Cartref digidol diwylliant Cymru.

Meet the Dramaturg – Jen Lunn

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Meet the Director – Izzy Rabey

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Meet the Movement Director – Osian Meilir

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Cwrdd â’r Awdur – Bethan Marlow

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Cefn Llwyfan gyda Angharad Lee: Cyfarwyddwr Llawrydd

Os gen ti ddiddordeb mewn theatr ac yn chwilfrydig ynglyn a gyrfa ym myd Cefn Llwyfan y theatr?

Mae Angharad yn Gyfarwyddwr Llawrydd profiadol sydd wedi gweithio ar lu o gynyrchiadau theatr amrywiol. Ty’d i adnabod rôl Angharad fel cyfarwyddwr yn y theatr, sut mae hi wedi cyrraedd ble mae hi, ac ei chyngor hi i bobl ifanc heddiw wrth fentro Gefn Llwyfan!

Feral Monster | BSL trailer / trelar

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Tocynnau ar gael yma.

Meta vs Life teaser trailer

Fuoch chi erioed am gysylltu â’r meirw? Neu a wnaethoch chi erioed feddwl sut beth ydy bywyd ar ôl marwolaeth? Wel dyma’ch cyfle! 

Mae Meta vs Life yn brofiad hybrid unigryw y gellir ei chwarae ar-lein neu yn y cnawd. Yn rhannol mae’n berfformiad trochi, yn rhannol ystafell ddianc, dirgelwch llofruddio lle’r ydych chi, y gynulleidfa’n chwarae rhan fel rhai sy’n chwilio am ysbrydion (yn y cnawd), neu’r rhai sydd wedi marw’n ddiweddar (ar-lein). Dim ond trwy ddod o hyd i ffyrdd i weithio gyda’ch gilydd y byddwch yn datrys y dirgelwch a gweld sut y bydd y meirw yn cyrraedd eu diwedd. 

Bydd y byw yn cychwyn eu taith ysbrydion mewn lleoliad cyfrinachol yng Nghanol Dinas Caerdydd, cyn archwilio corneli cudd y ddinas. Bydd y ‘meirw’ yn ymuno â ni o’u cartrefi neu orsafoedd gwaith, mewn bywyd ar ôl marwolaeth trwy gêm wedi ei hysbrydoli gan y 90au, yn gaeth mewn limbo picselog 2D… 

Meta vs Life: Archebu Tocynnau

PERTHYN

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg

Feral Monster Tour – Tickets

National Theatre Wales yn cyhoeddi taith Feral Monster, sioe sydd wedi’i hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang.

Y cast yw Lily Beau, Carys Eleri, Geraint Rhys Edwards, Rebecca Hayes, Nathaniel Leacock a Leila Navabi.

Rhwng 15 Chwefror a 22 Mawrth 2024, bydd Feral Monster yn mynd ar daith i’r Sherman yng Nghaerdydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Pontio ym Mangor, Ffwrnes yn Llanelli (Theatrau Sir Gȃr) a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu. Archebwch eich tocynnau yma.

Feral Fest: Call out for young musicians

Rydyn ni’n llawn cyffro wrth gyhoeddi cyfle anhygoel i gerddorion ifanc ledled Cymru fel rhan o’n sioe sydd i ddod, Feral Monster, sioe gerdd fywiog newydd am arddegwr di-nod. Mae Feral Fest yn cynnig llwyfan i gerddorion ifanc ddysgu am gyfansoddi caneuon a chreu cerddoriaeth ar gyfer y theatr. Dyma dy gyfle i fod yn rhan o brosiect cynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth, creadigrwydd a chymuned.

Mae National Theatre Wales yn cael ei ysgogi gan anelu at gysylltiad. Rydyn ni’n gweld theatr fel arf i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, archwilio a chael ein hysbrydoli gan straeon ein cenedl. Rydyn ni am i bawb yng Nghymru weld eu hunain, eu cymunedau, eu profiadau a’u dyfodol yn cael eu dychmygu yn y gwaith yr ydyn ni’n ei wneud.

