Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyflwyniad gyda’r Athro E Wyn James

Cerddoriaeth

Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.

Tá Pererin Wyf, (a chiallaíonn Is Oilithreach Mé i nGaeilge) ina togra rannpháirtíoch ealaíne arb aidhm leis ceangal a dhéanamh idir diaspóraí na Breataine Bige agus na hÉireann le béim speisialta ar Pheambróg agus Loch Garman agus ar thuras nua trasteorann a fhorbairt d’fhonn na háiteanna seo a Nascadh. Is as iomann de chuid an naoiú haois déag leis an scríbhneoir bisiúil Breatnach William Williams Pantycelyn a thagann ainm agus inspioráid an togra.

Cychwynnodd prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai ar-lein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân. Cafodd y gweithdai ei recordio ac yn yr wythnosau nesaf bydd Celfyddydau Span yn rhannu’r sesiynau trwy ei sianel ar blatfform AM Cymru.

Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim #1:
Cyflwyniad gyda’r Athro E Wyn James

Cychwynnodd y prosiect ar y 29ain o Fedi gyda chyflwyniad i weithredoedd y prosiect a sgwrs gyda’r Athro hanes E Wyn James oedd yn sôn am gyd-destun fywyd a gwaith William Williams Pantycelyn, awdur yr emyn sydd wedi ysbrydoli’r prosiect, Pererin Wyf. 

Comisiynwyd Pererin Wyf gan y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir y gwaith gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

RHANNWCH