Cyngerdd Comisiynau’r Ŵyl & Beethoven Archduke Trio Rhan1 / Part 1

Bydd y cyngerdd ar gael i’w wylio yma o ddydd Sadwrn, 16 Hydref 2021, 7:30pm ymlaen
Cyngerdd Carnival of the Animals gan Saint-Saëns

Bydd y cyngerdd ar gael i’w wylio yma ar ddydd Sul, 17 Hydref 2021, 6:30pm
Forté 7

Forté is seeking 10 new acts from across Wales to join the project for 2021-22. This new twelve-month programme will offer professional industry support and opportunity to ten selected Wales-based acts, between the ages of 16-25, designed to accelerate their early careers in the music industry.
Deadline: 18/10
Music Theatre Wales

Mae Music Theatre Wales yn newid y ffordd y mae opera a theatr gerddoriaeth yn cael eu gwneud a’u dirnad trwy ymwneud â’r rhai sy’n eu creu ac â’r gynulleidfa: Ymestyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol; Ymateb i’r gymuned a’i hadlewyrchu; Dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.
New Directions: The House of Jollof Opera
Mae Adeola yn egin gogydd. Daw â steil a’i arbenigedd yw jollof fegan. Mae Asha yn rheolwraig flinedig a gweithgar mewn caffi lleol. A fydd rhwystrau meini prawf ei swydd yn atal Adeola, ynteu ai ef yw’r cynhwysyn coll?
Croeso i The House of Jollof Opera, sydd wedi’i ysgrifennu gan Tumi Williams fel ffordd o archwilio ac ehangu’r ffurf operatig, a dan gyfarwyddyd Sita Thomas, cyfarwyddwr amlddisgyblaethol. Mwynhaodd y ddeuawd greadigol y profiad o ddatblygu eu perthynas gydweithredol, gan gyfrannu eu treftadaeth ddiwylliannol eu hunain at y darn, ac ymgysylltu ag opera gyfoes yng Nghaerdydd.
IN CONVERSATION: Papur Wal

It feels odd to say the least, learning Papur Wal means ‘wallpaper’ in English. Such a pedestrian and nothing sort of word, incidental really. One loitering in the background and shying away from centre stage, and yet with Papur Wal the band, we find the exact opposite. They’re a strong and impressive musical and cultural […]
Kate Newnham – Y Nos
Mali Haf: Diverse Vinyl

Wedi’i recordio yn un o siopau recordiau annibynnol Casnewydd, dyma gyfle prin i wylio perfformiad byw o ganeuon hudolus Mali Haf.
Los Blancos: Le Pub

Yn perfformio caneuon oddi ar eu EP newydd sbon yn fyw am y tro cyntaf, daw perfformiad acwstig Los Blancos o un o gig-fannau prysura’ Casnewydd – Le Pub.
Lily Beau: Canolfan Gelfyddydol Glan yr Afon

Dyma Lily Beau yn perfformio ambell i glasur o Theatr Gelfyddydol Glan yr Afon, lle mae sirioldeb ei llais yn serennu.
S A I B

Wedi’i harwain gan Ceri Lloyd, dyma flas ar sesiynau S A I B – gwagle llesol sy’n ymarfer hunanofal. Yn ymwybodol o straen a phrysurdeb bywyd bob dydd, mae Ceri yn ein tywys, ein cefnogi a’n hysbrydoli i lacio’r ysgwyddau a thawelu’r meddwl gydag ymarferion anadlu.
Sôn am Sîn: Uchafbwyntiau 2021

Mae Gethin Griffiths, Tegwen Bruce-Deans a Chris Robaij wedi hen arfer trafod, dadansoddi ac adolygu’r gerddoriaeth ddiweddara’ o Gymru. Mewn fideo arbennig ar gyfer Gŵyl Newydd 2021, maent yn mynd ati i bori drwy gynnyrch y misoedd diwethaf gyda chrib man.
Eädyth: Y Bont Gludo

Mae Pont Gludo Casnewydd ymhlith y chwe phont gludo weithredol ledled y byd ac er ei bod wedi cau ‘giatiau i’r cyhoedd tan 2023, ffilmiwyd set electronig Eädyth o gondola’r bont arbennig hon.
N’famady Kouyaté: Amffitheatr Caerllion

O Guinea i Gaerllion, dyma berfformiad egnïol gan yr aml-offerynnydd a’r amlieithydd N’famady Kouyaté.
Awen BRO – Gwyl Car Gwyllt 2019
Golwg ar Gwyl Car Gwyllt 2019. Cymuned yn mwynhau penwythnos llawn o gerddoriaeth Cymraeg.
You and Me – Leri Ann
‘You and Me’ yw’r brif trac oddi ar EP cyntaf Leri Ann fydd yn cael ei ryddhau ar 24 Medi drwy Recordiau JigCal.
Llwybr Llaethog + Pys Melyn

