Enfys
gan / by Melangell Dolma
Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru
Mae enfysau ym mhob man yn awr. Enfysau o ddiolch i’n gweithwyr allweddol ac i’r GIG.
Ond wrth geisio cwblhau ei waith cartref ar gyfer ei wers Gymraeg, am beth – neu bwy – mae Nick yn ddiolchgar?
Yn cynnwys iaith gref
Cast: Richard Nichols
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Dramatwrgiaeth: Alice Eklund
Cynhyrchydd: Lois Gwenllian
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Capsiynydd: Elin Phillips
Mae Enfys yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.