The digital home of Welsh culture.

24:24/4 | Gweledigaeth – Dafydd Reeves

Literature

Gweledigaeth
(mewn ymateb i ddelwedd Melissa Rodrigues o Cleopatra)

Yn y gorffennol yr oedden ni’n gaeth
I ‘mond un weledigaeth.

Yng ngwlad yr hud a’r heiroglyphig
Oedd yn fud ym myd y mythig
Nes i graig Rosetta ildio’i
Chyfrinachau lu:

Yr oedd Ffaro-wraig go urddasol
Sydd yn haeddu sylw barddol:
Hi oedd yn ồl chwedloniaeth
Ynys Fadog yn Frenhines ddu.

Gad i belydr o weledigaeth
Lyfu’r ymennydd yn lan.

Mae Dafydd Reeves (@daidafod ar instagram a twitter) yn ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth a thraethodau ac yn cyfansoddi ei ganeuon ei hun yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n byw ger Aberhonddu lle cafodd ei eni a’i fagu.

Dafydd Reeves yw pedwerydd artist 24:24, prosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru. Cafodd ei ysbrydoli i gydansoddi egin cân, ac yna i ymateb i ddelwedd Melissa Rodrigues o Cleopatra ar ffurf cerdd. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma

SHARE