Cartref digidol diwylliant Cymru.

Plas Glyn y Weddw

Organisation logo

Canolfan gelfyddydau ac amgueddfa wedi ei chartrefu mewn plasdy gothig Fictoraidd, yn arddangos celf a chrefft gyfoes o safon.

PSYLENCE 2024

Mae Pontio yn cyflwyno penwythnos o digwyddiadau arbennig fis Hydref i dathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).

4-6/10/24

Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.

Dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’ – felly dyma ni yn adeiladu ar un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous gyda penwythnos cyfan o ddigwyddiadau; Psylence 2024 fydd y mwyaf eto.

Bydd elw’r digwyddiadau yn mynd i Ymchwil Canser y DU, a ddewiswyd gan deulu Emyr.

Rhagor o artistiaid a digwyddiadau i’w cyhoeddi hefyd!

Mwy o wybodaeth a thocynnau

Every Child a Filmmaker

Yma yn TAPE, rydym ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen 6-sesiwn a ddatblygwyd gan Into Film. Mae’r rhaglen wedi’i chreu i annog pobl ifanc i fynegi eu hunain a rhannu eu straeon trwy ffilm. Bydd y rhaglen yn galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau gwneud ffilmiau gan weithwyr proffesiynol a dod â safbwyntiau newydd i’r sgrin.

Coastline Film Festival

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod tocynnau ar gyfer y Coastline Film Festival nawr ar werth! Wedi’i rhaglennu gan Glwb Cyfryngau TAPE, mae’r wyl eleni yn cyflwyno detholiad o ffilmiau â themâu sy’n gysylltiedig â thrydedd ffilm nodwedd TAPE, Ymysg y Tonnau. Bydd yr wyl yn cael ei chynnal rhwng y 14eg a’r 16eg o Awst yng Nghanolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE yn Hen Golwyn.

Archebwch eich tocynnau yma!

Aildanio: Rhan Un

Ffilm gan Culture Colony am Wobr Celfyddydau Aildanio Celfyddydau Anabledd Cymru!

Mae’r Ffilm mewn dwy ran: Rhan 1 yn archwilio arferion celfyddydol yr artistiaid, a Rhan 2 yn arddangos arddangosfa deithiol Aildanio ei hun.

Aildanio: Rhan Dau | Part Two

Ffilm gan Culture Colony am Wobr Celfyddydau Aildanio Celfyddydau Anabledd Cymru!

Mae’r Ffilm mewn dwy ran: Rhan 1 yn archwilio arferion celfyddydol yr artistiaid, a Rhan 2 yn arddangos arddangosfa deithiol Aildanio ei hun.

Ffilmiau Cymunedol AM Community Films

Mae AM yn cynnig £500 yr un i 4 gwneuthurwr ffilm llawrydd tuag at greu ffilm fer am ddiwylliant cymunedol yng Nghymru.

Gall hyn fod yn ffilm ar unrhyw fath o weithgaredd celfyddydol, cymdeithasol neu ar waith penodol unigolion/sefydliadau o fewn y gymuned.

Annogir ymgeisiwyr i gysylltu gyda lea@pyst.net am fwy o wybodaeth cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Mae’r cyfnod ymgeisio wedi dod i ben.

Artistiaid Y Lle Celf 2023

Mwynhewch ffilm arbennig yn dogfennu rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru gyfoes!

Aeth Culture Colony ar daith dros Gymru i gyfweld artistiaid a gyflwynodd waith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, yn cynnwys Llŷr Evans, Ruth Jên Evans a John Rowley.

Dyma gyfle i glywed mwy am eu prosesau creadigol ac i ail-ymweld a’u celf.

PERTHYN

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg

‘Propinquity – An Evolution’ Landlines Studio

Landlines Studio
Propinquity – An Evolution
2021
brick, charcoal, plaster, slate, soil, soot, stone, rust, copper oxide ink, acrylic, spray paint, botanical matter and stitched elements on canvas and silk.

Acting as a visual timeline, this work commemorated 100 years of the house using the entire pigment collection and 100 stitches. Seven months ago, the painting was buried horizontally alongside the pond, half above the soil, half below. Rebirthed, it has returned to its initial place within 2020 exhibition.

As part of the Bodfa Continuum exhibition at Plas Bodfa
9-24 April, 2022

History, storytelling and contemporary art collide in this fusion exhibition occupying the entirety of Plas Bodfa. This immersive exhibition exists in the space between fiction and non-fiction, real and imagined, yesterday and tomorrow.

