Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rigio i’r Theatr a Digwyddiadau / Rigging 4 Theatres & Events

Pwy ddylai gymryd rhan a gofynion? Mae’r cwrs 2 dydd hwn ar gyfer pobl greadigol sy’n gweithio ym maes Theatr a Digwyddiadau ar gyfer rigio ar lefel y llwyfan neu’r llawr neu sy’n gweithio ar uchder ar gridiau neu lwybrau cerdded lle nad yw amddiffyniad personol rhag cwympo yn ofynnol. Nid oes unrhyw ofynion mynediad […]

Pennod 11 – Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?

O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb.

Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gemau cyfrifiadorol sy’n dangos ddylanwad y traddodiad cyfoethog hwn. Ond dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru – neu, hwyrach, dechreuodd yn yr iaith Gymraeg (gan gofio nad ffiniau presennol Cymru oedd ffiniau’r iaith Gymraeg yn yr Oesau Canol cynnar).

A oedd Arthur yn gymeriad hanesyddol ar y dechrau? Beth yw’r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg sydd wedi goroesi? Trafodwn y cwestiynau hyn, ac wrth fynd i’r afael â gwreiddiau’r traddodiad Arthuraidd edrychwn ar rai o’n hoff drioedd, gan gynnwys ‘Tri Gwrfeichiad Ynys Prydain’, a gyfieithir gan Rachel Bromwich fel ‘The Three Powerful Swineherds of the Island of Britain’!

Tu Draw + Ffilm Ddogfen

Diolch i’r plant ysbrydoledig a’u rhieni/gwarchodwyr am fod yn rhan o’r prosiect a chronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru am roi llais i ddyslecsia.

Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia. 

Sara Wheeler

Mae Dr Sara Louise Wheeler yn fardd, llenor ac yn artist llawrydd. Mae hi’n ysgrifennu’r golofn ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas, gan archwilio pynciau sy’n ymwneud â phrofiadau ffiniol, gan gynnwys anableddau; mae hi hefyd yn ysgrifennu colofn ddeufisol i Golwg360. Mae Sara yn gwneud gwaith ymgynghorol ar hygyrchedd ac mae’n aelod o nifer o bwyllgorau a rhwydweithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth; mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd y pwyllgor Llên canolog ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn aelod o bwyllgor gwaith PEN Cymru, a hefyd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd. Mae Sara yn gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau, gan ddarparu gweithdai sy’n ymwneud â chreadigedd a llesiant. Enillodd Sara gystadleuaeth ‘Geiriau Creadigol’ (cyfrwng Cymraeg) DAC 2022 gyda’i cherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’; mae hi eisoes wedi ei chyfieithu a’i cyhoeddi yn ei phamffled dwyieithog o farddoniaeth ‘Trawiad/ Seizure’. Mae ei gwaith celf ‘Tywod amser y clyw’ i’w weld yn arddangosfa Gwobr Celfyddydau DAC ‘Aildanio’ ac ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb, Wrecsam. Mae Sara ar hyn o bryd yn paratoi llyfr i blant o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, yn seiliedig ar stori a gwaith celf a gyhoeddodd yn ddiweddar yn ‘Cylchgrawn CIP’; bydd hi’n gyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg, gyda gwaith celf gwreiddiol.

Socials: @serensiwenna (Twitter ag Instagram) Saralouisewheelerneeedwards ar Facebook.

Ewch i weld mwy o gelf gan Sara yma

yma

Pennod 10 – Llais Heledd

Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy.

Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am arwyddocâd treiglad sy’n pwysleisio – ormod, ym marn Richard Wyn Jones, efallai! – fod y math yma o fanylyn gramadegol yn gallu bod yn allweddol bwysig i ystyr a naws testun llenyddol.

RU’N FATH – SACHASKY

Sengl cyntaf prosiect newydd rhwng Sachasom a skylrk.

Fideo wedi’i gyfarwyddo a’i saethu gan Ffion Mai, artist a chyfarwyddwr sydd wedi cydweithio’n helaeth gyda theulu INOIS eleni gan gynnwys Maes Parcio, Tesni Hughes yn ogystal â phennod Curadur skylrk.

Dod i adnabod awduron Gwobrau Tir na n-Og 2023: Rhestr gynradd

Ar restr fer gynradd Gwobrau Tir na n-Og eleni mae, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron, darluniau gan Huw Aaron, Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniau gan Valériane Leblond a Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Straeon Merched Dewr y Celtiaid – gan awduron amrywiol, lluniau gan Elin Manon.

Dyma gyfle i ddod i adnabod yr awduron.