Tŷ Tawe, Abertawe / Swansea, SA1 4EW
Fri 15th October 2021
Braint ac anrhydedd yw cael cyflwyno’r arloeswyr dub/electro Llwybr Llaethog yn Nhŷ Tawe ar nos Wener y 15fed o Hydref!
Hefyd yn ymuno mae Pys Melyn, sydd wedi rhyddhau heb amheuaeth un o recordiau gorau 2021 gyda “Bywyd Llonydd”.
Ymunwch gyda ni am noson arallfydol!
Huw Dylan – Fy Allwedd i Afallon
Huw Dylan – Cau’r Hen Le
Huw Dylan – Eirth
Huw Dylan – Lisa Lân
Huw Dylan – Cyflafan
Gig Rhithiol Avanc Online Concert

Gig arlein o Theatr Soar, Merthyr.
Medi 3ydd, 20:00
Kim Hon – EP sy’n llawn rhyfeddodau

“Dydan ni ddim yn cymryd ein hunain o ddifrif o gwbl ac mae hynna yn rhywbeth sy’n gweithio’n dda”
gan Huw Bebb
Focus Wales 2021

Mae FOCUS Wales nôl ac yn digwydd dros 7–9 o Hydref 2021!
.
Celfyddydau Anabledd Cymru

Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yw’r sefydliad arweiniol celfyddydau anabledd yng Nghymru, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau. Rydyn ni’n gweithio i greu a rhannu cyfleodd i’n haelodau cynhyrchu a chyflwyno gwaith. Rydym yn cynnal cymuned gefnogol sy’n annog artistiaid newydd a phrofiadol i rannu a chymryd rhan.
Saith Seren

Mae Saith Seren yn dafarn a Chanolfan Gymunedol Gymreig yn Wrecsam. Agorwyd y ganolfan yn 2012 fel lleoliad i unrhyw sy’n ymfalchïo, neu â diddordeb mewn Cymreictod, i gymdeithasu a dathlu ein diwylliant. Rydym yn cynnal gigiau Cymraeg trwy’r flwyddyn, a gwersi Cymraeg a Chlwb wythnosol i bobl ymarfer yr iaith. Rydym hefyd yn hyrwyddo […]
Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru

Wedi ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias ac o dan gyfarwyddyd artistig y pianydd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2020 (nawr yn digwydd yn 2021) yn cynnwys tair prif elfen – perfformiadau, cystadlaethau a gweithgareddau addysgol. Bydd yr ŵyl yn talu teyrnged i Ludwig van Beethoven a’i gyfraniad aruthrol i fyd […]
FIDEO NEWYDD | NEW MUSIC VIDEO: Arthur – Papur Wal
Fideo wedi ei greu gan Billy Bagilhole ar gyfer sengl Papur Wal – Arthur. Mae Arthur oddi ar eu halbym cyntaf hirddisgwyliedig – ‘Amser Mynd Adra’ sydd allan ar yr 8fed o Hydref.
Canu John Metcalf | Singing John Metcalf

Caryl Hughes (soprano), Paul Carey Jones (baritone) & Wyn Davies (piano)
Nos Wener, 13 Awst am 7:30yh
Ble Pierre – Tacsidermi
‘Ble Pierre’ yw ail sengl Tacsidermi / ‘Ble Pierre’ is Tacsidermi’s second single out on 13/08/21 Ffilmiwyd gan / Filmed by Hollie Singer Produced and Edited by Jon Mlynarski / Safari Art
Hedfan i Ffwrdd – Lisa Pedrick x Geth Tomos
Fideo gerddoriaeth newydd i sengl newydd Lisa Pedrick a Geth Tomos ‘Hedfan i Ffwrdd’. Diolch i Heno am greu’r fideo.
C E L Λ V I | DU HΛST | LIVE | FROM | CELLB | BLΛENΛU | FFESTINIOG

Perfformiad byw o ‘Du Hast’ yn Cellb.
Ffilmio gan Clinc-R! Diolch!
Curiadau Ystyr

Curiadau, Cerddoriaeth a Barddoniaeth Cymraeg
Gweithred Gobaith – Tecwyn Ifan

Fideo ar gyfer ‘Gweithred Gobaith’ sengl newydd Tecwyn Ifan – allan nawr ar Recordiau Sain
C E L Λ V I – CHESTER | LIVE | ONLINE | ΛND | LIVE | 2021
Aros I Fi Yna – N’famady Kouyaté