Mae hanes adrodd straeon a chelf gyfoes yn gwrthdaro yn yr arddangosfa ymdoddedig hon sy’n meddiannu Plas Bodfa. Bydd yr arddangosfa ymdrwythol yn bodoli mewn gofod ffuglennol a ffeithiol, y gwirionedd a’r dychmygol, ddoe a heddiw.

More about the show : plasbodfa.com/bodfa-continuum

Rhwng Dwr ac Amser – Angharad Jones

Mae hanes adrodd straeon a chelf gyfoes yn gwrthdaro yn yr arddangosfa ymdoddedig hon sy’n meddiannu Plas Bodfa. Bydd yr arddangosfa ymdrwythol yn bodoli mewn gofod ffuglennol a ffeithiol, y gwirionedd a’r dychmygol, ddoe a heddiw.

More about the show : plasbodfa.com/bodfa-continuum

Creative Inclusion Plan 2030 – TAPE Community Music and Film

Mae TAPE yn gyffrous i ddadorchuddio ei Gynllun Cynhwysiant Creadigol 2030. Y cynllun yw canol hygyrch cynllun busnes newydd TAPE sy’n cymryd dros 15 mlynedd o gyflawni a datblygu. Gan cyflwyno’r ethos a ffocws i’r elusen wrth iddi greu a datblygu mwy o brosiectau newydd cyffrous a cyfleoedd i bobl yng Nghymru.  

POP PETH DAU 1993

Cynnyrch Fidio wedi’i hachub allan o’r sdafell sdoc ar benblwydd Ankst yn 35mlwydd oedd!
Braint yw cael cyhoeddi ymddangosiad y releases/casgliadau fidio hanesyddol isod ( i gyd yn wreiddiol allan ar VHS) gan Label Ankst ar Sianel Kino Ankst. 

POPETH 1992
POP PETH DAU 1993

Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim – Short Film

Mae’r ffilm fer yma yn dogfenni prosiect celfyddydau cyfranogol Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé sydd wedi ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at bererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu Sir Benfro a Llwch Garmon.

Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn, sy’n cael ei chanu’n bennaf ar dôn ‘Amazing Grace’.

Dechreuodd Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai ar-lein gyda siaradwyr o safon fyd-eang gan gynnwys Emyr Wyn James, Gareth Bonello, Catherine Dunne a Pamela Petro yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân.

Parhaodd gweithgareddau yng Ngwanwyn 2023 gyda gweithdai rhannu caneuon a straeon a thaith cyfnewid rhwng y ddau le. Canlyniad y prosiect yw’r ffilm ddogfen yma gan Rowan O’Neill, Paul Evans, Jacob Whittaker a John Ó Faoláin a chân macaronig newydd gan gantores draddodiadol, Rachel Uí Fhaoláin.

Dyfeisiwyd a churiadwyd y prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim gan Rowan O’Neill mewn cydweithrediad a Chelfyddydau Span a’u cyd-hwylusydd yn Llwch Garmon oedd Rachel Uí Fhaoláin o Ceol Mo Chroí a John Ó Faoláin o Traditional Archive Channel.

Roedd Pererin Wyf yn rhan o’r prosiect  Cysylltiadau Hynafol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. 

+++

Déanann an gearrscannán seo cur síos ar Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim, tionscadal ealaíne rannpháirtíoch arbh aidhhm leis Diaspóra na nGael agus na mBreatnach a chur i dteagmháil le chéile i dtaca le slí nua oilithreachta trasteorann a dhéanfaidh ceangal idir Pembróc agus Loch Garman. 

Ghlac an tionscadal a ainm agus a chuid inspioráide ó iomann de chuid an ochtú haois déag leis an scríbhneoir bisiúil Breatnach William Williams Pantecelyn. Is le fonn Amazing Grace is mó a chantar an iomann.

Thosaigh an tionscadal Mí Mheán Fómhair 2022 le ceardlann arlíne le cainteoirí den scoth ag diriú Emyr Wyn James, Gareth Bonello, Catherine Dunne a Pamela Petro ar phríomhthéamaí an tionscadail; Diaspora na mBreatnach agus na nGael a nascadh, teanga, baile, taisteal agus amhránaíocht. Lean an ghníomhaíocht san Earrach le ceardlanna ina raibh scéalta is amhráin á mhalartú. Is de thoradh an tionscadail atá an scannán faisnéise fuaimrianaithe seo againn ó Rowan O’Neill, Paul Evans, Jacob Whittaker agus John Ó Faoláin; agus an t-amhrán nua macarónach arna scríobh ag an amhránaí traidisiúnta Rachel Uí Fhaoláin atá lonnaithe i Loch Garman.

