Pwy Sy’n Galw ? – Band Pres Llareggub

Pwy Sy’n Galw? fersiwn Band Pres Llareggub o albym Big Leaves allan 27.8 ar Recordiau Mopachi.
Dydd Crysau T Bands Cymru | Welsh Band T Shirt Day

#dyddcrysautbandsCymru
16/07/2021
Celf gan Mari MythsNTits
Menter Iaith Abertawe | Tŷ Tawe

Mae Tŷ Tawe yn lleoliad cerddoriaeth a digwyddiadau byw yng nghanol dinas Abertawe. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i gaffi, siop a swyddfeydd, ac yn cynnig canolbwynt i’r iaith Gymraeg yn y ddinas. Mae’r sianel hyn yn cael ei rhedeg gan staff Menter Iaith Abertawe.
Aros I Fi Yna – N’famady Kouyaté

‘Aros I Fi Yna’ ydy EP cyntaf N’famady Kouyaté. Yn wreiddiol o Guinea Conakry, mae cerddoriaeth N’famady wedi ei wreiddio yn nhraddodiadau Mandingue, ei famwlad yng Ngorllewin Affrica, gyda dehongliadau newydd o fywyd ac egni yn deillio o ddylanwadau indi, pop a jazz ei gartref newydd yng Nghymru. Allan 30.07 ar Recordiau Libertino. Rhag-arbedwch ‘Aros […]
Hyll – Ar Draws y Bydysawd
Trac oddi ar ein EP newydd, Mymryn, fydd yn cael ei rhyddhau ar 23.07.21 Ar Draws Y Bydysawd, feat. Meg Cox a Rhodri McDonagh ar y ffidl Mymryn “Dyma gasgliad o ganeuon wedi eu cyfansoddi dros y 5 mlynedd dwethaf. Mae pob can yn bodoli fel byd bach eu hunain ond yn dod at ei […]
Sywel Nyw ft. Lauren Connelly – ‘10/10’ – Adolygiad

Mae’r trac agored, digywilydd with Sywel Nyw a Lauren Connelly yn enghraifft adfywiol o’r potensial sydd gan gerddoriaeth Gymraeg.
Y Cledrau – Disgyn ar fy Mai
Fidio ar gyfer trac cynta albym newydd Y Cledrau, a’r gân sydd â’r llinell a roddodd y teitl “Cashews Blasus” iddi. Dyma gasgliad o fidios personol y pedwar, wedi’i olygu at ei gilydd gan Rhys Grail – sy’n gofnod o flwyddyn a hanner o anturiaethau gwirion a’r broses o roi meddyliau gorffwyll at ei gilydd […]
Pedr ac Ioan

Yn yr 1840au cynnar, mae dieithryn yn cynnau teimladau cudd yn Ioan. Ffilm fer gan Jonny Reed, sain gan Peter Harding. Comisiwn newydd gan Mas ar y Maes ar gyfer Mis Hanes LDHT 2021 Noder: Mae’r ffilm yn cynnwys rhai elfennau rhywiol
Gwenno Morgan – Cyfnos | Sesiwn Byw / Live Session | I KA CHING
Yn cyflwyno 3 trac oddi ar EP cyntaf Gwenno Morgan, ‘Cyfnos’. Dyma’r sesiwn fyw o T, Lloergan a Gorwel.
Piano – Gwenno Morgan (@gwennomorgan)
Viola – Lara Wassenberg (@larawassenbergmusic)
Bass Guitar – Scott Caldwell-Nichols (@scaldwellnichols)
Drums – George Topham (@tophamgeorge)
Diolch yn fawr i / thank you very much to:
Fiming: Tom Desré-Crouch, Katie Jackson
Video Editing: Tom Desré-Crouch
Sound Recording & Mix: Joe Lilley, Edd Mitchell
Venue – Leeds Conservatoire, Leeds, West Yorkshire
rhys evan – arcade running – o’r “tiny house” EP
Croeso i’r wythdegau: Hunangofiant cymuned rithiol

– Nerys Williams
Llun: Portread o Dave Datblygu gan Mike Walters
#ArchifPedwarGwynt
‘Rhywle fel Hyn’, Dafydd Iwan
Sgwrs gyda Dafydd Iwan am ei gyfrol ddiweddarf sy’n datgelu’r hanesion y tu ôl i gyfansoddi nifer o’i ganeuon.
Anthem Cymru

