Cartref digidol diwylliant Cymru.

120960

Perfformiad byw gan Cwmni Ifanc Frân Wen / Live performance by Frân Wen’s Young Company

Ymarferion 120960

Ar y 31 o Ragfyr 2019, cadarnhawyd achos cyntaf Coronavirus yn Wuhan, China … 120960 munud yn ddiweddarach ac mae’r byd yn byw mewn ‘lockdown’. Lle byddwn ni mewn 120960 munud arall? Be sy’n mynd i ddigwydd dros y misoedd nesa? Dim trefn! Sdyc yn tŷ trwy’r dydd, pob dydd. Mewn 120960 munud arall bydd […]

Carys ac Andy gan Elin Gwyn

Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

“Dwi’n methu chdi gymaint…”

Wrth i’r cyfyngiadau symud gadw Carys ac Andy ar wahân, mae’r cwpl yn troi at Zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad.

Ond rhwng yr ymarfer corff dyddiol, y potsian yn yr ardd a’r downars amser gwely, nid yw caru yn y clo mawr yn hawdd.

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed

Cast: Tara Bethan, Carwyn Jones, Sara Gregory
Cyfarwyddwr: Ffion Dafis
Dramatwrgiaeth: Alice Eklund
Cynhyrchydd: Lois Gwenllian
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Capsiynydd: Elin Phillips

Mae Carys ac Andy yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

A BBC Cymru and Theatr Genedlaethol Cymru production

With the lockdown restrictions keeping Carys and Andy apart, the couple turn to Zoom and FaceTime to keep in touch.

But between the daily exercise, pottering in the garden and the late-night downers, keeping a relationship going during lockdown isn’t easy.

Contains strong language and adult themes

Cast: Tara Bethan, Carwyn Jones, Sara Gregory
Director: Ffion Dafis
Dramaturgy: Alice Eklund
Producer: Lois Gwenllian
Stage Manager: Ffen Evans
Captioner: Elin Phillips

Carys ac Andy is one of BBC Cymru and Theatr Genedlaethol Cymru’s Dramâu Micro. This project is part of Creu Ar-lein, Theatr Genedlaethol Cymru’s new programme in response to the coronavirus emergency and the challenge of creating original dramatic work during lockdown.

Meilyr Rhys

Tyfu fyny yn Ddyffryn Nantlle, mae gen i wastad wedi bod ddiddordeb mewn pobl – mae’r ffordd mae person yn ffurfio eu personoliaeth nhw yn hynod o ddiddorol i mi. A dwi’n gweld ffilm fel ffordd dda o archwilio fewn i hynna trwy adrodd straeon. Mae o hefyd yn dod ac amlygiad a chynrychiolaeth i bobl fysa heb fel arall. Rydw i’n ymgolli ym mhortreadau mewn straeon, fel Solomon Northup yn trio dianc ei gaethiwed yn 12 Years a Slave a Reynolds Woodcock yn trio dod dros farwolaeth ei fam yn Phantom Thread. Mae technegau ffilmio hefyd yn fy wngeud i’n gyffrous; o’r sinematograffi i’r sgôr cerddoriaeth, mae ffilm yn gyfuniad o bob ffurf ar gelf. Felly pan mae’r ffurfiau i gyd yn dod at ei gilydd yn berffaith, does ddim byd gwell.

Rydw i’n wneuthurwr film sydd newydd orffen astudio fy ail flwyddyn o gwrs ffilm ym Mhrifsygol Bryste.

Hybsyseb 120960

120960 fydd ein hymgais gyntaf ar greu theatr ddigidol. Wedi ei ddyfeisio gan Gwmni Ifanc Frân Wen, mae’r cynhyrchiad yn cychwyn 120960 munud ers cadarnhau’r achos gyntaf o’r coronafirws yn Wuhan, Tsieina ac yn ymateb i’r byd dros y 120960 munud yn dilyn hynny. Mae’r cwmni ifanc yn ymarfer dwywaith yr wythnos drwy blatfformau digidol er mwyn ymateb yn greadigol i fywyd fel person ifanc yng Nghymru heddiw. Beth yw’r newidiadau yn ein bywydau? Beth mae rhain yn ei olygu i ni ac ein dyfodol? Ai amser prin i gymryd stoc a gwerthfawrogi? Bydd y cwmni yn rhannu ei waith ar 19eg o Fehefin, lleoliad (digidol) ac amser i’w gadarnhau.

Enfys gan Melangell Dolma

Enfys
gan / by Melangell Dolma

Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

Mae enfysau ym mhob man yn awr. Enfysau o ddiolch i’n gweithwyr allweddol ac i’r GIG.
Ond wrth geisio cwblhau ei waith cartref ar gyfer ei wers Gymraeg, am beth – neu bwy – mae Nick yn ddiolchgar?

