Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dwi Ar Gau – Lleucu Non (Official Video)

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Lleucu Non – Dwi Ar Gau

Wedi i senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies greu argraff ar ddechrau’r flwyddyn, pleser cyhoeddi mai Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy UNTRO, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, allan ddydd Gwener 11eg Hydref.

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, a’n cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. Eglura Lleucu: “Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Wedi’i magu yn Nyffryn Nantlle a bellach yn byw yn Gaerdydd, ychwanega Lleucu: “Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog. Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

Out of Sight

Dawns Fertigol Kate Lawrence mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru a Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn cyflwyno

O’r Golwg 


Digwyddiad diwrnod o hyd i archwilio ymagweddau creadigol at fynediad gyda phobl â nam ar eu golwg, ac ar eu cyfer, yn Pontio, Bangor.

  • Dydd Sadwrn 16 Tachwedd
  • 10.30am – 5pm
  • Stiwdio / PL2 / Bocs Gwyn

  • Am Ddim

Dwi Ar Gau – Lleucu Non

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Comisiynau Celfyddydau | Arts Commissions 2024

Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru 2024

Ydych chi’n artist sy’n hunan-anabod yn anabl neu fyddar yng Nghymru? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn comisiynu wyth artist i greu gwaith, mewn unrhyw ffurf celf, sy’n rhannu eu profiad byw trwy greadigrwydd.

Sut brofiad yw bod chi’ch hun? Beth yw eich profiad byw? Pa safbwyntiau unigryw sydd gennych chi fel person anabl?

Rydym am i chi ddangos i ni trwy gynhyrchu celf ragorol, mewn unrhyw ffurf celf.

Byddwn ni’n dewis wyth artist i dderbyn £1250 yr un i helpu i ddod â’r syniadau hyn yn fyw.

Am fideo IAP a thaflen sain, ewch i: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/comisiynau

Yr amser gorau i ddarllen llyfr

Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy’n cynnwys stripper.

Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau!

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Daith ydi Adra – John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey)
Tell Me Who I Am – Georgia Ruth
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Dog Days – Ericka Walker
Y Morfarch Arian – Eurgain Haf
Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Y Fran Glocwaith – Catherine Fisher (cyf. Mared Llwyd)
Nightshade Mother – Gwyneth Lewis 
Ystorïau Bohemia – amrywiol, cyf. T H Parry-Williams
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Clear – Carys Davies
Tywyllwch y Fflamau – Alun Davies
Y Twrch Trwyth – Alun Davies
Gwaddol – Rhian Cadwaladr.
Oedolyn-ish – Mel Owen
The Rhys Davies Short Story Award Anthology

Unity Film Festival 2024

Unity Film Festival is Back! 8 – 9 November at Chapter

Gan ddwyn y ffilmiau cynhwysol gorau o bob rhan o’r byd i Chapter, Gaerdydd, mae’r ail Ŵyl Ffilmiau Undod Hijinx yn gyforiog o ffilmiau hir a byr cyffrous, fydd yn procio’r meddwl ac yn unigryw. Gyda ffilmiau dogfen, animeiddio, dramâu, comedïau, gwyddonias, dramâu cyfnod a phopeth yn y canol, mae ail Ŵyl Ffilmiau Undod yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys sesiwn arbennig i gynulleidfaoedd iau. Gwnaed pob ffilm gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Tocynnau:

Mae tocynnau ar gael ar gyfer dangosiadau unigol: £8 / £5
Neu gallwch brynu tocyn diwrnod ar gyfer y naill ddiwrnod neu’r llall (neu’r ddau), am bris gostyngol aruthrol o £25 (pris llawn) neu £17.50 (pris consesiynau)

Tocynnau yma

Her yr Hydref: Gwledd gan Lowri Haf Cooke

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.

Mae Gwledd gan Lowri Haf Cooke yn dathlu 10 cwmni bwyd a diod o Gymru.

Dyma straeon rhai o arwyr ac arwresau’r byd bwyd a diod yng Nghymru heddiw. Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol.

Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant i’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.

Pennod 50 – Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn.

Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth.

Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy!

Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

🪩 Mae Chwarae’r Chwedlau: Cabaret nôl am bennod olaf o 2024!

❤️ Os methwch chi’n Eisteddfod eleni, paid a phoeni: rydym yn dod a rhai o’r acts o raglen LHDTC+ y prifwyl, Mas ar y Maes, i The Queer Emporium!

🎵 Mae’r cast yn cynnwys Caitlin McKee, Tom Kemp, Betsan and Welsh Ballroom Community!

🎟️ Plîs prynwch docynnau pryd medrwch oherwydd mae gwerthu tocynnau i nosweithiau cwiar, Cymraeg medru bod yn galed, a hefyd mae’n helpu lleddfu’r gor-bryder!

Tracey McMaster

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n rhoi sylw i waith anhygoel un o’n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Hydref yw Tracey McMaster!

Mae Tracey McMaster yn artist sy’n gweithio ar draws paentio a delwedd symudol.

Her yr Hydref: Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Gormod o gŵn

Yn ddiweddar fe gawson ni wyliau bach yn nhref lan môr Whitby yng ngogledd Swydd Efrog. Lle hyfryd a difyr dros ben, er yn llawer prysurach na phan fuon ni yno bymtheg mlynedd yn ôl, a mwy o bobol â chŵn nag ydw i wedi’u gweld mewn un lle erioed. Yn yr hinsawdd cŵn-garol sydd […]

Eluned Morgan – ein Prif Weinidog anfoddog

Lai na blwyddyn yn ôl, nid oedd Eluned Morgan yn chwennych bod yn Brif Weinidog. Bellach mae wedi etifeddu’r fantell honno mewn gwlad sy’n gynyddol feirniadol o berfformiad y Llywodraeth Lafur. Ai yn ystod ei chyfnod hi wrth y llyw y gwelwn dra-arglwyddiaeth Llafur yng Nghymru yn dechrau dod i ben?

Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

11/10/2024 – 7.30pm

Tocynnau/Tickets

Mae Chwarae’r Chwedlau: Cabaret nôl am bennod olaf o 2024!

Os methwch chi’n Eisteddfod eleni, paid a phoeni: rydym yn dod a rhai o’r acts o raglen LHDTC+ y prifwyl, Mas ar y Maes, i The Queer Emporium! 

Mae’r cast yn cynnwys Caitlin McKee, Tom Kemp, Betsan and Welsh Ballroom Community! 

Plîs prynwch docynnau pryd medrwch oherwydd mae gwerthu tocynnau i nosweithiau cwiar, Cymraeg medru bod yn galed, a hefyd mae’n helpu lleddfu’r gor-bryder!

Beach of Dreams

Ar hyn o bryd mae TAPE yn rhan o brosiect cyffrous o’r enw Beach of Dreams; Rydym yn rhan o rwydwaith o seflydliadau, artistiaid a chymunedau mewn cenhadaeth gyffredin i archwilio ac ymateb i’r heriau hinsawdd enbyd sy’n wynebu rhanbarthau arfordirol y DU.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Jason Singh, artist, bîtbocsiwr natur, cynhyrchydd, DJ, curadur, hwylusydd a pherfformiwr. Mae wedi gweithio gyda phobl fel y BBC, Tate Britain, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai!

Bydd TAPE Sound yn gweithio ochr yn ochr â Jason i gipio sain o wahanol ffynonellau ym Mae Colwyn a’r ardaloedd cyfagos i’w defnyddio fel rhan o brofiad sonig trochi. Bydd hefyd yn ceisio dal straeon a safbwyntiau o’r gymuned leol. 

Mae TAPE yn falch o fod yn rhan o’r dathliad arfordirol hwn ochr yn ochr ag artistiaid a gomisiynwyd a chymunedau lleol ledled y DU!

Lumiere Project

Mae prosiect Lumiere yn rhan o Wyl y Goleuni mewn cydweithrediad a Chyngor Tref Bae Colwyn, Creu Conwy ac ystod o bartneriaid eraill. Mae TAPE yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys ein clwb cyfryngau rheolaidd a chlwb celf, i greu gosodiadau a fydd yn cael eu gosod mewn ffenestri siopau ym Mae Colwyn a’u goleuo. Cysylltwch â ni i ddysgu sut y gallwch chi gymryd rhan, neu ymunwch â ni ar yr 28ain o Dachwedd ar gyfer datgeliad mawr y gosodiadau! 

