Cartref digidol diwylliant Cymru.

Symposiwm Coed / Coexist Symposium

No Categories Found

Dydd Sadwrn, Medi 14eg · 10yb – 4yp

Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaglen lawn a chofrestru trwy eventbrite yma

Dathliad o goedwig ac ecosystem drwy amrywiaeth o leisiau

Mae’r artistiaid Junko Mori a John Egan, sy’n byw ac yn gweithio ym Mhen Llŷn yng ngogledd Cymru, wedi cychwyn prosiect tri cham uchelgeisiol o’r enw Coed / Coexist. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetir, gan chwilio am gysylltiadau, dyheadau a dibyniaeth ehangach ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect cyfan yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.

Gan weithio gydag oriel gelf hynaf Cymru, Plas Glyn-y-Weddw, ar yr arfordir yn Llanbedrog, mae’r artistiaid wedi cychwyn Cam 1 sef cyflwyno symposiwm diwrnod o hyd ar ddydd Sadwrn y 14eg o Fedi 2024.

Mae’r symposiwm yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â naratifau diwylliannol, gwyddonol a lleol ynghyd i rannu a dathlu diddordeb a gwybodaeth unigol. Bwriad y digwyddiad yw tanio syniadau ar gyfer y camau sydd i ddod, gan gynnwys dull cydweithredol uchelgeisiol o arddangos gwaith creadigol newydd a chynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned ym Mhlas Glyn-y-Weddw a’r cyffiniau yn 2026.

Gan ddefnyddio coed sydd wedi syrthio neu eu torri yn unig, ar y penrhyn a choed yn y Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Coed / Coexist yn gwahodd cynigion gan bobl greadigol i wneud gwaith newydd i ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr lleol.

Bydd y symposiwm yn cael ei hwyluso gan y cyflwynydd teledu a radio Daloni Metcalfe Owen gyda sgyrsiau a chyfraniadau gan; ysgogwyr prosiect Coed / Coexist a’r artistiaid arweiniol, Junko Mori a John Egan; y ffermwr glaswelltir a thirfeddiannwr, Dafydd Wynne Finch; yr arbenigwr cennau a bryoffytau o elusen Plantlife, David Lamacraft a’r Swyddog Cyswllt Natur, Cassie Crocker; yr artistiaid, David Nash, Manon Awst a Deanne Doddigton Mizen a dylunydd tirwedd, Dan Bristow.

Amlinelliad Symposiwm Coed / Coexist

Fformat y diwrnod a’r siaradwyr

  • 10-10:15yb Croeso a chyflwyniadau gyda Daloni Metcalfe Owen
  • 10.15-10.25yb Gwenan Griffith Ecoamgueddfa. Noddwyr y digwyddiad.
  • 10:25-11:10yb Junko Mori a John Egan yn cyflwyno’r prosiect a’u gwaith
  • 11:10-11:30yb Dafydd Wynne Finch, ffermwr glaswelltir a thirfeddiannwr yn trafod ei ddyheadau a’i ymdrechion i ddatblygu’r tir.
  • 11:30-11:40yb Egwyl
  • 11:40yb-12:10yp David Lamacraft a Cassie Crocker, Swyddogion Cysylltiadau Natur o’r elusen, Plantlife, bydd yn ffocysu ar bwysigrwydd cennau a rhywogaethau is goedwigau a rôl Plantlife.
  • 12:10-12:30yp Sesiwn holi ac ateb y bore
  • 2:30-2:50yp Bydd yr artist Manon Awst yn rhannu ei hymchwil greadigol i fawndiroedd lleol, sydd yn chwarae rhan bwysig yn ei Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol.
  • 2:50-3:10yp Bydd y Cynllunydd Tirwedd, Dan Bristow yn siarad am elfen o bob un o’r ddwy ran sy’n creu gardd: tirlunio a phlannu.
  • 3:10-3:30yp Lea Connelly Swyddog Bioamrywiaeth (@cyngorgwynedd)
  • 3:20-3:40yp Sesiwn holi ac ateb p’nawn
  • 3:40-4yp Casgliadau gyda Daloni, John a Junko.

Bydd cyswllt rhithwir i’r sgyrsiau ar gyfer y sawl sy’n methu a bod yn bresennol, a bydd y diwrnod yn cael ei recordio trwy ffilm.

Mae’r artist David Nash wedi cyfrannu at y digwyddiad trwy ffilm fydd yn cael ei chyflwyno trwy gydol y dydd.

RHANNWCH