Dafydd Reeves yw pedwerydd artist 24:24, prosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru. Cafodd ei ysbrydoli i gydansoddi egin cân, ac yna i ymateb i ddelwedd Melissa Rodrigues o Cleopatra ar ffurf cerdd. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma
Gweledigaeth
(egin cân)
Yn ôl yn yr oes a fu
Mi oedd yna obaith i ni,
Oes lle roedd Awen yn llosgi yn daer
A rhamant oedd y gair.
Nawr yn yr oes a ddêl
Eto mi flaswn y mêl;
Wele mae chwildro ar orwel y ffin
A dechrau newydd i ddyn.