Pennod 35 – Gwydnwch Hen Draddodiad
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2)
Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd.
Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru wedi’i hail-lunio ar ffurf siroedd Seisnig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nodwn fod y gyfundrefn farddol Gymraeg yn parhau i feddwl am ddaearyddiaeth y wlad mewn dull Cymreig hynafol. Ac er gwaethaf awgrym rhai haneswyr Protestannaidd a awgrymai fod mynachdai Cymru’n sefydliadau pydredig erbyn iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII, gwelwn fod rhai ohonynt wedi parhau’n ganolfannau diwylliannol a chrefyddol bywiog hyd at y diwedd.
Sesiwn Fawr Dolgellau 2024

Sesiwn Fawr Dolgellau – First wave 2024
18-21 Gorffennaf – Dolgellau, Gwynedd
Tocynnau ar werth 1 Mawrth yma
Mwy o wybodaeth i ddod
Y Rhifyn Di-Drefn
Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Aled Jones a Manon Steffan Ros.
Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Safana – Jerry Hunter
Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
Drift – Caryl Lewis
The Soul of a Woman – Isabel Allende
Gut – Giulia Enders
O Ddawns i Ddawns – Gareth F. Williams
Dying of politeness – Geena Davies
The Bee Sting – Paul Murray
Yellowface – R. F. Kuang
Y Castell ar y Dŵr – Rebecca Thomas
Y LLyfr – Gareth yr Orangutang
Pony – R.J. Palacio
Llygad Dieithryn – Simon Chandler
Gwibdaith Elliw – Ian Richards
Charles and the Welsh Revolt – Arwel Vittle
Killing Floor – Lee Child
Die Trying – Lee Child
Riding With The Rocketmen – James Witts
Farmers Townies and Grockles

Bydd y cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig hwn yn cael ei berfformio mewn lleoliadau cymunedol mewn dwy sioe yn unig:
Dydd Gwener Mawrth 22 – Ffwrn, 6 Stryd y Cwm, Abergwaun, SA65 9HH am 7:30yh (nifer cyfyngedig
o leoedd)
Dydd Sadwrn Mawrth 23ain – Canolfan Gymunedol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT
3:00yh
Talwch yr hyn y gallwch ar gyfer y sioe newydd gyffrous hon!
UNTRO

Cyhoeddi system i gefnogi artistiaid Cymraeg newydd.
Encil Preswyl Kathod

Mae Llenyddiaeth Cymru a phrosiect Kathod yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r deg artist sydd wedi eu dethol i fynychu Encil Kathod.
Gŵyl Llais Cappella Arberth | Narberth A Cappella Voice Festival 2024

Cyngerdd Gŵyl Llais Cappella Arberth 2024: Dathliad o ddiwylliant Cymru a rhagoriaeth gerddorol.
Join our team! Digital Marketing Assistant (Maternity Cover)

Ymunwch â’n tîm! Cynorthwy-ydd Marchnata Digidol
We are Hiring: KumbuKumbu Project Officer

Ydych chi’n angerddol am dreftadaeth, yn enwedig treftadaeth y diaspora Gymraeg Affricanaidd? Dyma’r rôl i chdi. Rydym yn recriwtio ar gyfer y prosiect KumbuKumbu (‘atgofion’). Bydd y cydlynydd yn gweithio hefo carfan o bobl (artistiaid, cerddorion, beirdd a mwy) o’r gymuned bydd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ail-ddweud a rhannu hanesion Du Cymru, wedi ysbrydoli gan draddodiadau Affricanaidd a Diaspora o gofio a rhannu treftadaeth. Bydd y swydd yn gofyn am arwain ar recriwtio’r garfan; Gweithio gyda phartneriaid prosiect KumbuKumbu i fapio ac ymchwilio treftadaeth, atgofion a diwylliant Gymraeg Affricanaidd ledled Cymru; Cydlynu gweithdai cymunedol; Dogfennu a chasglu gwaith yn ddigidol; Cysylltu gydag ysgolion a sefydliadau treftadaeth i rannu adnoddau. Mae’r rôl hon yn cynnwys teithio o amgylch Cymru. Bydd angen i’r sawl sy’n cael y swydd gynnal perthnasau gyda grwpiau perthnasol yng Nghymru er mwyn datblygu agwedd ymgysylltu cymunedol y rôl.
Dyddiad Cau: Mawrth 3ydd 2024.
Taith / Tour | Ie Ie Ie

