Counting the Cost of Living
5.30 – 7pm | Croeso i bawb o bob oed
Pan fydd hi’n ymddangos bod pethau’n mynd o ddrwg i waeth, mae’n anodd dychmygu sut byddan nhw fyth yn gwella. Rydyn ni eisiau dy gysylltu di â’r bobl rymus dros bryd o fwyd. Ddim y gwleidyddion, penaethiaid yr heddlu, arweinwyr cynghorau na chomisiynwyr fydd yn ateb y cwestiynau y tro hwn. Yn hytrach, nhw fydd yn dy holi di. Bydd cyfle i ti esbonio dy brofiadau di o’r argyfwng i’r bobl ac i’r sefydliadau sy’n diffinio dy fywyd. Fe gei di ddangos y pris dyddiol rwyt ti’n ei dalu. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn, a dyna rydyn ni eisiau’i drafod.
Mae’r llefydd yn gyfyngedig i Counting the Cost of Living. Cadwa dy le fan hyn ar ôl prynu dy docyn.
Wedi’i chyfarwyddo gan Mathilde Lopez mewn partneriaeth â Shirish Kulkarni, Ethnic Minorities & Youth Support Team (EYST) a Grange Pavillion Youth Forum. Cyfnod ymchwil cynnar mewn partneriaeth gyda Data4Change.
Nodyn: Fydd Rhan 3: Counting the Cost of Living ddim yn cael ei pherfformio ar 17 Mawrth
Joseph K and the Cost of Living
7.30 – 9pm | 14+
Mae gan Jo K swydd yn y byd ariannol sy’n talu’n dda. Prin fod K yn sylwi ar y llanast cynyddol sydd o gwmpas wrth gerdded i’r gwaith bob bore – y bobl ddigartre’ sy’n llond y strydoedd, y banciau bwyd, y dicter, y protestiadau, y cynnydd di-baid mewn costau byw, a’r bobl sy’n methu fforddio hynny. Ond un dydd, mae’r awdurdodau’n arestio K. Does neb yn dweud wrth K beth yw’r cyhuddiadau, ond mae’n rhaid eu hateb ac yn sydyn mae K ar y tu fas yn edrych mewn ac mae’n lle oer a brawychus.
Mae addasiad Emily White o The Trial gan Franz Kafka yn yn plethu hunllef arestio ac achos llys mewn i berfformiad sy’n dangos y pris uchel y byddwn ni’n ei dalu pan fydd y grym sy’n ein rheoli yn un gormesol ac anatebol.
Mae ein cast ensemble, sydd wedi’u cyfarwyddo gan Lorne Campbell gydag Anthony a Kel Matsena, yn gofyn i ni ystyried pa mor hurt yw ein perthynas ni â grym, a hynny mewn fersiwn ddoniol, gorfforol a grymus o ddrama glasurol Kafka.
F**k the Cost of Living
9.15 – 9.45pm | 14+
Ymuna â Minas, a fydd yn rhoi perfformiad llawn ffyrnigrwydd grymus. Cerddoriaeth brotest i’r foment hon, ac i Gymru. Bydd gwesteion gwadd arbennig iawn hefyd, gan gynnwys HMS Morris ac Ayoub Boukhalfa.
Mewn partneriaeth â Grand Ambition.
Nodyn: Fydd Rhan 3: F**k the Cost of Living ddim yn cael ei pherfformio ar 17 Mawrth