Ymunwch â Her yr Hydref!

• Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siwr lle i ddechrau?
• Dim digon o amser i ddarllen?
• Chwilio am her ar gyfer yr hydref?

Pennod 49 – Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd

Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd.

Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r newydd ac y ‘brodorol’ a’r ‘estron’. Nodwn fod lleisiau barddol benywaidd yn ymddangos yn y corff newydd hwn o farddoniaeth ac edrychwn yn fanwl ar gerdd angerddol sy’n protestio’n erbyn dadgoedwigo cymoedd y De (ac sy’n rhoi’r bai am y dinistr ecolegol hwn ar ‘y Saeson’).

Ela: Cynrychioli plant Bethesda

Ar yr un pryd ag yr oedd y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn cael eu cynnal yn 2022-23, roedd ein rhaglen addysg yn cynnwys:

*Sesiynau am newid hinsawdd;
*Ymweliadau ag atebion hinsawdd lleol;
*Cynulliadau i blant a phobl ifanc;
*Cyflwyniadau gan y plant a phobl ifanc i’r gwasanaethau cymunedol; a
*Sesiynau gweithredu ymarferol.

Dyma Ela o Ddyffryn Ogwen yn rhannu sut brofiad oedd bod yn rhan o gynulliadau hinsawdd yr ysgolion, a sut oedd y profiad o gynrychioli plant Bethesda o flaen yr oedolion, a sut oedd hi i ffeindio rhai o’u syniadau wedi’u hychwanegu i’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol.

Rydym nawr yn dechrau rolio ein cynnig addysg ar gyfer Cam Gweithredu Cymunedol GwyrddNi – sy’n golygu y bydd ysgolion yn cael cymryd rhan mewn prosiectau penodol a gweithredu – cadwch olwg am fwy o fanylion!

www.gwyrddni.cymru

Rheolwr Prosiect | Project Manager

Mae “Seiniau Gwyllt Cymru – Peilot” yn brofiad rhith-realiti 3 munud arloesol sy’n cyfuno synau bywyd gwyllt, ffilm 360-gradd, a cherddoriaeth wreiddiol sy’n arddangos bioamrywiaeth Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dinefwr. Nod y prosiect peilot hwn yw ysbrydoli gobaith yn wyneb pryder hinsawdd a bydd yn cael ei gyflwyno fel gosodiad VR dros dro ar draws gwahanol leoliadau yng Nghymru gan gynnwys Cartref Gofal Bryn Seiont Newydd.

Dominatrix

Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod cultural appropriation, a ble mae’r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli’r Plot?

Ymddiheuriadau Heledd Cynwal!

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Glutton – A.K Blakemore
Ysgrifau Llenorion – gol. John Lasarus Williams
The Story Spinner – Barbara Erskine
Hi-Hon – gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis
Nice Racism – Robin Diangelo
Tadwlad  – Ioan Kidd
Sunset – Jessie Cave
The Satanic Mechanic – Sally Andrew
Y Morfarch Arian  – Eurgain Haf
The Hoarder – Jess Kidd
Madws – Sioned Wyn Roberts
The Trees – Percival Everrett
Ar Amrantiad – Gol Gareth Evans-Jones
Cysgod y Mabinogi – Peredur Glyn

Gŵyl Tawe 2024

Yn gynharach yn yr haf, aeth Sion Teifi Rees ac Aled Victor ati i greu rhaglen ddogfen fer am Gŵyl Tawe a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Abertawe. Yn cynnwys The Bunkouse, Mission Gallery, Coleg Gŵyr Abertawe, a mwy!

Cysylltu/Connecting Dyffryn Peris: Gwennan

Dyma Gwennan, a oedd yn rhan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris, yn sôn am ei phrofiad ac am ei chyffro am y syniad o Bartneriaeth Dyffryn Peris.

