Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ail Symudiad a’u dylanwad

CerddoriaethLlenyddiaeth
Black and white photo of Ail Symudiad

Bydd sioe gerdd fydd yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod eleni yn deyrnged i fand o Aberteifi a wnaeth gyfraniad allweddol i fyd roc Cymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.

Gellid dadlau mai Ail Symudiad oedd grŵp mwyaf poblogaidd, llwyddiannus a dylanwadol y Sîn Roc Gymraeg yn ystod y 1980au cynnar. Ar ôl cynhyrfu cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda’u perfformiadau egnïol a rhyddhau ribidirês o senglau, yn 1981 derbyniodd y grŵp deitl Prif Grŵp Roc yn noson wobrau’r cylchgrawn Sgrech. Pan ryddhawyd eu record hir gyntaf, Sefyll ar y Sgwâr, yn Nhachwedd 1982, derbyniodd ganmoliaeth uchel gan adolygwyr a gwrandawyr fel ei gilydd, gyda Niclas Parry yn datgan yn Sgrech ei fod wedi cael ‘mwynhad aruthrol o’r hyn oedd tu mewn i’r clawr lliwgar’.

Roedd yn ymddangos fel pe bai Ail Symudiad ym mhobman bryd hynny. Roedd caneuon hwyliog, cryno ac uniongyrchol eu neges megis ‘Ad‑drefnu’ a ‘Twristiaid yn y Dre’ i’w clywed yn gyson ar Radio Cymru (yn arbennig ar y rhaglen bop Sosban, lle’r oedd dau o’u hedmygwyr – Richard Rees ac Eurof Williams – yn cyflwyno a chynhyrchu). Ac roedd Richard a Wyn Jones – y ddau frawd a sefydlodd y band, ac yna label Fflach yn 1981 – yn wynebau cyfarwydd iawn i ddilynwyr y Sîn Roc.

Ar ddechrau 1983, roedd y band ar frig y don. Fodd bynnag, erbyn diwedd y flwyddyn honno daeth y datganiad annisgwyl eu bod am roi’r gorau i berfformio’n fyw, ac er iddynt barhau i ryddhau recordiau yn y 1980au – ynghyd ac ambell albwm yn ystod dau ddegawd cyntaf y ganrif bresennol, megis Rifiera Gymreig (2011) a Y Man Hudol (2018) – ni lwyddwyd i ail‑greu’r egni a’r cynnwrf a berthynai i’r blynyddoedd cynnar. Fel y llwynog yn soned R. Williams Parry, digwyddodd a darfu Ail Symudiad ‘megis seren wib’.

Daeth tro arall ar fyd yn 2021 pan fu farw Wyn yn dilyn cyfnod o waeledd byr ac yna Richard yn hynod o annisgwyl ychydig wythnosau’n ddiweddarach. Roedd y pandemig a’i gyfnod clo wedi gosod rhyw wedd afreal, rhywsut, dros yr holl bennod drist honno, ac roedd hi’n anodd credu bod diwedd cyfnod yn y byd roc Cymraeg wedi dod mor ddisymwth.

Nid seren unnos oedd Ail Symudiad, fodd bynnag, ac o’r diwedd daw cydnabyddiaeth haeddiannol i’w cyfraniad pwysig yn Eisteddfod y Garreg Las eleni, gyda llwyfannu sioe gerdd newydd o’r enw Sefyll ar y Sgwâr, sy’n cynnwys nifer o’u caneuon mwyaf poblogaidd.

I ddeall poblogrwydd ac arwyddocâd Ail Symudiad, rhaid mynd yn ôl at wreiddiau’r band yn ardal Aberteifi ar ddiwedd y 1970au. Ar ôl derbyn yr her i ffurfio band yn dilyn perfformiad Y Trwynau Coch yn Neuadd Blaendyffryn yn 1978, dyma berfformio am y tro cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979, gyda Richard fel y prif leisydd a’r gitarydd, Wyn ar y gitâr fas a Gareth Lewis ar y drymiau.

Nid perfformio yng nghanol haid o ddefaid a gwartheg oedd yr unig elfen annodweddiadol a berthynai i Ail Symudiad. Roedd eu delwedd cŵl, slic a soffistigedig yn agosach i’r Mods na’r Rocyrs – ac mor annhebyg i’r ffermwyr a gyfarfyddai’n wythnosol yn y mart ag y gallai rhywun ei ddychmygu! Adlewyrchwyd hyn yn yr arddull gerddorol, hefyd, oedd yn gyfuniad o sain ôl‑byncaidd cynhyrfus The Jam a’r Trwynau Coch ynghyd â bandiau’r ‘don newydd’ megis yr Undertones, y Buzzcocks ac Elvis Costello. Câi’r ddelwedd ei hategu ymhellach ar gloriau eu recordiau, yn arbennig clawr Sefyll ar y Sgwâr (a luniwyd gan Malcolm Gwyon), gyda’i gyfeiriadaeth at arddull De Stijl yr arlunydd o’r Iseldiroedd, Piet Mondrian.