Yws Gwynedd – Charrango (Fideo Swyddogol)

Rhybudd
Mae’r fideo yma’n cynnwys goleadau strôb

Mae Yws Gwynedd yn ôl gyda sengl newydd a fideo sgleiniog i fynd efo’i. Cafodd y fideo ei saethu gan ffotoNant yn stiwdio deledu newydd Aria, Llangefni.

Focus Wales 2023

Mae FOCUS Wales nôl ac yn digwydd dros 4–6 o Fai 2023!

Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy’n anelu goleuni’r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru’n dod i’r amlwg i gynnig i’r byd. Mae FOCUS Wales 2023 yn nodi 12fed blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 12fed tro yn croesawu dros 20,000 o bobl i’r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2022 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.

Prynwch eich tocynnau nawr!

Pennod 9 – Wyt ti’n cofio Macsen?

Yn y bennod hon trafodwn y chwedl sy’n sylfaen i bennill cyntaf cân boblogaidd Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ – Breuddwyd Macsen Wledig. Yn debyg i’r gân fodern honno, mae’r stori ganoloesol hon yn cynnig golwg ar hen hanes mewn modd sy’n hynod ystyrlon yn nhermau hunaniaeth Gymreig. Ar un wedd, stori serch sydd yma, a’r briodas rhwng ymherodr Rhufain, Macsen, a thywysoges Gymreig, Elen, yn ieuo’r grymoedd gwleidyddol y maen nhw’n eu cynrychioli.

Yn hytrach na’u gweld fel gormes estron, mae’r chwedl hon yn ymfalchïo yn y cysylltiad â’r Rhufeiniaid, gan ddarlunio’r briodas fel cyfrwng i ddiwyllio’r deyrnas Gymreig/Brydeinig. Ceir hefyd eglurhad syfrdanol o dreisgar am y cysylltiad ieithyddol rhwng yr iaith Gymraeg a’r Llydaweg.

Gŵyl Cefni 2023

YN CYHOEDDI LINE UP GŴYL CEFNI

10/6/23

Canol y Dref, Llangefni

AM DDIM / FREE

Gŵyl Cefni yn chwilio am noddwyr / Looking for sponsors

Ydi dy fusnes yn chwilio am gyfle i gefnogi digwyddiad cymunedol sy’n addas i’r teulu cyfan? Mae cefnogi Gŵyl Cefni yn ffordd berffaith o wneud hyn! Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn noddwr, cysyllta gyda iaith@mentermon.com

Parti Ponty 2023

Mae Parti Ponty 2023 yn galw! Ymunwch â ni ym Mharc Coffa Ynysangharad ar y 13eg o Fai am ddiwrnod o gerddoriaeth fyw, gweithgareddau a mwy! Hwyl i’r teulu cyfan!

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant a Phobl Ifanc, mis Ebrill.

Dyma stori ddiflewyn-ar-dafod am gariad, am golli ffordd, am gymuned ac am ail gyfle, addas i ddarllenwyr 16 oed a hyn.

Darllenwch y bennod gyntaf yma.

Sut i daclo newid hinsawdd trwy weithredu yn y gymuned

Mae Egin yn cefnogi cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – ond be’ mae hynny’n ei feddwl? Gall y term “gweithredu hinsawdd” fod yn ddigon dryslyd, ond pan ‘dych chi’n rhoi’r gair “cymuned” yna, mae’n dod yn llai clir fyth!

Dyma rai enghreifftiau o sut y gall gweithredu hinsawdd cymunedol edrych. Mae gennym ni grwpiau sy’n mynd drwy ein proses Mentora Cymheiriaid yn canolbwyntio ar rai o’r syniadau hyn, ac fe wnaethom gefnogi llawer mwy ar Adfywio Cymru. Nid yw’r rhestr yma yn cynnwys popeth, ond y syniad ydy rhoi rhai syniadau i chi o be’ gallai eich cymuned ei wneud.

Mae ein prosiectau Egin wedi dechrau!

Mae Woody’s Lodge, Penlan yn elusen sy’n cefnogi cyn-filwyr ac aelodau o’r gwasanaethau argyfwng a’u teuluoedd, gyda rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru. Ar safle Woody’s Lodge yn Sir Gaerfyrddin, mae ganddyn nhw 11 erw o goed aeddfed, gerddi a phorfa. Maent yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi eu haelodau.

Cysyllton nhw ag Egin ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle rhandiroedd, prosiect tyfu bwyd a busnes sudd afal. Gan ddefnyddio eu profiad o weithio gyda phrosiectau garddwriaethol eraill, siaradodd y Mentoriaid Cymheiriaid Cathryn a Louise am wahanol opsiynau gyda staff Woody; defnyddiau tir posibl, microhinsoddau ecolegol, cyfleoedd ariannu, a meithrin brwdfrydedd.