Mae ein model ymgysylltu arloesol, NTW TEAM, wrth wraidd hyn. Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i gael mynediad at y celfyddydau a chreadigrwydd. Mae TEAM yn dod i adnabod pobl o bob oed, gallu a chefndir, ledled y wlad i wneud i hynny ddigwydd. 

Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Feral Fest, clicia yma i ddysgu mwy

HUMBUG!

Mae HUMBUG! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol i chwedl glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.

Rhinoseros

Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?

Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod. Wrth i’r byd a’i bobl newid o’i gwmpas, mae’r arwr annhebygol Bérenger (Rhodri Meilir) yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio – ond beth ydy’r gost o beidio cydymffurfio?

Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus – mae’r rhinoserosod yn dod! Ewch i weld dyddiadau’r daith a bachwch eich tocynnau yma

Swyn

Dewch gyda Swyn ar siwrne trwy fyd natur…

O’r cwningod cyfeillgar i’r hwyiaid hwyliog, mae Swyn yn caru natur! Ond wrth iddi hi geisio chwarae gyda’r creaduriaid clen, mae ganddyn nhw eu syniadau eu hunain ar sut gael hwyl! Gyda help ambell i anifail arbennig ar hyd y ffordd, mae Swyn yn dysgu mai nid trwy arwain neu ddilyn eraill y mae gwneud ffrindiau, ond trwy ddathlu y pethau hynny sy’n gwneud bob un ohonom ni yn unigryw.

Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â Swyn a’i ffrindiau ar gyfer sioe swynol yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Yn cyfuno’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL), dyma gynhyrchiad arbennig fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc gyda stori a dawns.

Ewch i weld dyddiadau’r daith ac archebwch eich tocynnau yma

Y Fenyw Mewn Du (Hysbyseb/Trailer)

Am y tro cyntaf, trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfle i brofi sioe lwyddiannus o’r West End sydd wedi bod yn codi ias ar gynulleidfaoedd ers 30 mlynedd.

Tocynnau a mwy o wybodaeth yma

Y Fenyw Mewn Du (Hysbyseb/Trailer)

Am y tro cyntaf, trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfle i brofi sioe lwyddiannus o’r West End sydd wedi bod yn codi ias ar gynulleidfaoedd ers 30 mlynedd.

Tocynnau a mwy o wybodaeth yma

Welsh Theatre and the Climate Crisis (Ar Alw)

Rydyn ni’n eich gwahodd i ddod at eich gilydd i drafod sut mae diwydiant theatr Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Yr argyfwng hinsawdd yw’r cyd-destun yr ydyn ni nawr yn creu gwaith ynddo. Ni allwn ni newid hynny. Ond fe allwn ni newid sut rydyn ni’n gwneud i hynny weithio a beth yw’r gwaith. Mae’r diwydiant yn ecosystem, wedi’i gysylltu ar sawl pwynt. Drwy gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, gall Cymru osod y bar o arfer gorau.

Ymunwch â ni yng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gychwyn y daith honno. Gwrandewch ar straeon am lwyddiannau a methiannau, cynnydd a heriau, a rhannwch eich meddyliau a’ch syniadau eich hun am greu theatr gan gadw cynaliadwyedd wrth galon y cyfan.

Dydyn Ni Ddim yn Siarad Dim Mwy

Prosiect ymchwilio ar gyfer sioe newydd am y profiad o iaith, hunaniaeth a dosbarth Cymraeg, o dan arweiniaeth Rhiannon a Ffion Wyn Morris. Dros yr hydref mae’r ddwy yn cynnal cyfres o weithdai yn archwilio sut mae iaith yn cael ei dysgu, sut rydyn ni’n ymladd dros ieithoedd brodorol, pa ieithoedd newydd sy’n dod i’r amlwg, a beth yw’r berthynas a’r rhagdybiaethau ynghylch dosbarth a’r Gymraeg.