Rowan Ó Néill a cheap, a léirigh agus a thairg Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim i bpáirt le Span Arts agus lena comhéascú i Loch Garman ag Rachel Uí Fhaoláin agus John Ó Faoláin.

Bhí Pererin Wyf mar chuid de Thionscadal Ancient Connections arna mhaoiniú ag Ciste Forbraíochta Réigiúnaí na hEorpa tríd an gClár Comhair Éire-An Bhreatain Bheag.

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Rydym wedi cael wythnos gwerth chweil yn yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn wythnos lawn cymdeithasu, hwyl a chwerthin. Diolch i bob person sydd wedi ein cefnogi drwy roddion.

Mae wedi galluogi i ni fynd i’r eisteddfod eleni. Rydym yn diolch i chi o waelod ein calonnau am y profiad bythgofiadwy hwn.

Ffilm Ein Hanes Ni: Gŵyl Cefni

Ffilm Ein Hanes Ni: Gŵyl Cefni yn cael ei ryddhau ar y Cyfryngau Cymdeithasol (Facebook / Twitter a Youtbe y Fenter) ar y 8fed o Fehefin. Cyfle i fynd yn ôl mewn amser i weld sut mar Gŵyl Cefni wedi datblygu dros y blynyddoedd.

Sgyrsiau efo hen wynebau (a newydd!) am eu profiadau a’i perthynas nhw efo’r Ŵyl.

Tu Draw + Ffilm Ddogfen

Diolch i’r plant ysbrydoledig a’u rhieni/gwarchodwyr am fod yn rhan o’r prosiect a chronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru am roi llais i ddyslecsia.

Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia. 

Neges Heddwch yr Urdd 2023

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023: Gwrth-hiliaeth

Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 yr Urdd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan.

Eleni crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r cerddor Eädyth a Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones. Mae’n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i:

Datgymalu camwahaniaethu systemig
Herio rhagfarnau diarwybod
Galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser.

Ymunwch yn yr ymgyrch gan rannu’r neges ar eich cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd Iau, y 18fed o Fai gan ddefnyddio #Heddwch2023

Llais Dyslecsia

Dyslecsia yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia. Llais Dyslecsia Yn Chwefror 2023 daeth criw o blant ysbrydoledig gyda dyslecsia at eu gilydd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol gyda’r cynhyrchydd Shari Llewelyn, Casi Wyn Bardd plant Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Dyslecsia […]

Cystadleuaeth y Pethau Bychain

Cyfle i ennill un o dair gwobr £100!

Yr unig beth sydd eisiau i chi wneud yw tynnu fideo llai na 15 eiliad o hyd ar y testun ‘Y Pethau Bychain’ a’i anfon atom drwy neges breifat ar ein cyfrif Twitter @Prosiect15eg neu Messenger Facebook/prosiect15eg neu Instagram @prosiect15

Rheolau ac Amodau Cystadlu


Mae’r gystadleuaeth ar agor i bawb, o bob oed ac o bob man. Yr unig reol yw bod eich fideo yn Gymraeg ac yn llai na 15 eiliad o hyd.

Bydd y gystadluaeth yn cau ar 31 Mawrth 2023.

Diogelu data a hawlfraint


Ni fydd unrhyw ddata personol amdanoch yn cael ei rannu gyda thrydydd parti ond ar gyfer deunydd mewnol yn unig sy’n berthnasol i’r prosiect.

Ni fydd Cyngor Gwynedd sy’n gweinyddu Prosiect15 a’r gystadleuaeth hon yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata atoch yn dilyn y gystadleuaeth.

Pe baech yn ennill y gystadleuaeth bydd gan Prosiect 15 yr hawl i gyhoeddi eich enw a’ch ardal wrth hysbysu’r byd o’r enillwyr.

Chi fydd piau’r hawlfraint ar y fideo ond drwy gystadlu rydych yn cytuno i Brosiect 15 gael yr hawl i ddefnyddio eich fideo ar gyfer hyrwyddo’r prosiect yn ystod y gystadleuaeth ac i’r dyfodol.

Pob hwyl ar y cystadlu!