Gweledigaeth Anthem yw creu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Ein nod yw cefnogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o’r diwydiant cerddoriaeth ac sy’n gobeithio datblygu creadigrwydd. Fforwm Ieuenctid – Mae Fforwm Ieuenctid Anthem yn dod â 12 o bobl ifanc greadigol 16-24 oed at ei gilydd o gymysgedd o […]
Mudiad Meithrin yn 50! – Rhan 4
Croeso nôl ffrindiau! Ydych chi erioed wedi meddwl o ble ddaeth yr enw Balalŵn? Wel, heddiw mi fydd Dewin a Doti yn esbonio wrth iddyn nhw, Martyn Geraint a Siani Sionc deithio nôl i’r 00au! #GŵylDewinADathlu
Lein-yp Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021

Sesiwn Fawr ar ffurf digidol yn ffrydio ar 17 Gorffennaf 2021
FLUX

Cydweithrediad Clyweledol rhwng Jussi Alaraasakka a Jorge Lizalde. Bwriad y prosiect yw goresgyn rhwystrau technegol y rhyngrwyd a chreu platfform ar gyfer cydweithio clywedol a gweledol ar draws y wê ble bynnag y bônt. Mae Jussi Alaraasakka yn gynhyrchydd sain a cherddoriaeth wedi’i leoli yn Oulu, y Ffindir. Mae Jorge Lizalde yn gynhyrchydd delwedd a fideo […]
Gig Al Lewis

GIG BYW | LIVE GIG
AM DDIM | FREE
11.06.21 | 19.30
Gwalaxia – Ffrancon
Gwyliwch y fideo i sengl newydd Ffrancon ‘Detroit Chicago New York Machynlleth’ sydd allan nawr ar Ankst Musik.
Maltbarn Recordings

Stwidio recordio a label o Ganolbarth Cymru. Cleientiaid yn cynnwys Grace Carter, Rudimental, Dermot Kennedy, Cleo Sol, Sampa The Great, Koz, InFlo, The23rd
rhys evan – hailstones
EÄDYTH ar Radio 1!

Mae’r gantores yn rhyddhau dwy sengl, perfformio ar lwyfan rhyngwladol ac yn cael slot ar ‘Big Weekend’ Radio 1 y BBC y penwythnos hwn
– Gan Barry Thomas
Cowbois Rhos Botwnnog – Tafwyl 2021

Ers iddynt ffurfio yn 2005, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau pedair record hir ac wedi perfformio ar hyd a lled y byd. Cafodd eu trydedd record, ‘Draw Dros y Mynydd’, ei henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2012, a’r llynedd bu’r band ar daith ledled Cymru i ddathlu deng mlynedd ers rhyddhau […]
DJ Gareth Potter – Tafwyl 2021

Yn DJ ar llawr ganol Clwb Ifor Bach ar Nos Sadwrn am bron i 15 mlynedd, mae Gareth wedi defnyddio’i sgiliau troelli i rocio partïon mewn bariau, clybiau a gwyliau led led Cymru a’r byd. O Latitude i Camp Bestival a Gwyl Rhif 6, o Ibiza i Tokyo, mae Gareth wrth ei fodd cael bod […]
Geraint Jarman – Tafwyl 2021

Nid oes unrhyw un a all gymharu gyda effaith a dylanwad enfawr Geraint Jarman ar gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf. Fel cyfansoddwr, bardd, perfformiwr a chynhyrchydd teledu hynod wreiddiol, mae wedi cael effaith ddiffiniol ar bob degawd o hanes diwylliant ieuenctid Cymraeg. Cafodd ei eni yn 1950, a’i ysbrydoli gan weld Bob Dylan […]
Glain Rhys – Tafwyl 2021

Wedi dwy flynedd o fethu’n lân a ‘sgwennu ar ôl rhyddhau ei halbwm ‘Atgof Prin’ yn 2018 (Sain) mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd a’r addewid o albwm erbyn yr haf. Roedd Glain yng nghanol rhediad o’r sioe ‘Phantom of the Opera’ yng Ngroeg gyda chast o’r West End pan alwyd […]
Lewys – Tafwyl 2021