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023
11am-3pm
The Circle Tredegar, NP22 3PS

Chwyldro Bach
Gweithdy ysgrifennu gyda Patrick Jones sy’n ymchwilio i syniadau radical o’r gorffennol er mwyn mynegi syniadau ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

Archebwch yma

  

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023
12pm-5.30pm
St Mellons Hyb, 30 Crickhowell Rd, CF3 0EF

Gweithdy Lluniadu Blin, gyda Bedwyr Williams
Gan ddefnyddio testun a lluniadau, byddwn ni’n bwrw allan unrhyw bwnc sy’n dân ar eich croen chi ar hyn o bryd. Unrhyw beth, o bethau dibwys i bethau cyffredinol

Archebwch yma

Taith Circle of Fifths Tour

Tocynnau ar gael yma

Profiad theatr ymdrochol wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown Gavin Porter.

Wedi’i chreu gyda chyfuniad o gerddorion ac artistiaid, a straeon bywyd go iawn gan bobl ledled Cymru, mae’r sioe yn cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr i greu rhaglen ddogfen fyw.

Mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled – gan ganiatáu eiliad o fyfyrio a dathlu ar y cyd i ni.

Wedi’i chyflwyno gyntaf yn 2022 yng Nghaerdydd, mae Circle of Fifths yn dychwelyd yn hydref 2023 gan deithio’r sioe i leoliadau ledled Cymru ac i Lundain.

19-21/10: Glan yr Afon, Casnewydd

26/10: Ebbw Vale Institute, Glyn Ebwy

28/10: Capel Parc Du, Y Waun

3/11: Small World Theatre, Aberteifi

8/11: Drill Hall, Cas-Gwent

10/11: Hopkinstown Hall, Pontypridd

11/11: Butetown Community Centre, Caerdydd

17-20/1: Brixton House, Llundain

Circle of Fifths | Gavin Porter on working with the collective

Wrth i ni ddechrau ar ymarferion technegol, siaradon ni â Gav i ddysgu rhagor am weithio gyda chydweithfa anhygoel Circle of Fifths. Mae hefyd yn rhannu sut mae’n defnyddio ei brosesau gwneud rhaglenni dogfen i lunio’r perfformiad theatrig hwn.

Yn agor yr wythnos nesa, rydym yn addo y bydd hon yn sioe fydd yn gwneud i chi chwerthin, crio a dal eich anwyliaid ychydig yn agosach.

Kidstown

Mae’n amser chwarae.

Gwahoddir plant 6-11 oed i Dreantur gan yr artistiaid Nigel a Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt.

Gêm fawr ydy Treantur, a’r plant eu hunain sy’n ei dyfeisio hi.

Ar ôl cael pasbort, bydd y plant yn cael mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored. Bydd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Bydd cynorthwywyr wrth law i helpu’r plant i wireddu’u dychymyg.

Gwahoddir oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn sy’n digwydd y tu mewn.

Ymunwch â ni yn Treantur:

26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd

Y tu allan i Oriel Davies, Y Parc, Y Drenewydd, Powys SY16 2NZ

5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

Ar y maes, Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd LL53 6DW

18-21 Awst, Glyn Ebwy
Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, Teras Brynteg, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP23 6NE


Hygyrchedd

Rydyn ni’n cynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd. Mae gan bob safle fynediad heb risiau ac mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Darganfyddwch fwy am bob lleoliad isod.

Welsh Theatre and the Climate Crisis (Online Stream)

*Bydd grwpiau trafod yn cael eu tawelu ar gyfer preifatrwydd y cyfranogwyr | Discussion groups will be muted for participants’ privacy

Rydym yn eich gwahodd i ymgynnull i drafod sut mae’r diwydiant theatr yng Nghymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r holl waith rydym yn ei wneud nawr yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Ni allwn newid hynny. Ond mi allwn newid sut rydym yn gwneud y gwaith hwnnw a beth yw’r gwaith hwnnw. Mae’r diwydiant yn ecosystem, sydd yn cysylltu mewn sawl pwynt gwahanol. Drwy ddod at ein gilydd a dysgu gan ein gilydd, mi all Cymru osod safon newydd o arfer gorau.

Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Theatr Glan yr Afon, Casnewydd; National Theatre Wales, ABTT Cymru a Creu Cymru. 

Byddwch yn gallu gwylio ffrwd byw o’r digwyddiad yma ar ddydd Mercher, Gorffennaf 12fed o 10.30yb.