Mae Ie Ie Ie yn ddarn pwysig o theatr am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw.
Yn cynnwys perfformiad unigol arbennig gan y comediwr Eleri Morgan a chyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, mae Ie Ie Ie yn ceisio newid y naratif o gwmpas cyd-synio.
Mewn perfformiad sy’n teimlo fel sgwrs agored, mae Ie Ie Ie yn archwilio perthnasau iach, chwant a chaniatâd mewn ffordd feddylgar a chwareus.
Gan gofleidio grym perfformiad byw, mae Ie Ie Ie yn ein tywys i feddwl yn ddwfn amdanom ein hunain ac ein perthynas gydag eraill ac yn annog y gynulleidfa i ymateb a chymryd rhan yn ystod y sioe.
Ewch i weld dyddiadau’r daith ac i archebu eich tocynnau isod!
.
Cwrdd Egin/Egin Gathering

Ymunwch â ni ym Mhontypridd ar yr 17eg o Fai ar gyfer ein Cwrdd Egin cyntaf, lle cewch gyfle i gyfarfod eraill sy’n frwd dros daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy.
Bydd grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n cael eu cefnogi gan ein rhaglen Egin yn rhannu straeon o’r prosiectau hinsawdd y maent wedi bod yn gweithio arnynt, a chewch gyfle i ymuno â thrafodaethau neu weithdai ymarferol ar bynciau sy’n gysylltiedig â gweithredu hinsawdd gymunedol. Bydd digon o amser hefyd i sgwrsio â grwpiau eraill sy’n cymryd camau i daclo newid hinsawdd yn eu cymunedau.
Yn wyneb argyfwng costau byw, ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol a’r argyfwng hinsawdd, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n dod at ei gilydd i benderfynu ar y math o ddyfodol y maent eisiau ei weld.
Oherwydd cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gall CYD Cymru gynnig y digwyddiad hwn am ddim i hyd at 100 o bobl. Cofrestrwch heddiw!
E-bostiwch egin@dtawales.org.uk am fwy o wybodaeth
Hysbyseb / Trailer | Ie Ie Ie

05.02.24 – 15.03.24
Darn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.
Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.
Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu.
Cydsynio, Perthnasau iach, Cyfeillgarwch / Consent, Healthy Relationships, Friendship

05.02.24 – 15.03.24
Ewch i weld dyddiadau’r daith Ie Ie Ie ac i brynu eich tocynnau!
Darn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.
Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.
Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu.
Dyma Eleri Morgan | Ie Ie Ie

Eleri Morgan sy’n serennu yn ie ie ie, ein sioe newydd sy’n dathlu rhamant, perthynas, a chydsynio yn eu holl ogoniant; eu blerwch a’u hapusrwydd.
Ar daith tan 15 Mawrth
Juliette Manon | Ie Ie Ie

Cyfle i glywed mwy am gynhyrchiad Ie Ie Ie gan y cyfarwyddydd, Juliette Manon.
Pennod 34 – Cyfnod Newydd?
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth Gymraeg yn datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun a bod cryfder traddodiad yn ein galluogi i weld y ‘cyfnodoli’ hwn mewn golau holl wahanol!
Sgwennu’n Well: Cyhoeddi Mentoriaid | Writing Well: Announcing the Mentors

Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 12 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. Darllen mwy am y rhaglen.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 6 artist cyfranogol profiadol a fydd yn darparu mentora i garfan bresennol Sgwennu’n Well:
Dr Tracy Breathnach
Iola Ynyr
Christina Thatcher
Kittie Belltree
Cecilia Knapp
clare.e.potter.
TAIGH/TŶ/TEACH