Ers i ni ffilmio hyn, mae pethau wedi bod yn symud! Mae nifer o fudiadau ac unigolion yn parhau gyda’r gwaith o sefydlu Partneriaeth Dyffryn Peris. Bydd yn rwydwaith datblygu cymunedol fydd yn dod a chefnogaeth ymarferol, arbenigedd lleol, adnoddau, prosiectau a digwyddiadau ychwanegol i’r fro.

Mae croeso cynnes i drigolion yr ardal i’r sgwrs gymunedol nesaf ar y 18fed o Fedi am 18:00 yn Caban, Brynrefail – cysylltwch hefo lowri@deg.cymru am fwy o wybodaeth.

Cofio’r Cynulliadau Hinsawdd – Roger & Ronwen

Yn 2022 a 2023, cynhaliwyd cyfrys o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum rhan o ogledd orllewin Gwynedd i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn (yr ardal hon) ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?

Dysgwch fwy

Yn gynharach eleni, buom yn cyfweld ag aelodau o’r gymuned am eu profiadau o’r gwasanaethau. Dyma Roger a Ronwen yn hel atgofion am eu hatgofion o gymryd rhan yng ngwasanaethau Bro Ffestiniog.

Garddio a Thyfu: Aisha

Dyma Aisha, sy’n byw ym Methesda ers 15 mlynedd, yn siarad am y llysiau mae hi’n eu tyfu a’r ffordd mae Cynulliadau hinsawdd GwyrddNi wedi ei newid hi.

“Mae wedi rhoi hyder i mi, mae wedi codi fy ysbryd… Fedrai’m coelio’r cyfle sydd gen i hefo Ysgol Abercaseg – mae’n anhygoel!” meddai am ei rôl newydd yn dysgu plant ysgol leol am dyfu hadau.

Dysgwch fwy am GwyrddNi a sut y gallwch chi gymryd rhan yn www.gwyrddni.cymru

Os ydych chi ym Methesda ac eisiau cymryd rhan mewn tyfu bwyd yn y gymuned, cysylltwch â chris@ogwen.org

Stori’r Tir (Story of the Land) Dyffryn Peris – Lindsey

Dyma Lindsey, hefo Lowri, yn sôn ychydig am y prosiect Stori’r Tir, prosiect a ddaeth o syniadau’r plant yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Peris.

Mae Stori’r Tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu storiau ynghylch ein perthynas gyda’r tir yn Nyffryn Peris.

“Dan ni’n dod a’r gymuned at ei gilydd i gipio doethineb y cenedlaethau blaenorol, hybu hunaniaeth a chyswllt gyda’r tir a’r iaith Gymraeg.” – gwelwch restr o’r prosiectau a digwyddiadau yma.

Uwchraddio Adeiladau: Yr Aelwyd, Blaenau Ffestiniog – Elfed Lewis

Yng ngogledd orllewin Cymru, mae gennym rai o’r costau ynni uchaf a rhai o’r cyflogau isaf yn y DU – dim yn gymysg gwych hefo’r nifer o hen adeiladau carreg anodd eu gwresogi sydd gennym yma!

Dim syndod felly mai un o’r eitemau yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol pob ardal oedd rhywbeth i’w wneud â chodi cartrefi ac adeiladau i safonau uwch o ran effeithlonrwydd ynni.

Mae Elfed Lewis yn arbenigwr ar ôl-osod, effeithlonrwydd ynni a Passivhaus. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Cwmni Bro Ffestiniog i uwchraddio’r Aelwyd, hen adeilad yr Urdd ym Mlaenau Ffestiniog. Y nod yw gallu dangos i bobl beth sy’n bosib – a dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib cael cartrefi cynnes, clyd sy’n rhad i’w rhedeg.

Ewch i www.gwyrddni.cymru neu cysylltwch hefo post@gwyrddni.cymru i ddysgu mwy neu i fod yn rhan o hyn!

Cwt Piclo (Pickling Shed) Dyffryn Nantlle – Trey

Dyma Trey, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Nantlle, yn sôn am sut daeth y syniad Cwt Piclo i fodoli.