Ond er yr ymarweddiad slic, nid oedd y brodyr Jones yn ymhyfrydu yn yr holl gyhoeddusrwydd. Roedden nhw’n anghyffyrddus efo’r eilunaddoliaeth a gysylltid â’r ddelwedd roc a rôl. Roedd prancio o gwmpas llwyfannau Cymru yn gwbl groes i natur ddidwyll a diymhongar y ddau. I unrhyw un a ddaeth i’w nabod, roedd yna anhunanoldeb arbennig a gonestrwydd yn perthyn i Richard a Wyn; ac efallai fod hynny – ynghyd â’u brwdfrydedd wrth hyrwyddo artistiaid ar label Fflach (a’r label gwerin Fflach Tradd) – yn rheswm arall dros gefnu ar y freuddwyd roc a rôl.

Nid oedd cychwyn band yn ardal Aberteifi – lle nad oedd yna lawer o draddodiad o ganu roc Cymraeg – heb ei rwystrau chwaith. Ar ddechrau eu gyrfa, tyrrai cynulleidfaoedd lleol i’w gweld o ran chwilfrydedd yn fwy na dim, ond yn dilyn y sylw cenedlaethol a ddaeth yn sgil llwyddiant caneuon megis ‘Garej Paradwys’ ac ‘Edrych Trwy y Camerâu’, datblygodd rhwydwaith o fandiau o amgylch Ail Symudiad i gynrychioli’r hyn y cyfeiriodd Sarah Hill ato yn ei llyfr ‘Blewytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music fel y ‘Teifi scene’.

O ran ei arwahanrwydd a’i amrywioldeb, ymgorfforai’r sîn yma bopeth oedd wrth wraidd Ail Symudiad – goddefgarwch, cyfeillgarwch a’r awydd i fod mor gynhwysol â phosibl. Roedd lle i bopeth, o sain electronig arbrofol Malcolm Neon a Meibion Mwnt i roc trwm y Diawled, gyda hiwmor tafod‑yn‑y‑boch Rocyn yn bodoli rhywle rhwng y ddau begwn. Tebyg na fyddai cenedlaethau o grwpiau a ddaeth yn sgil Ail Symudiad – megis Jess, Dom a Gorky’s Zygotic Mynci – wedi dilyn y trywydd a wnaethant oni bai am ddylanwad y grŵp o Aberteifi.

Beth am ganeuon Ail Symudiad felly? Roedd gan Richard a Wyn ddawn naturiol i lunio storïau bychain mewn sain oedd yn cydio o’r gwrandawiad cyntaf. Doedd dim gormodiaith nac ymhongarwch ar gyfyl eu geirfa gerddorol. Fel y dywedodd Siôn Tecwyn yn Sgrech, doedd yna byth ‘wastraff’ yn perthyn i’r gerddoriaeth, ‘gyda rhyw ddarnau offerynnol hir i golli diddordeb cynulleidfa’. Cyfleu’r neges yn y modd mwyaf uniongyrchol a thrawiadol bosib oedd yn bwysig iddynt.

Mae ‘Geiriau’ yn enghraifft amlwg o hyn. Gyda’i halaw fachog a’i meistrolaeth o’r fformiwla bop dau‑funud‑a‑hanner, daeth yn un o’r caneuon mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, o dan ei hwyneb hwyliog, mae ‘Geiriau’ yn ymdrin yn gynnil gyda’r modd y defnyddir iaith i gymylu a drysu ystyr, i gamarwain a thwyllo’r gwrandawr. Drwy gyfosod cerddoriaeth a geiriau fel hyn, mae’r gân yn ymgorffori’r neges i’r dim. Mae caneuon eraill megis ‘Analysis ar Unwaith’ a ‘Beth Yw Hyn?’ yn archwilio themâu tebyg, gyda sain y band wedi’i gyfoethogi ar brydiau gan Robin Davies ar y gitâr, ynghyd â phresenoldeb y cerddor a’r cynhyrchydd amryddawn Richard Morris ar nifer o’r recordiau.

Nid penseiri’r fformat pop tri munud yn unig oedd Ail Symudiad, fodd bynnag. Mae un o’u caneuon mwyaf cofiadwy, yr anthemig ‘Cymry am Ddiwrnod’ (naw munud), yn profi eu bod nhw’n gallu eu mynegi eu hunain ar draws cynfas llawer ehangach pan oedd y testun yn cynnig hynny.

Er iddynt aros o fewn eu milltir sgwâr drwy gydol eu gyrfa, gan sefydlu stiwdio Fflach yn agos i ganol tref Aberteifi, fe ledaenodd cerddoriaeth a gweledigaeth Ail Symudiad a Recordiau Fflach yn bell y tu hwnt i’w cynefin a’r perfformiad cyntaf hwnnw yn y mart. Diolch i’w stôr gyfoethog o ganeuon, mae’r band yn parhau i ymgysylltu â chynulleidfa canu cyfoes Cymraeg heddiw ac mae’n sicr y byddant yn dal i ysbrydoli cerddorion i’r dyfodol.

Pwyll ap Siôn

RHANNWCH