Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cofio / Memortal

Darn byr Span Digidol yw Cofio/Memortal. Bu’r prosiect peilot yma’n ymchwilio’r posibilrwydd o greu ap atgofion digidol i helpu pobl i gofnodi a rhannu atgofion, delweddau, gwrthrychau a recordiadau sain er mwyn adrodd eu hanesion personol. Ymunon ni â Gemma Green Hope, artist animeiddio o Sir Benfro ac Owen Davis -crëwr apiau o Fryste, i greu prototeipiau ar gyfer ap oedd yn hawdd i’w ddefnyddio, yn ddigon hyblyg i foddhau gofynion gwahanol ddefnyddwyr ac yn weledol hardd. Mae’r ffilm ddwys yma sy’n cyffwrdd â’r galon yn adrodd stori’r prosiect.

David Nash – Sculpture through the Seasons

The major exhibition Cerfluniau’r Tymhorau – Sculpture Through the Seasons at Amgueddfa Cymru National Museum of Wales in Cardiff is a celebration of the 200 seasons – the 50 years that David Nash has lived and worked in and around Capel Rhiw in Blaenau Ffestiniog. The Chapel’s congregation of sculptures are on an outing to the capital!

Mudd Club – Be Good (Rockfield Session)

Punk rockers from Machynlleth Mudd Club record their song Be Good at the historic Rockfield Studios in December 2019. Originally from Kansas, USA, sister and brother Sadie (19) and Julian (12 – yes 12!) have moved to Mid Wales and are now rocking the ancient capital of Wales.

Laura Ford – Squatters

Squatters by Laura Ford is an exhibition of sculpture presented by gallery – TEN at Castell Coch, Cardiff.

Dathlu 50 SAIN

Arddangosfa i gofnodi pen-blwydd y label yn 50 oed.
Dyma ddetholiad o luniau, dogfennau a chloriau o archif SAIN – y bwriad yw adrodd rhywfaint ar hanes y label dros yr hanner can mlynedd diwethaf.
Curadwyd y cynnwys gan Manon Awst a chrewyd nifer o’r delweddau ar y cyd gyda gwirfoddolwyr mewn gweithdai yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019.

Theatr Gen Eto: Llygoden yr Eira

Dyma sioe swynol i blant bach sy’n gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo ac yn seiliedig ar y cynhyrchiad gwreiddiol, Snow Mouse gan the egg a Travelling Light. Roedd y cynhyrchiad hwn yn hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru tra’n teithio ym mis Rhagfyr 2019.

Y Cychwyn…. | The Beginning…

Y cychwyn … Ffurfiwyd Cwmni Sain (Recordiau) Cyf yn 1969 gan Dafydd Iwan a Huw Jones, gyda chymorth Brian Morgan Edwards. Roedd y ddau ohonynt eisoes yn gantorion gwerin adnabyddus ac wedi gwneud recordiau i gwmni recordio arall, sef cwmni Teldisc. Roedd Dafydd Iwan wedi recordio saith record fer, a Huw Jones ddwy, ar label […]

Red Hot Chilli Peppers Meets Sinfonia Cymru- Can’t Stop

We’ve partnered with our friends at Sinfonia Cymru to celebrate NHS workers across Wales and the UK. Recorded on phones across the country, with audio post-production from our producer’s home in Penarth

#StayHomeSaveLives #CantStop #DaliwchAti

Falch i bartneru gyda’n ffrindiau yn Sinfonia Cymru i ddathlu gweithwyr yr NHS dros Gymru a’r DU. Wedi’i recordio ar ffonau ledled y wlad a’u hôl-gynhyrchu yng nghartref ein cynhyrchydd ym Mhenarth.

#StayHomeSaveLives #CantStop #DaliwchAti

Pontio Bangor

Pontio yw Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i Theatr hyblyg, Stiwdio, a Sinema Ddigidol. Mae bwyd a diod ar gael ym Mar Ffynnon a chaffi Cegin. Mae Celfyddydau Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatr awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy. Hefyd yn rhan o’r adeilad mae canolfan arloesi o’r radd flaenaf ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cartref i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu.

Gwledd Syrcas Pontio Circus Feast, 2019

Cynhaliwyd trydydd ‘Gwledd Syrcas Feast’ Pontio fel digwyddiad naw diwrnod o hyd i roi llwyfan i syrcas cyfoes, ym mis Gorffennaf 2019. Thema’r wledd oedd ‘Y Byd wrth ein Traed’, ac roedd y Wledd yn arddangos gwaith o nifer o wahanol wledydd, yn ogystal â darparu blas o dalent cerddorol a syrcas lleol. Y prif berfformwyr oedd Circus Abyssinia, cwmni syrcas cyfoes o Ethiopia, sydd wedi perfformio ar draws y byd ac wedi ennyn canmoliaeth gan adolygwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd.

Dafydd Iwan

Yn y dyddiau cynnar roedd SAIN yn creu ac yn gwerthu posteri o’u hartistiaid – buom yn ffodus i dderbyn 3 copi gwreiddiol o’r posteri yma gan aelod o’r cyhoedd – un Dafydd Iwan, Huw Jones ac Edward Morus Jones.

Cecile Johnson Soliz – Twist

From the studio to the gallery, this film describes the creative process as Cecile Johnson Soliz working with paper prepares an exhibition of sculpture at Oriel Davies Gallery in Newtown.

Bandicoot – Sunday Session

Pob bore Sul o 11yb bydd artistiaid lleol yn chwarae’n fyw o’u cartrefi ar Instagram Clwb! Dyma Rosehip Teahouse o’r Sesiwn Sul diwethaf. Ymunwch â ni bore Sul y 5ed o Ebrill, wrth i Bandicoot chwarae stwff gwreiddiol a covers am yr ail mewn gyfres o Sesiynau Sul.

Huw Jones

Yn y dyddiau cynnar roedd SAIN yn creu ac yn gwerthu posteri o’u hartistiaid – buom yn ffodus i dderbyn 3 copi gwreiddiol o’r posteri yma gan aelod o’r cyhoedd – un Dafydd Iwan, Huw Jones ac Edward Morus Jones.

Gareth Griffith – Trelar // Trailer

Gareth Griffith’s touring exhibition Trelar // Trailer was cut short due to C19 at Oriel Davies in Newtown after visiting Ty Pawb in Wrecsam and Aberystwyth Arts Centre we have made the gallery film available online. The longer film is currently being edited and will be available very soon.

Edward Morus Jones

Yn y dyddiau cynnar roedd SAIN yn creu ac yn gwerthu posteri o’u hartistiaid – buom yn ffodus i dderbyn 3 copi gwreiddiol o’r posteri yma gan aelod o’r cyhoedd – un Dafydd Iwan, Huw Jones ac Edward Morus Jones.

Culture Colony

Mae Y Wladfa Newydd yn gymuned ar-lein sydd yn gwasanaethu’r sector creadigol. Gall unrhyw un yn unrhyw le fod yn aelod o’r gymuned yma. Mae’n ganolfan ar gyfer fideos, erthyglau, newyddion ac amserlenni ynglŷn â’r celfyddydau. Ein nodau yw cynnig platfform ar gyfer chreadigrwydd ac i hyrwyddo ymdrechion celfyddydol ac i gysylltu â chynulleidfa gyda chynnwys o ansawdd uchel, sydd ddim yn bosib i’w ddarganfod i gyd mewn un lle yn unrhyw le arall.