Symudodd Trey i Gymru 8 mlynedd yn ôl o Mississippi, ac fel y gwelwch, mae o wedi dysgu Cymru yn rhugl! Mae o wedi bod yn mwynhau y garddio cymunedol sydd yn digwydd ym Mhenygroes, e.e. yr Ardd Wyllt a Gardd Eden.

Tyfodd syniad y Cwt Piclo allan o siarad am beth i’w wneud hefo cynnyrch dros ben, ac mae’r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith yn barod (a wedi dechrau piclo pethau!). Darllenwch flog Trey amdano yma.

Mae y Cwt ei hyn yn ganol cael eu baratoi, a bydd mwy o weithgareddau yn cael ei cynnal dros yr wythnosau nesaf – cysylltwch hefo sion.yrorsaf@gmail.com os ydych eisiau bod yn rhan o hyn!

Ffrindiau Pwllheli: Rachel a James

Wedi’i ffurfio yn 2023 gan grŵp o aelodau angerddol o’r gymuned a gysylltodd yng nghynulliadau hinsawdd GwyrddNi, mae Ffrindiau Pwllheli yn bwriadu gwarchod a gwella harddwch naturiol Pwllheli. Maent yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a phartneriaid lleol i wella hygyrchedd i natur a hyrwyddo bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.

Eu cenhadaeth yw sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i amgylchedd y dref, er budd trigolion presennol a chenedlaethau i ddod.

Yn y fideo yma, mae Rachel a James yn rhannu dipyn o’u taith hyd yn hyn.

www.ffrindiaupwllheli.cymru

Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen – Alys

Dyma Alys, a ymunodd â Chynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Ogwen, yn sôn am ei hangerdd am fwsoglau.

Wedi’i lansio’n swyddogol ar 21 Hydref, 2023, sef Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, nod prosiect Mapio Mwsog yw annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas; ond hefyd i gofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.

Yn dilyn lansiad y prosiect, mae tîm Mapio Mwsog (Emily Meillieur, Alys Wardle ac Emily Farrell) wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl yn rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau mwsogl a eu defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei weld ac yn ei deimlo.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y prosiect, neu e-bostiwch chris@ogwen.org i gymryd rhan.

The Green Room Session: The Art of Fundraising

SPAN yn lansio Sesiynau Ystafell Werdd er mwyn i artistiaid Gorllewin Cymru gael mynediad at gymorth datblygiad proffesiynol.

Dyddiad: Medi 25ain
Amser: 5pm tan 7pm
Pris: AM DDIM, ond rhaid archebu ymlaen llaw
Lleoliad: Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth, SA67 7AG
Gwybodaeth: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.

Bwystfilod Aflan/Unclean Beasts

Ymunwch â SPAN yn Theatr Byd Bach ar gyfer cynhyrchiad o Bwystfilod Aflan gan Music Theatre Wales i ysgogi’r meddwl.

Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 11eg
Amser: 7:30pm
Lleoliad: Theatr Byd Bach, Heol Bath-House, Aberteifi, SA43 1JY
Pris: Llawn £12, Dan 16 £8 *

*Ar gyfer deiliaid tocynnau sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Cysylltwch â 01834 869323 i archebu eich tocyn gofalwr.

Gwybodaeth bellach ar span-arts.org.uk. Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.

Community Banner-Making Workshop

21/9, 10:30-12:30

Haverhub, Haverfordwest

Galw heibio – am ddim | Drop in – free

Bydd y faner rydych chi’n ei chreu yn cynrychioli Ward y Castell ac yn cael ei chario’n falch gan gyfranogwyr yng Ngorymdaith y Ffair Aeaf ar Dachwedd 30.

Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!

Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin.

Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn. 