“Rwy’n gobeithio y bydd creu cysylltiadau trwy nodau cyffredin fel plannu coed a thyfu bwyd yn helpu i feithrin gwydnwch mewn unigolion a chymunedau,” meddai’r Mentor Cymheiriaid Cathryn Wyatt.

Mae Richard Rose, cydlynydd y grŵp newydd drefnu ei ddigwyddiad plannu coed cyntaf (i gynyddu diddordeb yn y mentrau uchod), mae ganddo doiledau compost symudol ar y gweill, a thwnnel polythen gyda gwelyau yn barod ar gyfer eginblanhigion. Y cyfan wedi cychwyn dros y misoedd diwethaf!

Dathliad Cymru Affrica 2023

Mae Dathliad Cymru Affrica yn yn gyfle i brofi celf pan-Affricanaidd. Bydd y penwythnos yn ddathliad o gyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, yn benodol diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd. Mae gennym artistiaid gwadd o Affrica (Mali, De Affrica, Sudan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo), ynghyd ag artistiaid Affricanaidd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac ar draws y DU.

Cyflwynwyd i chi gan The Successors of the Mandingue, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association (BACA) a Rahim El Habachi.

Neuadd Ogwen: 1-3/6

Canolfan Mileniwm Cymru: 10-11/6

Tocynnau a mwy o wybodaeth

Dydd Iau 1/6
7:30yh – THE SUCCESSORS OF THE MANDINGUE
8:15yh – AFRO CLUSTER
9:30yh – BCUC

Dydd Gwener 2/6
7:30yh – DAFYDD IWAN & ALI GOOLYAD
8:15yh – HANISHA SOLOMON
9:30yh – BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA

Dydd Sadwrn 3/6
5:00yp – AGMAR BAND
7:00yh – RASHA
8:15yh – SUNTOU SUSSO
9:30yh – KANDA BONGO MAN

Pennod 8 – Dau Frawd a Thair Gormes

Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyrnasiad Lludd, mae’n rhaid iddo fanteisio ar ddoethineb ei frawd. Cewch glywed hanes y Ddraig Goch sydd ar faner Cymru a chlywed Richard Wyn Jones yn mynd i hwyl wrth ddychmygu’r Cymro Ffrengig Llefelys. Ac, wrth gwrs, cewch ddysgu beth yw ystyr ‘cyfranc’.

Pwy yw DTA Cymru?

DTA Cymru yw’r prif sefydliad sy’n rhedeg rhaglen fentora Egin. Felly, pwy ydan ni?

Prosiect Ieuenctid LHDTQ+ / Prosiect LGBTQ+ GISDA

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein Prosiect Ieuenctid LHDT+ yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDT+( Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thraws)

Rydym yn cynnal Clybiau Ieuenctid wythnosol o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Pwllheli, sy’n darparu lle diogel ac ymlaciol i’n haelodau allu mynegi eu hunain heb rwystr

Ynghyd â’n clybiau, rydym yn cynnig hyfforddiant achrededig a sesiynau ymwybyddiaeth ar faterion LHDT+ ac yn eu cyflwyno i ysgolion, colegau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc.

GISDA yn Efrog Newydd

Wythnos yma mae Klaire a Kayley, gwirfoddolwyr prosiect LHDTC+ Caernarfon, wedi teithio i Efrog Newydd i fynychu cynhadledd Ali Forney Center. Tra yno byddent yn cynrychioli GISDA yn cyflwyno’r arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc LHDTC+ mewn cymunedau gwledig

Y Galwad i Ganu / An Ghairm chun Amhránaíochta / The Call to Sing

Cliciwch yma i ymweld â map y prosiect! 

Oes gennych chi gysylltiad gyda Chymru neu Iwerddon ond yn byw alltud? Helpwch ni i ddathlu taith pererindod newydd rhwng y Gwledydd Celtaidd yma trwy ganu hen emyn Cymraeg neu gân o gartref a’i binio i ein map caneuon y diaspora ar-lein.

An bhfuil ceangal agat le Loch Garman nó Pembróc ach cónaí ort ó bhaile? Cabhraigh linn cruthú an bhealaigh oilithrigh nua idir St David’s agus Fearna a cheiliúradh, is bealach a nascann dhá náisiún Ceilteacha le chéile. Can sean-iomann Breatnach nó amhrán a ghlaonn abhaile thú agus ceangail dár mapa d’amhráin an Diaspóra é.