Maniffest – Siân of Arc

Ysgrifenwyd gan Mari Izzard Perfformiwyd gan Lauren Connelly Ffilm gan Liana Stewart Cynorthwyydd Ffilm – Zaid Djerdi

Maniffest – Fama

Ysgrifenwyd gan Manon Steffan Ros Perfformiwyd gan Dyddgu Glyn Jones Cyfarwyddwyd gan Branwen Davies Ffilm gan Ffoto Nant

Maniffest – The Future

Ysgrifenwyd gan Matthew Bulgo Perfformiwyd gan Sam Jones Cyfarwyddwyd gan Francesca Goodridge Ffilmiwyd a Golygwyd gan On Par Productions

Maniffest for Megan

Ysgrifenwyd a Chyfarwyddwyd gan Catherine Dyson Perfformiwyd gan Megan Gillard Ffilmiwyd a Golygwyd gan On Par Productions

ThCIC yn cyflwyno / NYTW presents: Maniffest 16/17

Maniffest 16/17: Cyfres o ffilmiau byrion gan aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn ymateb i rym eu llais cyn etholiad y Senedd eleni.

Gyda Cefnogaeth Gronfa Democratiaeth y DU, menter Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree.

Rhegi Ysgafn

Cariad yn Oes y Gin

Comedi dywyll am brofiadau pâr ifanc, bohemaidd a gwrthryfelgar wrth iddynt geisio bywyd newydd, anturus.

Dilynwn eu taith o’u cartrefi yng nghefn gwlad Cymru i ganol St. Giles yn ‘underbelly’ Llundain fawr.

“Comedi am ryddid sydd yma. Gofynnwn y cwestiwn: pa mor bell y dylem ni fynd i fynnu rhyddid, ac oes gennym ni’r hawl i rwystro rhyddid pobl eraill? Yn ystod oes o gyfnodau dan glo, cyfyngiadau a cholled, rydym i gyd yn profi ac yn archwilio ein perthynas â rhyddid, ac yn gofyn pwy sy’n haeddu rhyddid…a pwy sydd ddim?” (Chris Harris).

Awdur: Chris Harris
Cast: Siôn Emyr a Mali O’Donnell
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Cerddoriaeth: Mari Mathias

Manylion taith a gwybodaeth am sut i archebu eich tocynnau isod

Pijin | Pigeon

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio

Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran

Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow

Mae’r sioe yma yn ddwyieithog.

Archebwch eich tocynnau nawr!

Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys.

Mae Pijin yn dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos. Dychymyg, straeon a geiriau yw’r unig ffordd o oroesi. Ond un dydd, nid yw geiriau’n ddigon. Mae ei waliau’n chwalu’n deilchion a bywyd yn newid am byth.

Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.

Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus ‘Pigeon’ gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

The Cost of Living

Archebwch eich tocynnau nawr!

Dyma brofiad mewn tair rhan sy’n codi dau fys ar yr argyfwng costau byw. Ymuna â ni i fwynhau rhannau ohono, neu’r cyfan.

Theatr y Grand Abertawe, Mawrth 2023

Hygyrchedd

Iaith Arwyddion Prydain trwy’r holl rannau gan Tony Evans a Sami Dunn ar 22-23 Mawrth

Bydd sgrindeitlo ym mhob perfformiad

Disgrifiad Sain 24-25 Mawrth gan Owen Pugh

Mae rhagor o wybodaeth amgyfleusterau adeilad y Grand, Abertawe ar wefan y theatr.

Rhybudd


Dydyn ni ddim am roi gormod i ffwrdd o ran The Cost of Living, ond mae’r cynhyrchiad yn cynnwys deunydd a allai beri gofid i rai pobl.

Pe byddet yn elwa o wybod y cynnwys a’r themâu penodol ym mhob rhan, clicia yma.

