Colwyn, treuliodd ei phlentyndod yn Llundain cyn symud i Wrecsam a chael ei haddysgu yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi ganddi rai blynyddoedd yn nôl, Pethau Brau, gan Y Lolfa (1982) ynghyd â chyfrol o gerddi dwyieithog ar y cyd â Grahame Davies, sef Ffiniau/Borders (Gomer, 2002) ac mae rhai o’i cherddi hefyd wedi ymddangos mewn cylchgronau a blodeugerddi dros y blynyddoedd. Mae hi hefyd wedi golygu dau gasgliad o straeon byrion yn Saesneg, sef Luminous and Forlorn (Honno, 1994), a Power (Honno, 1998). Yn ddiweddar, mae Elin wedi siarad yn agored iawn am ei phrofiad o fyw gyda dementia.

RHANNWCH