Lochgoilhead Forever Trailer

Yn y darn craff hwn, mae’r gwneuthurwr ffilm a’i dad oriog yn dychwelyd i’r hen dŷ roedd ei Nain a’i Daid yn byw. Fel y bwthyn ei hun, mae perthynas y ddau yn llychlyd. Mae sortio trwy’r hen greiriau  yn profi fi fod yn dasg emosiynol.

Cyfarwyddwr – Liam Martin

Yn tynnu ar ei gefndir mewn athroniaeth, mae ffilmiau dogfen Liam yn archwilio themâu yn cynnwys hunaniaeth, perthyn a derbyn. Mae ‘Kernow’, ei ffilm ddogfen annibynnol gyntaf yn ffilm fer 16 munud yn taro golwg empathetig ar yr atgyfodiad o ddiddordeb mewn ethnigrwydd Cernyweg ar hyn o bryd, a chafodd ei enwebu am wobr Best Single Documentary yn y 2019 Celtic Media Festival. Mae ei ail ffilm ddogfen fer, ‘Lochgoilhead Forever’, yn cynnig hiwmor sych ac emosiwn yn tarddu o brofiad personol o ddynameg deuluol cymhleth a galar tawel.

Gŵyl Sŵn Festival 2022

120 artist, 10 llwyfan, 7 lleoliad. Dyna beth gawsom ni yng Ngŵyl Sŵn eleni — Gŵyl aml-leoliad Caerdydd wedi’i rannu dros dri diwrnod arbennig. Yn ddathliad lliwgar o wahanol arddulliau, diwylliant a hunaniaeth, pleser yw cyflwyno ffilm fer Klust sy’n dogfennu uchafbwyntiau’r ŵyl. Wedi’i ffilmio gan y cyfarwyddwr Aled Victor, dyma gyfle i ail-fyw perfformiadau gan rai o artistiaid fwyaf blaenllaw Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys Mellt, L E M F R E C K, Sŵnami, Greta Isaac, Kiddus + mwy.

Mwynhewch restr chwarae o rai o bigion Klust o Sŵn yma

yma

Romani Cultural & Arts Company

Ffurfiwyd Romani Cultural and Arts Company yn 2009 fel cwmni cyfyngedig nid-er-elw ac elusen ym mis Medi 2009. Mae’r cwmni yn gweithio yn y celfyddydau i godi arian er mwyn a datblygiad cymunedol a phrosiectau addysgiadol i safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac i gymunedau ‘Gorjer’ a chefn gwlad ar draws Cymru. Rydym yn sefydliad sydd […]

Mwldan

Mae Mwldan yn ganolfan y celfyddydau a sinema annibynnol yn Aberteifi. Mae’n cyd-gynhyrchu Lleisiau Eraill Aberteifi (gyda South Wind Blows a Triongl) ac yn rhaglennu tymor yr haf o ddigwyddiadau awyr agored ar raddfa fawr yng Nghastell Aberteifi ar y cyd â’r Castell. Yn ogystal, y Mwldan yw un hanner o label recordiau bendigedig (gydag […]

Hiraeth Film

Triawd sy’n creu ffilmiau dogfen gyda naws Gymreig sydd ar gael i’w gwylio am ddim. Fel Gwaelod Llyn, Talyllyn to Tidmouth a mwy

Wales Millennium Centre | Canolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu ein cynyrchiadau theatr, gwyliau a phrofiadau digidol ein hunain – yn ogystal â churadu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns a chabaret. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, […]

AM

AM BOB DIM

Debating Wales’ slave trade links

Billy Mazoya from SSAP had a few words to share in regard to the debate on local landmarks in Wales having links to the slave trade. In an interview with ITV Wales, Billy talks about one of the controversial figures, Sir Thomas Picton from Haverfordwest who has a total of 39 different forms of commemoration across Wales. An audit by the Welsh Government audit revealed more than 200 public commemorations across the country are to people who are connected to slavery.

Sub-Sahara Advisory Panel

Ffurfiwyd y Panel Cynghori Affrica Is-Sahara yn 2009 pan ddaeth nifer o grwpiau o’r gymuned Affricanaidd ar wasgar yng Nghymru at ei gilydd i ystyried sut y gallant ymestyn eu syniadau cyffredin am ddatblygiadau lleol a rhyngwladol. Nid ydym yn sefydliad sydd yn cynrychioli cymunedau Affricanaidd ar wasgar yng Nghymru, ond yn hytrach rydym yn […]