Yn Theatr Bara Caws rydym wrth ein bodd bod yn cael bod yn rhan o bartneriaeth drawsffiniol arloesol, ynghyd â Theatre Gu Leòr (Yr Alban) a Fishamble (Iwerddon), i gyflwyno profiad theatrig unigryw tairieithog – TAIGH/TŶ/TEACH – i’n cynulleidfaoedd.
Cyd-destun y cynhyrchiad yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, Air B&Bs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Tair stori sy’n amlygu’r sialensau sy’n berthnasol i’r tair gwlad, a’r heriau sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny.
Ysgrifennwyd TŶ/TEACH/TAIGH gan Mared Llywelyn Williams, Mairi Morrison, ac Eva O’ Connor, a byddwn yn perfformio mewn safleoedd-penodol yn y tair gwlad.
Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yw’r lleoliad yng Nghymru, lleoliad a fydd yn sicrhau profiad unigryw i’r gynulleidfa gael ei throchi mewn darn o waith mewn safle cwbl arbennig. Cyflwyniad promenâd yw hwn gyda’r gynulleidfa’n cael ei thywys o un ‘lleoliad’ i’r llall, gan brofi’r dramâu mewn un iaith ar ôl y llall, a cherddoriaeth fyw yn gweu drwy’r cyfan.
Bydd crynodebau Cymraeg ac is-deitlau Saesneg ar gael i sicrhau hygyrchedd.
Tocynnau wedi gwerthu allan – ymunwch â’r rhestr aros yma.
Sut i Drefnu Priodas Pum Mil – Trystan Ellis-Morris, Emma Walford ac Alaw Griffiths

Sut i Drefnu Priodas Pum Mil gan Trystan Ellis-Morris, Emma Walford ac Alaw Griffiths yw Llyfr y Mis, mis Chwefror.
Gŵyl Triban 2024
Mai 31 – Mehefin 1
Eleni, bydd Gŵyl Triban yn ôl am y drydedd flwyddyn i gloi wythnos Eisteddfod yr Urdd mewn steil. Bydd Triban yn cael ei gynnal rhwng y 30ain o Fai i’r 1af o Fehefin ar Faes yr Eisteddfod, a’n cynnig adloniant i’r holl deulu – cerddoriaeth byw, comedi, sgyrsiau, stondinau, bar a bwyd!
I agor Gŵyl Triban ym Maldwyn, ar nos Iau’r 30ain o Fai, bydd noson Gŵyl Gomedi Machynlleth, ar y nos Wener bydd Bwncath ac i gloi nos Sadwrn bydd Eden!
CWRDD: Dim Ond Os Wyt Ti’n Gyfforddus | Only If You’re Comfortable

Vivian Rhule Mewn Sgwrs Gyda’r Artist Christopher Samuel
Dyddiad: Dydd Llun 12fed o Chwefror 2024
Amser: 4yp – 5yp
Lleoliad: Ar Lein
Dehonglydd IAP: Sumayya Si-Tayeb
Vivian Rhule mewn sgwrs gyda’r artist Christopher Samuel. Mae Christopher Samuel yn artist amlddisgyblaethol sy’n gwneud gwaith am anabledd a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Ymunwch â Christopher a’r Artist Vivian Rhule wrth iddynt siarad am y penblethau o gael eich gweld, ymreolaeth, a deinameg pŵer.
Artist amlddisgyblaethol yw Christopher Samuel. Mae cyd-destun ei arfer wedi’i wreiddio mewn gwleidyddiaeth hunaniaeth. Mae’n archwilio themâu byd-eang sy’n codi o ddadansoddiad o ddeinameg seicolegol perthnasoedd a sut mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd.
Mwy am Christopher Samuel
Aberration presents Double Lives

