Wedi ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias ac o dan gyfarwyddyd artistig y pianydd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2020 (nawr yn digwydd yn 2021) yn cynnwys tair prif elfen – perfformiadau, cystadlaethau a gweithgareddau addysgol.
Bydd yr ŵyl yn talu teyrnged i Ludwig van Beethoven a’i gyfraniad aruthrol i fyd y piano wrth i 2020 nodi 250 mlynedd ers ei eni. Bydd themâu eraill yr ŵyl yn cynnwys canmlwyddiant marwolaeth Saint-Saëns yn 2021 a hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru.
Bydd yr Ŵyl yn gyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein a digwyddiadau byw yn Galeri Caernarfon.
Noddwr Anrhydeddus: John Lill CBE
Llywydd Anrhydeddus: John Metcalf MBE