Mae llawer wedi newid ers gwreiddiau Lewys fel prosiect unigol nol yn 2017. Ers dwy flynedd bellach, mae Lewys nawr yn fand, gyda’r aelodau (Lewys, Iestyn, Ioan, Gethin) i gyd yn cyfrannu at yr ysgrifennu, yn ogystal a chwarae sioeau byw anhygoel. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf ‘Rhywbryd yn Rhywle’ ym mis Mawrth 2020, sy’n cynnwys […]
Gwilym – Tafwyl 2021

Mewn pedair blynedd, mae Gwilym wedi hoelio eu hunain fel un o fandiau mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru gyda chaneuon fel ‘Catalunya’ a ‘Neidia/’ yn cael eu clywed ar y radio fyth a beunydd. Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, ‘Sugno Gola’ (2018), a llu o wobrau, maen nhw’n brysur yn recordio eu hail […]
Derw – Tafwyl 2021

Sefydlwyd Derw gan ddeuawd mam a mab, y gitarydd Dafydd Dabson a’r delynores Anna Georgina, yn dilyn eu llwyddiant wrth gyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru yn 2018, y tro cyntaf iddynt sgwennu efo’i gilydd. Elin Fouladi, y gantores Gymraeg/Iraniaidd sy’n arwain Derw, gyda cherddorion o fandiau Cymraeg fel Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers […]
Ani Glass – Tafwyl 2021

Ani Glass yw enw llwyfan y cerddor electronig, cynhyrchydd ac arlunydd, Ani Saunders o Gaerdydd. Mae Glass yn canu yn y Gymraeg a’r Gernyweg ac ym mis Mawrth 2020 rhyddhawyd ei halbwm gyntaf ‘Mirores’. Yn ogystal â derbyn llawer o ganmoliaeth, fe wnaeth hefyd ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn a chyrraedd rhestr fer y Wobr […]
Eädyth – Tafwyl 2021

Mae Eädyth yn prysur ddod yn enw adnabyddus i wrandawyr BBC Wales a BBC Radio Cymru oherwydd ei sain electro enaid unigryw a’i delyneg ddwyieithog. Yn 2020, derbyniodd amser awyr hefyd gan KISS FM a BBC Radio 1. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Eädyth wedi bod yn rhan o gynlluniau datblygu talent BBC Horizons […]
Emezi – Tafwyl 2021

Deuawd o ddwy ferch ifanc, Perynn Bleunven ac Elise Desbordes yw EMEZI (“dywed hi” yn Llydaweg). Mae eu cerddoriaeth yn cael ei chanu mewn Llydaweg er nid yw ei genre wedi’i ysbrydoli gan draddodiad. Mae Elise yn chwarae’r allweddelli a Perynn yr offerynnau taro, ond yn sicr defnyddio eu llais yw’r angerdd, ar ôl canu […]
Breichiau Hir – Tafwyl 2021

Band o Gaerdydd sy’n creu caneuon roc trwm sy’n ffrwydro gyda emosiwn. Mae gallu’r band i neidio o ddarnau bregus a thawel i daranu egnïol a swnllyd yn siapio steil y band. Mae elfennau a dylanwadau o gerddoriaeth post-hardcore, punk, emo, indie rock a post-rock gyda’r band, ond dyw’r band ddim yn ffitio’n berffaith mewn […]
Mared – Tafwyl 2021

Rhyddhawyd albym unigol cyntaf Mared, ‘Y Drefn’ ynghanol 2020 ar Recordiau I KA Ching. Gyda amrywiaeth mawr o ddylanwadau, mae’r albym yn mynd ar daith trwy genres gwahanol, yn cychwyn gyda cyfuniad o werin a phop yn ‘Y Gwydr Glas’ a ‘Y Reddf’ ac yna yn symud tuag at arddulliau jazz a soul gyda ‘Pontydd’ […]
Mali Hâf – Tafwyl 2021

Merch o Gaerdydd ydy Mali ac mae wedi bod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Leeds. Er hynny, galwodd hiraeth hi’n ôl i Gaerdydd i geisio datblygu ei gyrfa gerddorol. Daeth y symudiad ychydig yn gynharach na’r bwriad oherwydd Covid a’r clo mawr, a gyda hynny penderfynodd newid ei henw llwyfan hefyd o Mali Melyn i’w […]
Bwncath – Tafwyl 2021