Yn cyflwyno | Introducing Cabaret

Mae gan sioeau cabaret gartref newydd. Darganfyddwch bleserau annisgwyl a difyr wrth i ni arddangos y perfformwyr gorau o’r bydoedd drag, comedi, bwrlésg, cerddoriaeth fyw, theatr gig a mwy yn ein lleoliad bywiog newydd. Rydyn ni’n cyflwyno talentau datblygol ac eclectig fel nunlle arall yng Nghymru ac mae croeso i bawb. Ydych chi’n dod? Mwy o wybodaeth

The Making of A Monster – trailer / rhaglun

Stwnsh grime-theatr gan Connor Allen


Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru

09-19/11/22

Rhy ddu i fy ffrindiau croenwyn, ond rhy wyn i fy ffrindiau croenddu. Wrth dyfu lan fel rhywun hil gymysg yng Nghasnewydd, syrthiais i mewn i gwmwl llwyd. Tad Du absennol, yn cuddio o’r heddlu, yn ystyried beth yw ystyr bod yn ddyn. Ro’n i’n ymdrechu i ddod o hyd i fy lle i yn y byd ac mewn perygl o golli rheolaeth ar bethau. Yna newidiwyd fy mywyd gan un ennyd.

Crëwyd gan ddiwylliant grime ac ysbrydolwyd gan Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, The Making of a Monster yw fy hanes i.

Tocynnau

Payday Party Trailer

Prisiau bwyd yn cynyddu Prisiau tanwydd yn cynyddu Biliau dŵr yn cynyddu Treth car yn cynyddu Yswiriant Gwladol yn cynyddu.

Mewn argyfwng costau byw, beth ydych chi’n ei wneud i oroesi? Bwyta? Cadw’n gynnes? Neu drefnu digwyddiad Payday Party! Mae 6 artist yn rhannu eu straeon a’u doniau bywyd go iawn yn y gobaith o gael eich talu gennych chi, y gynulleidfa.

EPIC FAIL

Beth petai methiant yn rhinwedd i’w goleddu, fel llwyddiant? Petai hynny’n wir, a fyddem i gyd yn teimlo’n well?

Mae Kid Carpet, Common Wealth a phlant ysgol Llanrhymni wedi bod yn siarad, yn creu, yn chwarae ac yn gwneud pethau’n anghywir. Maen nhw wedi creu robotiaid sbwriel, wedi canu caneuon, wedi gwisgo mwstash ffug ac (yn anffodus) wedi dyfeisio llaeth swigod.Through two residencies at Glan Yr Afon Primary School Llanrumney, Kid Carpet, Common Wealth and the Year 5 pupils will co-create a performance made with and for young people and their families. EPIC FAIL – Nid oes ganddo’r atebion ond mae ganddo’r caneuon gorau, hysbysebion gwirion ar y teledu ac ymbarelau ar gyfer eich esgidiau.

Llwybr Mellt: Pennod 4

Ble yn y byd mae Hari ac Ela? Mae’r ddau ffrind yn cael eu dal mewn storm dywod ac yn dod o hyd i’w cliw cyntaf. Bant â ni i’r anialwch!

Common Wealth

Mae Common Wealth yn creu theatr sydd yn benodol i leoliad, yn cwmpasu sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol a mwy. Mae ein gwaith yn weledol ac yn gyfoes – yn digwydd yn y presennol, yn y fan hyn. Rydym yn creu gwaith sydd yn berthnasol ac yn trafod pryderon ein hamser ni. Rydym yn […]

Llwybr Mellt: Pennod 2

Mae pennod nesaf Y Llwybr Mellt yn barod a mae Hari yn mynd ag Ella i ran oeraf y byd i chwilio am ateb. Dewch i wylio Pennod 3 ‘Y Gogledd Rhewllyd Oer’.

Cawl Cerrig

Mwynhewch Cawl Cerrig! Drwy gyfrwng gwaith cysgod-bypedau a naratif bywiog, gall gwylwyr fwynhau’r chwedl werin hon o Bersia sy’n sôn am werth rhannu.

Creodd Theatr Byd Bychan gasgliad newydd o berfformiadau chwedleua Cymraeg ar gyfer plant. Bydd rhannu’r straeon sy’n defnyddio pypedwaith yn cychwyn ar 18 August gyda Cawl Cerrig a chaiff penodau Llwybr Mellt eu rhyddhau ar 5, 8, 12, 16, 19, 22 Medi. Mewn partneriaeth ag AM. Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.