Un Noson Olaf – Mari Elen

Yr Artist Amlgyfrwng, Mari Elen ydi ein gwestai ar gyfer pennod rhif tri. Mae Mari yn trafod bwyd Mecsicanaidd, Madame Tussauds Cymraeg a Beyonce.
BROcast Ysgol Y Moelwyn:- Cymuned
Dyma ffilm gam Gamallt oedd yn cystadlu yn cystadleuaeth BROcast yn Ysgol y Moelwyn i’r eisteddfod ysgol. Ffilm gwych ac wedi tynnu ser cymraeg i fod yn rhan ohonno. Amazing o job
Un Noson Olaf – George Amor

Y cerddor ac aelod newydd o staff, George Amor ydi ein gwestai ar gyfer yr ail bennod. Mae George yn trafod gigs yn y sinema, Star wars a bwyta pysgod cregyn.
Coleg Cymraeg

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio yn effeithiol mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.
Menter Iaith Abertawe | Tŷ Tawe

Mae Tŷ Tawe yn lleoliad cerddoriaeth a digwyddiadau byw yng nghanol dinas Abertawe. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i gaffi, siop a swyddfeydd, ac yn cynnig canolbwynt i’r iaith Gymraeg yn y ddinas. Mae’r sianel hyn yn cael ei rhedeg gan staff Menter Iaith Abertawe.
BROcast: DIWYLLIANT YMYSG DIWYDIANT
Dathliad o ddiwylliant Bro Ffestiniog yng Ngŵyl Lechi 2018. / A celebration of Bro Ffestiniog’s culture at ‘Gŵyl Lechi’ 2018.
Menter Bro: Y Pengwern
Cipolwg ar sut mae pobl Llan Ffestiniog wedi llwyddo i gymryd perchnogaeth yn eu cymuned wrth iddynt brynu a rhedeg y dafarn leol sy’n galon i’r pentref.
Mudiad Meithrin

Elusen sy’n arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Gan fod chwarae yn sylfaenol i bob agwedd o ddatblygiad plant, mae’r profiadau a’r gweithgareddau a gynigir ar draws holl ystod ein darpariaethau wedi eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae ein darpariaethau yn cynnwys Cymraeg i Blant, Cylch Ti a Fi, Cylch Meithrin a Meithrinfeydd […]
Mudiad Cymunedol Cymru
Amrywiaeth o leisiau yn trafod sefydly Mudiad Cymunedol Cymru.
Cysylltwch Cwmnibro@Cwmnibro.cymru am fwy o manylion ac ymuno yn y sgwrs.
BROcast Ffestiniog

Croeso i BROcast Ffestiniog. Cynnwys gwreiddiol gan bobl lleol. Mae BROcast Ffestiniog yn darlledwr cymunedol sy’n cael ei arwain gan cymunedau a bobl Blaenau Ffestiniog a’r pentrefi cyfagos. O fewn radiws o 10 milltir a tua 8,000 o boblogaeth mae straeon, gobeithion, heriau a cyfleon di-rif! Ein nod ydi rhannu, gweld, gwrando, cyd-dysgu, a gweithredu. […]
Un Noson Olaf – Rhys Grail

Yr artist, cerddor a ffotograffydd Rhys Grail yw’r gwestai cyntaf ‘Un Noson Olaf’ yn trafod gyozas, artistiaid dychanol a chynnig tatŵs am ddim mewn gig…
Galeri Caernarfon

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu. Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod:”unrhyw beth yn bosibl…drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy“. Datblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad […]
Canolfan a Theatr Soar

Agorwyd drysau Theatr Soar yn swyddogol ym Mis Mehefin 2011 gyda chyfres o berfformiadau a digwyddiadau i’w lansio. Theatr Gymunedol yw hon ar gyfer cymunedau Merthyr Tudful a’r cyffiniau. Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu adnodd ar gyfer y cymunedau a’r unigolion amrywiol yma, rydym yn cynnal ystod eang o berfformiadau a digwyddiadau. Mae […]
Crip Talks: The Importance of the Welsh Language to Disability Empowerment
Crip Talks: The Curator’s Stare
Crip Talks: Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Crip Talks: Autism with Temple Grandin
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Tip Cymraeg y Mis – Chwefror 2021

Apiau defnyddiol i helpu unrhyw un sydd am ymarfer neu roi sglein ar ei Cymraeg!
Mentrau Iaith

Rhwydwaith o grwpiau cymunedol yw’r Mentrau Iaith sy’n gweithio at gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae 22 Menter Iaith wahanol dros Gymru yn trefnu gweithgareddau a phrosiectau er mwyn ein helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg. Mae’r Mentrau Iaith i bawb. Pora trwy’r categorïau isod am flas o weithgareddau […]
Un dydd ar y tro

Ymerferiadau llesiant meddyliol dyddiol i blant ysgol gynradd, gyda Leisa Mererid.
Cewch gopi o werslyfr un dydd ar y tro YMA.
Dysgu Cymraeg

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am bob agwedd o’r maes Dysgu Cymraeg. Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos, gyda’r mwyafrif yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd. Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal gan 11 o ddarparwyr cwrs ar draws Cymru. Gallwch ddod o hyd i gwrs drwy fynd i’r wefan dysgucymraeg.cymru.
Cyrsiau Cymraeg rhithiol | Virtual Welsh courses

Mae gennym lefydd gwag ar ein cyrsiau dwys rhithiol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Dysgwch Gymraeg gyda Chanolfan Iaith eiconig Cymru am 1/3 o’r pris arferol, a hynny o’ch cartref. Cyrsiau amrywiol ar gyfer pob lefel. Cliciwch YMA am fwy o fanylion.
Shwmae, Su’mae!

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf ar Hydref 15ed, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Mae’r Diwrnod yn cael ei ddathlu pob blwyddyn erbyn hyn ar y 15fed o Hydref.
Nant Gwrtheyrn
Taith sydyn o amgylch y safle | A short site tour
– Mehefin | June, 2020
Gwrachod Heddiw

Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru. Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol yr 16eg ganrif.
CROESO I BROcast
This content is in Welsh only.
Mas ar y Maes

Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Stonewall Cymru.
Bwriad y prosiect yw cynyddu gwelededd a phresenoldeb materion LHDT ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth mewn rhwydweithiau a gofodau lle caiff y Gymraeg ei defnyddio, a chynhelir gweithgareddau o bob math ar hyd a lled Maes yr Eisteddfod.
Mae rhaglen Mas ar y Maes yn cynnwys trafodaethau, perfformiadau, darlleniadau a llawer mwy – o adloniant ysgafn i sgyrsiau dwys a difyr.