Aberration celebrates LGBTQ+ History Month with ‘Double Lives’ – an enthralling evening of talks and performances. All welcome.
Groundbreaking performer Tom Marshman presents painful, beautiful and hilarious anecdotes from his new theatre piece about Section 28 (the infamous 1988 law that banned schools and councils from ‘promoting homosexuality’). Historian Norena Shopland and Aberration’s own Jane Hoy bring to life Katherine Philips, the 17C woman-loving poet known as the Welsh Sappho (now poster girl for Double Lives!). Archaeologist Alessandro Ceccarelli shows how objects in Welsh collections can cast light on LGBTQ+ desire, love and identities. And author Alis Hawkins talks about her gripping new crime novel A Bitter Remedy with our host Helen Sandler. Plus bookstall from Gayberystwyth Books, and raffle for AllOut.
‘Aberystwyth’s finest queer night’ – Alys Fowler in the Guardian
Generously supported by Aberystwyth University.
Meet the Writer – Bethan Marlow

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol.
Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Gweminar: Symud tuag at drafnidiaeth gynaliadwy

Yn aml mae’n anodd mynd o A i B yng Nghymru heb gar eich hun – a gyda argyfwng costau byw ac ymdrechion Cymru i gyrraedd Sero Net, mae cymunedau wedi bod yn codi i gwrdd â’r her. Yn y gweminar a thrafodaeth yma, byddwn yn clywed gan amrywiaeth o gymunedau dros Gymru am y gwahanol ffyrdd creadigol y maent wedi bod yn ceisio cynyddu mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy, fforddiadwy. Rhai o’r pethau byddwn yn ei drafod: clybiau ceir, cerbydau trydan, bysiau cymunedol ar-alw neu dacsis, a’i gwneud yn haws i reidio (a thrwsio) beiciau.
Mawrth 14, 2-3 yh – cofrestrwch yma
Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

NID Y SIOE THEATR GERDD! Ond, efallai bydd ‘na cân neu ddwy…
Pennod cyntaf 2024 o Chwarae’r Chwedlau ac ar Dydd Gŵyl Dewi! Yn wahanol i’r arfer, nid ydy’r acts yn denu ei ysbrydoliaeth o hanes, ond yn creu hanes personol ei hun: trwy berfformio yn y Gymraeg am y tro gyntaf! Dewch i gefnogi artistiaid sydd yn ceisio hybu’r Cymraeg trwy ei crefft, gan gynnwys drag, cerddoriaeth, barddoniaeth a mwy!
Lein-yp:
Daniel Huw Bowen
Sir Domme Jones
Aiman
The Cardiff Dolls
Marmalade
Cardiff Trans Singers
‘Dyn Ni’n Recriwtio: Swyddog Cyfathrebu

Ydych chi eisiau ymuno â thîm Egin? Gallai hyn fod yn gyfle i chi!
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu newydd i’n helpu i rannu straeon ysbrydoledig gan grwpiau o amgylch Cymru sy’n taclo newid hinsawdd ac yn gweithredu yn eu cymunedau. Mae’r rôl yn un 3 diwrnod yr wythnos, y gellir ei gweithio’n hyblyg ac o gartref (yn neu’n agos i Gymru), a bydd yn cynnwys creu cylchlythyrau, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau ac astudiaethau achos, trefnu digwyddiadau, rheoli’r Gymuned Ar-lein Egin a dod â’ch creadigrwydd a’ch syniadau i sut yr ydym yn gwneud pethau.
Mae un o’r tri diwrnod yr wythnos hefyd wedi’i neilltuo i’r cyfathrebu ehangach ar gyfer CYD Cymru, y sefydliad sy’n darparu Egin: rhwydwaith aelodaeth sy’n cynnwys sefydliadau cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio i greu lleoedd mwy cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol i byw. Mae’r rôl yn cynnig £28,000 FTE (0.6) a rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg.
Dyddiad cau canol dydd, dydd Mercher 6 Mawrth, cyfweliadau 12 a 13 Mawrth
Mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio yma
Y Fainc Ffrindiau gan Wendy Meddour a Daniel Egnéus

