Mae Cyfandir o Gofio yn gerdd fideo gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru i gofio y rhai a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar hyd cyfandir Ewrop. Y mae Ifor ap Glyn wedi plethu cerddi gan Gerrit Engelke o’r Almaen, Albert-Paul Granier o Ffrainc ac August van Cauwelaert o Fflandrys i ddarlunio galar cyfandir Ewrop a gwastraff a thrasiedi rhyfel.
Comisiynwyd y gerdd fideo hon gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o’n digwyddiad Estyn yn Ddistaw yn Chwefror 2019, gyda nawdd gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Noder os gwelwch yn dda: Mae’r gerdd-fideo hon yn cynnwys rhai delweddau sensitif.