Prynwch ‘Dros Gyfiawnder a Rhyddid’ YMA

Ffrwd Byw Symposiwm Coed / Coexist Symposium Live Stream

Dydd Sadwrn, Medi 14eg · 10yb – 4yp

Fformat y diwrnod a’r siaradwyr

  • 10-10:15yb Croeso a chyflwyniadau gyda Daloni Metcalfe Owen
  • 10.15-10.25yb Gwenan Griffith Ecoamgueddfa. Noddwyr y digwyddiad.
  • 10:25-11:10yb Junko Mori a John Egan yn cyflwyno’r prosiect a’u gwaith
  • 11:10-11:30yb Dafydd Wynne Finch, ffermwr glaswelltir a thirfeddiannwr yn trafod ei ddyheadau a’i ymdrechion i ddatblygu’r tir.
  • 11:30-11:40yb Egwyl
  • 11:40yb-12:10yp David Lamacraft a Cassie Crocker, Swyddogion Cysylltiadau Natur o’r elusen, Plantlife, bydd yn ffocysu ar bwysigrwydd cennau a rhywogaethau is goedwigau a rôl Plantlife.
  • 12:10-12:30yp Sesiwn holi ac ateb y bore
  • 2:30-2:50yp Bydd yr artist Manon Awst yn rhannu ei hymchwil greadigol i fawndiroedd lleol, sydd yn chwarae rhan bwysig yn ei Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol.
  • 2:50-3:10yp Bydd y Cynllunydd Tirwedd, Dan Bristow yn siarad am elfen o bob un o’r ddwy ran sy’n creu gardd: tirlunio a phlannu.
  • 3:10-3:30yp Lea Connelly Swyddog Bioamrywiaeth (@cyngorgwynedd)
  • 3:20-3:40yp Sesiwn holi ac ateb p’nawn
  • 3:40-4yp Casgliadau gyda Daloni, John a Junko.

*Dim ond y sgyrsiau fydd yn cael eu ffrydio’n fyw

Symposiwm Coed / Coexist Symposium

Dydd Sadwrn, Medi 14eg · 10yb – 4yp

Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaglen lawn a chofrestru trwy eventbrite yma

Dathliad o goedwig ac ecosystem drwy amrywiaeth o leisiau

Mae’r artistiaid Junko Mori a John Egan, sy’n byw ac yn gweithio ym Mhen Llŷn yng ngogledd Cymru, wedi cychwyn prosiect tri cham uchelgeisiol o’r enw Coed / Coexist. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetir, gan chwilio am gysylltiadau, dyheadau a dibyniaeth ehangach ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect cyfan yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.

Gan weithio gydag oriel gelf hynaf Cymru, Plas Glyn-y-Weddw, ar yr arfordir yn Llanbedrog, mae’r artistiaid wedi cychwyn Cam 1 sef cyflwyno symposiwm diwrnod o hyd ar ddydd Sadwrn y 14eg o Fedi 2024.

Mae’r symposiwm yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â naratifau diwylliannol, gwyddonol a lleol ynghyd i rannu a dathlu diddordeb a gwybodaeth unigol. Bwriad y digwyddiad yw tanio syniadau ar gyfer y camau sydd i ddod, gan gynnwys dull cydweithredol uchelgeisiol o arddangos gwaith creadigol newydd a chynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned ym Mhlas Glyn-y-Weddw a’r cyffiniau yn 2026.

Gan ddefnyddio coed sydd wedi syrthio neu eu torri yn unig, ar y penrhyn a choed yn y Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Coed / Coexist yn gwahodd cynigion gan bobl greadigol i wneud gwaith newydd i ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr lleol.

Bydd y symposiwm yn cael ei hwyluso gan y cyflwynydd teledu a radio Daloni Metcalfe Owen gyda sgyrsiau a chyfraniadau gan; ysgogwyr prosiect Coed / Coexist a’r artistiaid arweiniol, Junko Mori a John Egan; y ffermwr glaswelltir a thirfeddiannwr, Dafydd Wynne Finch; yr arbenigwr cennau a bryoffytau o elusen Plantlife, David Lamacraft a’r Swyddog Cyswllt Natur, Cassie Crocker; yr artistiaid, David Nash, Manon Awst a Deanne Doddigton Mizen a dylunydd tirwedd, Dan Bristow.

Buddug – Unfan

Buddug, yr enw ifanc â’r llais aeddfed.