Yn cynnwys iaith gref

Cast: Richard Nichols
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Dramatwrgiaeth: Alice Eklund
Cynhyrchydd: Lois Gwenllian
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Capsiynydd: Elin Phillips

Mae Enfys yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

A BBC Cymru and Theatr Genedlaethol Cymru production

There are rainbows everywhere at the moment. Rainbows of thanks to our key workers and to the NHS.
But while completing the homework for his Welsh lesson, what – or who – is Nick thankful for?

Includes strong language

Cast: Richard Nichols
Director: Rhian Blythe
Dramaturgy: Alice Eklund
Producer: Lois Gwenllian
Stage Manager: Ffen Evans
Captioner: Elin Phillips

Enfys is one of BBC Cymru and Theatr Genedlaethol Cymru’s Dramâu Micro. This project is part of Creu Ar-lein, Theatr Genedlaethol Cymru’s new programme in response to the coronavirus emergency and the challenge of creating original dramatic work during lockdown.

CoDI one2one: Ashley John Long – my way is in the sand flowing

CoDI UN-i-UN yw cyfle Tŷ Cerdd a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddwyr mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud presennol yn y DU yn sgil pandemig y coronafeirws.
Yn dilyn galwad agored, cafodd 10 cyfansoddwr sy’n wynebu’r cyfyngiadau symud yng Nghymru’n eu dethol i gyfansoddi darn munud neu ddwy ar ei hyd i offeryn cerddorfaol unigol – ac yn cael cynnig ffi gomisiwn o £100. Cafodd pob cyfansoddwr ei baru ag aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a fydd yn recordio’r gwaith newydd yn ei gartref ei hun.
Menter datblygu cyfansoddwyr Tŷ Cerdd yw CoDI a bydd Tŷ Cerdd yn cynnig cefnogaeth a mentora i artistiaid yn ystod y broses gyfansoddi. Bydd pob artist yn derbyn recordiad o’r gwaith sy’n deillio o hyn a bydd Tŷ Cerdd yn cynnig cyhoeddi’r gwaith gyda gwasgnod Cyhoeddiadau Tŷ Cerdd.

Quiet Marauder – Eggs!

Eggs! is available on all digital platforms from 17th JUNE 2020.
Filmed and edited by Kadesha Drija.

Crysau T Candelas | Candelas T Shirts

Cliciwch ar y linc yma i brynu t shirt Candelas, yn barod ar gyfer #DyddCrysauTBandsCymru 12.06! -> https://candelas.bigcartel.com Click on this link to buy a Candelas t-shirt, ready fro #WelshBandsTShirtDay 12.06! -> https://candelas.bigcartel.com

Crysau T Lewys / Lewys T Shirts

I brynu’r crys T ac i weld mwy o merch Lewys ewch i >>> lewys.bigcartel.com Cyfle i gael CD am ddim gyda pob crys T tan 19 Mehefin 2020. To buy the tshirt and to see more merch from Lewys go to >>> lewys.bigcartel.com Get a CD for free with every tshirt until 19 June […]

Crysau T Quiet Marauder / Quiet Marauder T Shirts

I brynu’r crysau T ac i weld mwy o nwyddau Quiet Marauder ewch yma >> https://bubblewrapcollective.co.uk/product/quiet-marauder-eggs-t-shirt/ To buy this t-shirt and to see more Quiet Marauder merch go here >> https://bubblewrapcollective.co.uk/product/quiet-marauder-eggs-t-shirt/

Crysau T Yr Eira / Yr Eira T Shirts

I brynu’r crys T ac i weld mwy o merch Yr Eira ewch i >>> yreira.bigcartel.com To buy the tshirt and to see more merch from Yr Eira go to >>> yreira.bigcartel.com

Crysau T Georgia Ruth / Georgia Ruth T shirts

Ewch i brynu’r crys T ac i weld mwy o nwyddau Georgia Ruth yma >> https://georgiaruth.co.uk/product/georgia-ruth-t-shirt/ Holl elw’r crysau T yn mynd i www.blackmindsmatteruk.com & www.womensaid.org.uk/

Panic Shack Tshirt!

Ewch i weld mwy o merch Panic Shack yma / Check out more Panic Shack merch here https://panicshack.bigcartel.com/

Beth yw Braint Pobl Gwyn?

