Gweledigaeth Anthem yw creu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Ein nod yw cefnogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o’r diwydiant cerddoriaeth ac sy’n gobeithio datblygu creadigrwydd.
Fforwm Ieuenctid – Mae Fforwm Ieuenctid Anthem yn dod â 12 o bobl ifanc greadigol 16-24 oed at ei gilydd o gymysgedd o genres a chefndiroedd cerddorol i weithio gyda ni dros gyfnod o flwyddyn. Gyda’n gilydd, rydym ni’n dod o hyd i ffyrdd newydd i helpu Anthem i dyfu a rhoi ein nodau a’n gwerthoedd ar waith.
Ymchwil – Rhan allweddol o waith Anthem yw lobïo dros ac arwain ymchwil i effaith cerddoriaeth ar bobl ifanc yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â phobl ifanc a gyda sefydliadau sector eraill.
Cefnogi chi – Mae Anthem wrthi’n codi arian i’ch cefnogi chi ar eich taith trwy gerddoriaeth yng Nghymru.