WE’RE RECRUITING – PROJECT OFFICER

Beth yw’r Young Promoters Network x Beacons Cymru?

Mae Beacons Cymru yn edrych ymlaen at gyhoeddi cam nesaf y Young Promoters Network (YPN). Wedi’i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf yn 2010, mae’r rhwydwaith wedi lansio nifer o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth trwy ddatblygu sgiliau allweddol mewn peirianneg sain, rheoli digwyddiadau, hyrwyddo, ffotograffiaeth, a llawer mwy.

Nod y YPN yw grymuso pobl ifanc trwy ddarparu set sgiliau newydd iddynt, gan gynyddu eu cyfleoedd gyrfa o fewn y sectorau cerddoriaeth fyw wrth hybu hunan-barch a hyder. Nawr mae’r prosiect yn cymryd camau breision i ddod yn Gymru gyfan, gan helpu mwy o bobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth fyw.

Mae’r YPN yn cynnig cyfle i chwe pherson ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o Gymru, i ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, cael mynediad i rwydweithiau diwydiant newydd a chynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Yr hyn y mae’r prosiect yn ei ddarparu;

> Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw

> Arian i dalu costau cynnal digwyddiad

> Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

> Hyfforddiant proffesiynol, mentoriaeth, a chyngor un-i-un trwy Gymdeithas yr Hyrwyddwyr Annibynnol.

Yn gyffredinol, darparu’r offer i ddechrau eu teithiau fel hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, creu cymunedau newydd, a rhoi sylw i artistiaid/bandiau o fewn y cymunedau hynny.

Mae’r YPN yn deall nad oes dim byd yn lle profiad uniongyrchol i helpu pobl ifanc i gyflawni ac rydym yn falch o ddarparu’r profiad hwnnw!

NI’N RECRIWTIO!

Rydym yn chwilio am berson ifanc brwdfrydig, ymroddedig a threfnus i ymuno â thîm Beacons Cymru a helpu i gyflawni ein prosiect YPN.

Byddwch yn helpu i lunio dyfodol y diwydiant cerddoriaeth fyw ledled Cymru.

Beacons Cymru – Swyddog Prosiect Iau (1 rôl ar gael)- Oherwydd cyfyngiadau ariannol, dim ond ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed y mae’r rôl hon ar agor.

Dim angen profiad na chymwysterauRydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd wedi profi rhwystrau i’r diwydiant cerddoriaeth.

Tymor: 11 mis @ 10 awr yr wythnos.

DYDDIAD CAU: 08/05/23.

Cwrdd Ebrill – Cymraeg

24/4

16:00 – 17:00

Bydd ein Cwrdd nesaf yn gyfarfod trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi’i arwain gan Rosey sy’n ddysgwraig, ac Owain sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Mae croeso i bob gallu! Byddwn yn cynnal sgwrs anffurfiol am ein hymarfer a’n profiadau fel artistiaid sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg.

Ymunwch â ni! 

Salem gan Haf Llewelyn

Salem gan Haf Llewelyn gan Haf Llywelyn yw Llyfr y Mis, mis Ebrill.

Nofel yn pendilio rhwng Ardudwy 1908, pan oedd yr arlunydd Vosper yn peintio ei ddarlun enwog, ac Ardudwy 2016 yw Salem. Nofel am ganlyniadau rhagfarn a chonfensiwn negyddol, a thaith y cymeriadau ynddi i godi uwchlaw`r confensiynau rheiny.

Pererin Wyf #6 Helen Phelan ‘Singing the Rite to Belong’

Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.

Tá Pererin Wyf, (a chiallaíonn Is Oilithreach Mé i nGaeilge) ina togra rannpháirtíoch ealaíne arb aidhm leis ceangal a dhéanamh idir diaspóraí na Breataine Bige agus na hÉireann le béim speisialta ar Pheambróg agus Loch Garman agus ar thuras nua trasteorann a fhorbairt d’fhonn na háiteanna seo a Nascadh. Is as iomann de chuid an naoiú haois déag leis an scríbhneoir bisiúil Breatnach William Williams Pantycelyn a thagann ainm agus inspioráid an togra.

Pennod 7 – Trafferthion Teuluol Math

Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’.

Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu trafferth sylweddol iddo.

Dyma stori dywyll sy’n archwilio tueddiadau gwaethaf y ddynoliaeth, gan gynnwys trais ar sail rhywedd. Yn y gainc hon hefyd y mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn ymddangos, cymeriadau sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau lawer, er bod ailysgrifennu’r chwedl dreisgar hon a’i throi’n stori i blant yn beth hynod heriol!