Croeso i “zine” cyntaf Galeri. Dyma gylchgrawn digidol newydd sydd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau, erthyglau a tasgau diddorol (gobeithio) i chi.
Wrth i sefyllfa Covid wella fesul wythnos, rydym yn aros am arweinad gan Lywodraeth Cymru i gael ail-agor yr adeilad ac ein gweithgareddau i’r cyhoedd. Dyma felly gylchgrawn sydd yn son am ychydig o’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnodau clo dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’n debyg y byddwn yn defnyddio cylchgrawn digidol o hyn ymlaen i hyrwyddo ein digwyddiadau/prosiectau yn y dyfodol yn ogystal a son am ddigwyddiadau eraill yn yr ardal wrth i ni ail-agor ac ail-ddechrau rhoi digwyddiadau ymlaen.
I’n helpu, byddai’n ddefnyddiol cael eich adborth/sylwadau ar
Y math o gynnwys hoffech weld
Fformat y cylchgrawn
Pa mor rheolaidd hoffech gael cylchgrawn digidol (misol / pob 2 fis / chwarterol ayyb)
Gyfrannwyr i ychwanegu cynnwys i’r cylchgrawn
Gellir rhannu eich barn a sylwadau drwy anfon neges breifat ar Facebook, Twitter, Instagram neu ebostio zine@galericaernarfon.com
Yn y cyfamser – gobeithio y gwnewch fwynhau y rhifyn cyntaf!