Ffurfiwyd yn 2014 yn ardal Caernarfon. Rhyddhawyd ein albwm gyntaf, Bwncath, yn haf 2017 a daeth yr albwm ddiweddaraf, Bwncath II, allan ym mis Mawrth 2020. Cafodd yr albwm gyntaf ei chynhyrchu gan Robin Llwyd – a fo ac Elidyr wnaeth recordio bron â bod popeth sydd arni. Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy […]
Plu – Tafwyl 2021

Brawd a dwy chwaer – Elan, Marged a Gwilym Rhys o ardal Caernarfon yng Ngogledd Cymru yw’r grwp Plu. Mae Plu yn fand werin-bop amgen ac mae harmoni agos 3 rhan yn asgwrn cefn cyson i’w set amrywiol. Mae’r band yng nghanol cynhyrchu eu pedwaredd albwm gyda chaneuon gwerinol ag Americana i’w disgwyl hwyrach eleni.
Thallo – Tafwyl 2021

Clywir gwraidd o arddull jazz, gwerin ac electronig yng ngherddoriaeth Thallo, sef prosiect Elin Edwards. Gyda chaneuon yn y Gymraeg a Saesneg, mae sain cyfoethog yn cael ei blethu’n ofalus rhwng ei llais a chyfeiliant band mewn trefniannau cymhleth. Gwnaeth sengl ‘I Dy Boced‘ sefydlu Thallo fel “un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru” yn ôl […]
‘Sa neb fel ti

Perfformiad arbennig o gȃn diweddaraf Eden, ‘’Sa neb fel ti’ gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg Caerdydd dan arweiniad Cymry talentog y West end.
Trefnir y sesiwn gan The Welsh of the West End.
Ysgolion | Schools

Perfformiadau gan ysgolion Cymraeg Caerdydd.
TAFWYL DIGIDOL 2021 AR AM

🗓️ 15.05.21
📍 Castell Caerdydd | Cardiff Castle
📲 Gŵyl ddigidol yn ffrydio’n fyw ar AM | Digital festival streaming live on AM
ℹ️ Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan! | More info coming soon!
Amserlen #Tafwyl21 Schedule

CERDDORIAETH BYW ▪︎ SGYRSIAU ▪︎ GWEITHGAREDDAU PLANT ▪︎ BWYD A DIOD ▪︎ MARCHNAD ▪︎ PERFFORMIADAU YSGOLION
15.05.21
TAFWYL 2021
Tafwyl yn cynnal gŵyl gerddorol fyw cyntaf Cymru ers cychwyn y pandemig.
Hei Be Sy – Y Cledrau
Fideo gerddoriaeth i sengl newydd Y Cledrau ‘Hei Be Sy’ allan 14 Mai ar Recordiau I KA CHING. Music video for Y Cledrau’s new single ‘Hei Be Sy’ out 14 May on I KA CHING Records.
Don Ya Ya – Pale Moon
Fideo gerddoriaeth i sengl newydd Don Ya Ya ‘Pale Moon’, allan ar 14 Mai. New music video for Don Ya Ya’s new single ‘Pale Moon’ out 14 May.
I Love Nature Now
Carys Eleri sings about falling in love with a tree in Lockdown. A stark contrast to ‘He Dumped Me on Zoom.’ Written and performed by Carys Eleri. Music Produced by Branwen Munn Shot & Edited by Griff Lynch and Daf Hughes. Commissioned by Little Wander Events and Aberystwyth Comedy Festival.
Merched yn Gwneud Miwsig – Branwen Williams

Yn bennod olaf yr ail gyfres o’r podcast, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda’r artist a sylfaenydd label I KA CHING – Branwen Williams. O dyfu fyny yn Llanuwchllyn a phrofi’r creadigrwydd o’i chwmpas hi, i ddilyn ei thad a mam o gwmpas theatrau Cymru a dysgu oddi wrth fenywod eraill Cwmni Maldwyn. Dechreuodd ei […]
TAFWYL 2021

🔴 Yn Fyw
🏰. Cerddoriaeth byw yn ffrydio o Gastell Caerdydd.
⏰. 12:30-21:00
Gig – Gwyneth Glyn

Ymunwch â Gwyneth Glyn ar Sadwrn Siarad wrth iddi berfformio ei chaneuon a chael sgwrs hefyd, mewn gig arbennig fydd yn cael ei ffrydio ar AM.