Mae Buddug ar ddechrau ei gyrfa wedi cael Haf prysur iawn eleni yn gigio ar lwyfannau Tafwyl, Sesiwn Fawr, llwyfanau’r Eisteddfod a pherfformio ym Maes B. Yn ogystal a hyn ymunodd â Yws Gwynedd ar Lwyfan y Maes i ganu ei sengl cyntaf – ‘Dal Dig’.

Dyma fideo a pherfformiad pwerus gan Buddug i gyd-fynd â’i thrydedd sengl – ‘Unfan’. Mae’r cymeriad a gaiff ei chwarae gan Buddug yn un sy’n gaeth i’w bywyd ailadroddus o berfformio’n ddragywydd i’r un hen gynulleidfa gan droi yn ei ‘hunfan’ wrth geisio dianc o’r rhaffau llythrennol a throsiadol.

Cynhyrchydd a Cyfarwyddo
Elis Derby

DOP, Cyfarwyddo a Golygu
Jamie Walker

Is-Gynhyrchydd
Buddug Roberts

Uwch Gynhyrchydd
Aled Wyn Jones

Rheolwr Cynhyrchu
Eleri Griffiths

Ecstras
Elain Gwynedd

Siwan Mair
Nel Angharad
Nel Jones

Colur
Annie Maycox

Gyda diolch i
Theatr Fach Llangefni a Cyfoeth Naturiol Cymru

Label cyhoeddi – Cosh

Delphi Campbell

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n rhoi sylw i waith anhygoel un o’n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Medi yw Delphi Campbell!

Cyfarfod Rhwydwaith mis Medi | September Network Meeting

Ymunwch â ni yn y cyfarfod rhwydwaith misol ar-lein i glywed gan gydweithwyr, i gysylltu ac i rwydweithio. Ffocws y mis hwn fydd rhannu peth o’r gwaith iechyd creadigol gwych sy’n digwydd yng Nghymru gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Creative Cuppa

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o’r enw ‘Paned i Ysbrydoli’. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig – cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p’un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs ‘TED-talk’, ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae’r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Medi 5ed, 12:00

The Gate, Caerdydd

Archebwch nawr

Pennod 48 – Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal

Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl.

Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod dau fath o ddysg yn ymrafael, y naill yn newydd a’r llall yn hen. Mae’n bosib ei gweld fel dadl ynghylch dyfodol barddoniaeth Gymraeg. Ond, er gwaethaf y pynciau esoterig a’r themâu diwylliannol sy’n gwau trwy’r cerddi ymryson hyn, mae’r ddau yn ymosod yn bersonol ar adegau hefyd, wrth i Edmwnd Prys alw Wiliam Cynwal yn hen a’r bardd yntau’n ensynio bod Prys yn dew.

Sesiynau Creadigol – Normaleiddio’r Menopos

Prosiect sydd yn anelu at chwalu tabw am y menopôs er mwyn cefnogi pawb i ddeall y newid allweddol ym mhrofiadau merched o’r byd.

Mae Cylchdro a Mwy yn hynod falch i gydweithio gyda Cyngor Gwynedd ar gyfres o weithdai creadigol ac adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg i staff y Cyngor ac i gyfranogwyr o fewn cymunedau yng Ngwynedd fydd yn rhedeg o Hydref 2024 tan fis Mawrth 2025.

Rydym am i’r prosiect yma fod yn ddefnyddiol, priodol ac arloesol, ac os oes ganddoch chi unrhyw syniad, awgrym neu gais am weithgaredd cysylltwch dros ebost neu dros y cyfryngau cymdeithasol. Does yna ddim un syniad rhy fach!

Mi fyddwn ni yn Porthi’r Dre, Caernarfon yn cynnig sesiynau creadigol fydd yn edrych o bersbectif newid gan ystyried y peri-menopôs a’r menopôs a sut yden ni’n ‘nabod ein hunain a chysylltu efo natur i wynebu newidiadau sy’n gallu bod yn heriol. Agored i bob merch dros 18 oed. Does dim rhaid bod yn profi symptomau peri-menopôs/menopôs i ymuno, mi yden ni’n awyddus i godi ymwybyddiaeth i bawb.

Medi 25, Hydref 2, Hydref 9 a Hydref 16 am 11:30 – 12:30.