Beth yw Braint Pobl Gwyn? Dydy braint pobl gwyn ddim yn golygu nad yw dy fywyd di wedi bod yn anodd, ond mae’n golygu nad yw lliw dy groen wedi gwneud dy fywyd yn anoddach. Mae’n golygu pan rwyt ti’n mynd i siop, rwyt ti’n gweld bod y prif arddangosfeydd gwallt a chroen ar gyfer […]

Enfys – Elin Fflur

Sengl newydd ‘Enfys’ allan 5 Mehefin ar Recordiau Jigcal gyda’r holl eli i gyd yn mynd i’r elusen Tarian Cymru https://tarian.cymru/

New single ‘Enfys’ out 5 June on JigCal Records with all proceed to go to Tarian Cymru Charityhttps://tarian.cymru/

Sesiwn Tŷ Papur Wal

Clips random o Sesiwn Tŷ Papur Wal ar gyfer Sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru, 28/05/2020.

Recordiwyd tair demo; Llyn Llawenydd, Andrea a Fi ac Arthur ar wahân yn ystod lockdown coronavirus. Gitar, bas, lleisiau yng Nghaerdydd a’r dryms yn Y Felinheli.

Holl hawliau yn nwylo Vita Food Basil Seed Drink Original Mint Flavour. Diolch.
Diolch mawr i Gwilym Huws am olygu’r fideo.

Llên Natur – Bwletin 148 (Mehefin 2020)

Yn y rhifyn hwn:
? Awch y glân cwlltwr
? Gwanwyn Gwlyb a Sych 2020
? Straeon Pengamfa Greta Huws
? Clwb y Llygaid Bach – Glöynnod Byw
a llawer mwy…

Darllenwch y Bwletin llawn YMA

Medusa.

Ma stori hi yn clymu mewn gyda’r symudiad #metoo

Celf a Diwylliant Cymru | Arts and Culture in Wales

Ymunwch â Celfyddydau Rhyngwaldol Cymru 1-8 Mawrth, i edrych ar sut mae gwneud y #PethauBychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n cymuned, ein planed, a’n lles, a sut mae’r celfyddydau yn ganolog i hwn.

Join Wales Arts International 1-8 March in highlighting how doing the #SmallThings can make a real difference to our community, to our planet and to our own well-being, and how the arts is central to this .

IAITH, DIWYLLIANT A DIASPORA: WYTHNOS CYMRU DULYN 2020 | LANGUAGE, CULTURE AND DIASPORA: / WALES WEEK DUBLIN 2020

Cyflwynodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd rhaid canslo digwyddiadau ddiwedd yr wythnos o ganlyniad i’r coronafeirws.
Mewn partneriaeth â gŵyl Lleisiau Eraill, bûm yn archwilio themâu ymfudo a hunaniaeth yng Nghymru ac Iwerddon, dylanwad ein hieithoedd a’n diwylliant ar lwyfan rhyngwladol, a sut rydyn ni’n cysylltu ac ailgysylltu â’n Cymry ar wasgar. 
Diolch i’r cyfranogwyr Huw Stephens, Philip King (Gŵyl Lleisiau Eraill), Bethan Kilfoil (RTÉ), Laoise Kelly, Lauren Ní Chasaide a Georgia Ruth.

Gŵydd a’i Gacennau

Dewch i glywed stori Gŵydd a’i Gacennau yn cael ei darllen gan Lowri Siôn. Sut mae Soffi, gŵydd a’u ffrindiau yn mynd i godi arian i brynu llyfrau i’r dosbarth?

REIC x Y Stamp: Wythnos Cymru Dulyn | Wales Week Dublin 2020

Cyflwynodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd rhaid canslo digwyddiadau ddiwedd yr wythnos o ganlyniad i’r coronafeirws.
Y digwyddiad cyntaf oedd REIC x Y Stamp: Perfformiad Barddoniaeth a’r Gair Llafar, noson amlieithog o farddoniaeth a’r gair llafar i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol hen a newydd rhwng y ddwy genedl. Gan ddarparu llwyfan i’n hieithoedd cynhenid, roedd y digwyddiad hwn yn arddangos doniau llenyddol Cymreig a Gwyddelig.

Cwning-Od: Glaw a Hindda

Dewch i ddysgu am y tywydd yn y stori fer hyfryd hon am y Cwning-Od: Glaw a Hindda, sy’n cael ei darllen yma gan Georgia Ruth. Addasiad dwyieithog Efa Mared Edwards o lyfr David Melling, Funny Bunnies: Rain or Shine.
Learn about the weather with the pogo-stick-loving Funny Bunnies in this heart-warming short story read here in Welsh by Georgia Ruth. This is a bilingual adaptation by Efa Mared Edwards of Funny Bunnies: Rain or Shine by David Melling.