‘Aros I Fi Yna’ ydy EP cyntaf N’famady Kouyaté. Yn wreiddiol o Guinea Conakry, mae cerddoriaeth N’famady wedi ei wreiddio yn nhraddodiadau Mandingue, ei famwlad yng Ngorllewin Affrica, gyda dehongliadau newydd o fywyd ac egni yn deillio o ddylanwadau indi, pop a jazz ei gartref newydd yng Nghymru. Allan 30.07 ar Recordiau Libertino. Rhag-arbedwch ‘Aros […]
Pyst yn dy Glust – Richard Jones Fflach

Nannon a Rich yn trio gwneud sens o fyd gwych, hileriys a briliant yr ‘Emporiwm Recordiau Fflach’. Yn trafod y dechrau, diwedd ac atgyfodiad Ail Symudiad a Fflach, swyddfeydd a stiwdios amrywiol, cysylltiadau Fflach â’r Beatles, Kate Bush ac Elton John, Y Rifiera Gymreig ac hoff fandiau Rich.
Amser Mynd Adra – Papur Wal

Bydd ‘Amser Mynd Adra’ albym cyntaf Papur Wal allan 8.10 ar Recordiau Libertino
Geraint Rhys & Droja: Memories & Magic

Celf clawr / cover art: torri+gludo
Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021

📆 17.07.2021
🎥 Ffrydio ar AM | Available to stream on AM
🌐 www.sesiwnfawr.cymru
#SFDigiDol 2021
SFD 2021: Sesiwn Digi-Dol

Mae’r Sesiwn Fawr 2021 wedi mynd yn ddigidol!
Cewch fwynhau’r sesiynau cerddoriaeth, llên a chomedi yma o SFD 2021 ar alw o 12:00, 17.07.21 ymlaen.
Sesiwn Jazz

Ymunwch gyda Richy Jones a’i gyfeillion a Tacla yng Nghaffi T H, i ddechrau’r Sesiwn Fawr am 18:30 nos Wener 15/07/22. Mynediad hefo Tocyn Penwythnos SFD, NEU £5 ar y drws
O’r Pedwar Gwynt: ‘Dyfeisio traddodiad’, Sioned Webb

‘Mae popeth yn newid, ar wahân i’r tango’
Wrth ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr Piazzolla o’r Ariannin yn 100 oed eleni, Sioned Webb sy’n cymharu datblygiad y tango a cherddoriaeth draddodiadol yng Nghymru.
Wedi ei gomisiynu’n arbennig gan gylchgrawn llyfrau Cymru – O’r Pedwar Gwynt – fel rhan o ddathliadau Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021.
Hywel Pitts (14+)

Mae Hywel Pitts yn gyfansoddwr, cerddor a pherfformiwr Cymraeg. Mae hefyd yn canu gyda’r band I Fight Lions. Mae ei set yn cynnwys caneuon dychan a deunydd coch.
RHYBUDD: iaith gref (canllaw oed 14+)
Sesiwn Stori: Gwenfron o’r Talglyn

Bu Mair Tomos Ifans yn perfformio’n broffesiynol yng Nghymru a thu hwnt am dros 25 mlynedd. Mae’n adnabyddus o fewn y gymuned llên gwerin yng Nghymru. Dyma hi’n adrodd stori Gwenfron o’r Talglyn yn arbennig ar gyfer Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021.
ANKSTMUSIK : THE UNDERGROUND WELSH LANGUAGE ROCK SCENE 1985-1998 (wedi’i isdeitlo)
Ffilm ddogfen gan y diweddar Emyr Glyn Williams a gynhyrchwyd i ddathlu penblwydd Recordiau Ankst yn 1998, yn dilyn hanes cerddoriaeth roc iaith Gymraeg o dyddiau cynnar Recordiau Anhrefn i’r ffenomen Cool Cymru yn y nawdegau hwyr.
Cefnogi’r Sesiwn | Support

Mae holl sesiynau Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021 ar gael i’w mwynhau am ddim yma ar ein sianel AM.
Gobeithio y cewch flas o’r Sesiwn Fawr yma, ac y byddwn yn eich gweld hi yn Nolgellau flwyddyn nesaf wrth inni ddathlu pen-blwydd y Sesiwn yn 30!
Os hoffech chi gefnogi’r ŵyl, mae modd rhoi rhodd ariannol yma: CEFNOGI SESIWN FAWR DOLGELLAU
Diolch!