Y Fainc Ffrindiau gan Wendy Meddour a Daniel Egnéus yw Llyfr y Mis i Blant.
Mae Tes a’i chi Cysgod wedi symud ty. Ond pan mae Tes yn dechrau mewn ysgol newydd, rhaid i Cysgod aros y tu allan, a Tes yn gorfod chwarae ar ei phen ei hun.
Felly mae athro Tes yn dweud wrthi am roi cynnig ar Y Fainc Ffrindiau – ond mae rhywun arall yn eistedd arni’n barod …
Addasiad Manon Steffan Ros o stori dyner a gobeithiol am wneud ffrindiau newydd ac am bwysigrwydd cyfeillgarwch.
Galwad Agored: Artist Preswyl / Open-call: Artist in Residence

Artist Preswyl
Ynys Enlli – Gwanwyn / Haf 2024
Dyddiad Cau: 29/02/2024
- Hyd at 4 wythnos breswyl
- Artist gyda chysylltiad â Gwynedd, Gogledd Cymru
- Llety hunan-arlwyo a stiwdio
- Artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng
- Ebost: celfenlli@gmail.com am fwy o wybodaeth
2-Day Reflective Practice Facilitator Training with Alison O’Connor

Cofrestrwch yma
23 a 24 Ebrill 2024, 9.30am-5pm [zoom]
Sesiynau Dilynol: 22 Mai 9.30-11am a 17 Gorffennaf 9.30-11.30am
Cost:
£180 / £140 Consesiynau (mae sefydliadau bach nad ydynt yn derbyn cyllid craidd yn gymwys i dderbyn y gyfradd gonsesiwn)
Yr Hyfforddiant:
Anelir y cwrs hyfforddi at hwyluswyr profiadol sy’n rhan o sefydliadau celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid i gyflenwi prosiectau creadigol neu sy’n gweithio gyda nhw.
Bydd y cwrs hyfforddi deuddydd yn rhoi sgiliau i chi allu cynnal grŵp Ymarfer Myfyriol yn eich sefydliad a bod â’r gallu i’w gyflenwi i sefydliadau eraill.
Diwrnod 1:
Profi sesiwn Ymarfer Myfyriol fel cyfranogwr: myfyrio a dysgu o hyn.
Cyflwyniad i Ymarfer Myfyriol a Dynameg Grŵp,
Y dulliau a’r sgiliau hwyluso sydd eu hangen.
Fframio sesiwn Ymarfer Myfyriol: amser, amcanion, cytundeb y grŵp.
Diwrnod 2:
Ymarfer mewn grwpiau bach ac adborth.
Ystyriaethau allweddol: goruchwylio a hunanofal; diogelu, rolau a chyfrifoldebau, heriau cyffredin.
Cynllunio eich rhaglen gyntaf.
February Network Meeting

22/2
Yn ogystal â chynnig cyfle i gysylltu a rhannu arfer, bydd cyfarfod rhwydwaith mis Chwefror yn canolbwyntio ar hil ac anghydraddoldeb yn y Celfyddydau ac Iechyd.
Byddwn yn clywed gan Sam Rodger, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Bolisi a Strategaeth, Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG ynghylch Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl, ynghyd ag artistiaid a phrosiectau yng Nghymru sy’n gweithio i unioni’r anghydraddoldebau hyn.
‘* Sarah Asante Gregory, Hijinx Theatre eu cyflywno NAWA – Neurodiversity and Anti-Racism in Welsh Art – Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau. Gyda chefnogaeth Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.*’
Mae creu amrywiaeth yn y sector, gan gynnwys amrywiaeth ethnig, yn flaenoriaeth allweddol i WAHWN dros y blynyddoedd nesaf, a gallwn eich diweddaru ar y camau rydym ni’n eu cymryd i gynyddu’r gweithlu yn y Celfyddydau ac Iechyd.
GIG KLUST 04

Bydd ein gig nesaf ni ar ddydd Sul 11eg Chwefror draw yn Paradise Garden, Caerdydd — Setiau cynnes braf gan Dafydd Owain, Gillie, Cyn Cwsg, Lila Zing + Keyala i ddathlu lansiad ein hail gylchgrawn, KLUST 02.
Stephanie-Bailey Scott

Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Chwefror yw Stephanie Bailey-Scott, Rheolwr Mynediad, Cyfranogiad a Chynhwysiant yng Nghwmni Theatr Taking Flight. Mae hi’n fyddar ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac mae hi hefyd yn adnabyddus am ei ffyn cerdded hyfryd. Mae ei gwaith yn Taking Flight yn cynnwys rhedeg yr unig theatr ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc Byddar a thrwm eu clyw, cynnal hyfforddiant fel ymwybyddiaeth o Fyddardod, ymgynghori, cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg ac actio hefyd. Mae hi hefyd yn frwd dros gelf ac yn peintio’n rheolaidd yn ei hamser rhydd.
Dysgwch fwy am waith Steph nawr.
Cydnabyddiaeth llun: Claire Cousin
Dolenni cymdeithasol:
X/Twitter: @deafsteph95
Facebook: Steph Bailey-Scott
Instagram: @stephh137
Pennod 33 – Cyflwyno’r Ail Gyfres

Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid.
Grŵp Celf Soar

Grŵp celf wythnosol dan arweiniad yr artist Gus Payne.
Dydd Mawrth (yn ystod y tymor), 1yh – 3yh
Argraffu Gwanwyn | Spring Printing

Gweithdy celf/crefft i’r teulu
Meet the Dramaturg – Jen Lunn

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Meet the Director – Izzy Rabey

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Meet the Movement Director – Osian Meilir

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Cwrdd â’r Awdur – Bethan Marlow

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Rhoi’r gwas newydd yn y glorian

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ddyrchafu’n arweinydd Plaid Cymru mewn amgylchiadau annisgwyl. Craffu ar y modd y mae wedi ymgodymu â’r her honno a wna ein colofnydd y mis hwn.
Clwb Ifor Bach x Dydd Miwsig Cymru

09/02/24
18:00
£5
Llawr Uchaf:
- Kim Hon
- Pys Melyn
- Cyn Cwsg
- Dadleoli
Llawr Isaf:
- Dafydd Owain
- Parisa Fouladi
- Alis Glyn
- Taran
Taith Wrecsam 2024 x Dydd Miwsig Cymru

09/02 – 10/02
Dydd Gwener / Friday:
Dafydd Iwan
Saith Seren – 7.30pm – £15
Endaf | Baby Brave | Eadyth | Ffenest
The Parish – 9.30pm – Am Ddim/Free
Dydd Sadwrn / Saturday:
Open Mic / Meic Agored
The Magic Dragon – 12pm-4pm – pre-Rugby – Am Ddim/Free
Y Gêm Fawr! Rygbi England v Wales Rugby
Tŷ Pawb Flexible Space – 4pm-6.30pm – Am Ddim/Free
Worldcup | Hazmat | Gillie | Eye | Siula
Tŷ Pawb Flexible Space – 7pm-11pm – Am Ddim/Free
Tafarn y Plu x Dydd Miwsig Cymru

Gai Toms a’r Atoms
10.02.2024
Neuadd Llanystumdwy
Drysau’n agor am 19:00
£10 – Tocynnau ar gael o’r Plu neu yma
Ty’n Llan x Dydd Miwsig Cymru

08/02 – BINGO – Cerddoriaeth Fyw hefo Edwin Humphreys
09/02 – Sgwrs hefo’r cerddor Barry ‘Archie’ Jones
10/02 – Gethin Fôn a Glesni Fflur
Glan Llyn x Dydd Miwsig Cymru

Morgan Elwy
Glan Llyn, Clawddnewydd
10.02.24 – 20:00 – Am ddim
Yr Heliwr x Dydd Miwsig Cymru

06.02.24 – Paned a Chacen hefo Gwenan Gibbard
06.02.24 – Cwis Dydd Miwsig Cymru gyda Geth Tomos
Llew Gwyn, Cerrigydrudion x Dydd Miwsig Cymru

Noson yng nghwmni Mari Mathias
Llew Gwyn, Cerrigydrudion
09.02.24 – 20:00 – Am Ddim/Free
Y Pengwern x Dydd Miwsig Cymru

09.02 – Phil Gas A’r Band
10.02 – Gwilym Bowen Rhys